Cyfres G1 - Gohebiaeth gyffredinol/General correspondence

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

G1

Teitl

Gohebiaeth gyffredinol/General correspondence

Dyddiad(au)

  • 1939-2002 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Cyfres

Maint a chyfrwng

174 ffolderi/folders

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1912-2005)

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Llythyrau cyffredinol, 1939-2002, wedi eu cyfeirio at Gwynfor Evans. Mae'r ohebiaeth ar ei hyd yn trafod datblygiad ac ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ceir nifer fawr o lythyrau yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, datblygiad polisi a'r trefniadau ar gyfer etholiadau. Mae nifer sylweddol o wahoddiadau at Gwynfor Evans i annerch cyfarfodydd mewn canghennau'r Blaid ac achlysuron cyhoeddus eraill ledled Cymru, ac mae amryw yn ymdrin â llunio, paratoi, cyhoeddi a dosbarthu'r Ddraig Goch a'r Welsh Nation bob mis. Ceir hefyd nifer o lythyrau'n ymwneud â gweithgarwch a dyletswyddau Gwynfor Evans fel henadur ar Gyngor Sir Gaerfyrddin. Mae materion llywodraeth leol ac addysg yn arbennig o flaenllaw ymhlith y pynciau a drafodir yn yr ohebiaeth. -- Mae nifer o lythyrau hefyd yn adlewyrchu diddordebau llenyddol a diwylliannol eang Gwynfor Evans, gan gynnwys ei gefnogaeth gyson i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Urdd Gobaith Cymru. Ceir amryw o geisiadau i ysgrifennu erthyglau a chyfrannu at raglenni radio a theledu ac eraill yn ymateb i gyfrolau, pamffledi ac erthyglau a luniwyd gan Mr Evans. Mae'r llawer o'r ohebiaeth gynnar yn cyfeirio at fudiadau fel Heddychwyr Cymru, ymrwymiadau Gwynfor Evans i bregethu mewn capeli a chyhoeddi taflenni ac erthyglau. -- Mae'r llythyrau yn cynnwys llawer iawn o dystiolaeth am ddatblygiad ac ymgyrchoedd Mudiad Senedd i Gymru rhwng 1950 a 1956, ymgyrch Tryweryn ac is-etholiad Sir Gaerfyrddin, Gorffennaf 1966. Yn ystod y cyfnodau pan fu Gwynfor Evans yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn y Senedd - 1966 tan 1970, a Hydref 1974 tan 1979 - mae'r ohebiaeth wrth reswm llawer iawn llawnach ac yn fwy cyfoethog. Mae'n cynnwys llythyrau oddi wrth nifer fawr o wleidyddion blaenllaw yn y pleidiau gwleidyddol eraill yn ogystal â ffigyrau Cymraeg yn y byd gwleidyddol. Ceir cyfeiriadau at ddigwyddiadau a datblygiadau yn San Steffan, mesurau a deddfau. -- -- Mae rhai o'r ffeiliau mwy diweddar hefyd yn cynnwys copïau o atebion Gwynfor Evans. -- General letters, 1939-2002, addressed to Gwynfor Evans. Throughout the series the correspondence discusses the development of Plaid Cymru and the varied campaigns in which the party was engaged. Many of the letters discuss the arrangements for public meetings, the formulation of party policy and election preparations. There are a large number of invitations to Gwynfor Evans to address meetings of Plaid Cymru branches and other public events throughout Wales, and a substantial number relate to the drafting, preparation, publication and distribution of Y Ddraig Goch and the Welsh Nation each month. Some of the letters concern Mr Evans's activities and duties as an alderman of Carmarthenshire County Council. Among the many subjects discussed in the letters, local government matters and education are especially prominent. -- Many letters reflect Gwynfor Evans's wide-ranging literary and cultural interests, including his constant support for the National Eisteddfod and Urdd Gobaith Cymru. There are many requests to write press columns and articles and contribute to radio and television programmes, and some responses to books, pamphlets and articles written by him. -- Much of the early correspondence refers to movements like Heddychwyr Cymru (the Welsh Pacifist movement), Gwynfor Evans's commitments to undertake preaching engagements in various chapels and the publication of pamphlets and articles. -- The letters include a great deal of evidence about the development and the campaigns of the Parliament for Wales movement between 1950 and 1956, the Tryweryn campaign and the Carmarthenshire by-election of July 1966. During the periods when Gwynfor Evans represented Carmarthenshire in parliament - 1966 until 1970, and October 1974 until 1979 - the correspondence is, as might be expected, much fuller and richer. It includes letters from a large number of prominent politicians in the other political parties as well as from Welsh political figures. They refer to events and developments at Westminster, and bills and acts of parliament. -- Some of the more recent files also contain copies of letters sent by Gwynfor Evans.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd y llythyrau'n gronolegol fesul ffeil ar wahân i ffeil G1/174 (gohebiaeth heb ddyddiad) a roddwyd ar ddiwedd y gyfres. Casglwyd gweddill y llythyrau heb ddyddiad ynghyd naill ai ar ddiwedd blwyddyn, neu ar ddiwedd cyfnod o bum mlynedd neu ar ddiwedd cyfnod o ddegawd. Yn wreiddiol, pan ddaeth rhannau o'r archif i'r Llyfrgell yn y 1970au a'r 1980au, trefnwyd yr ohebiaeth yn nhrefn y wyddor yn ôl gohebydd, ac fe'u cadwyd felly am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, wrth eu catalogio penderfynwyd eu hail-drefnu yn gronolegol. /The letters have been arranged chronologically by and within each file with the exception of file G1/174 (undated letters) which has been placed at the end of the series. The rest of the undated letters have been grouped together either at the end of a single year or at the end of a five year period or at the end of a decade. Originally, when parts of the archive came to the Library in the 1970s and 1980s, the letters were arranged alphabetically by the name of the correspondent and were kept thus for a number of years. It was decided while cataloguing, however, that they should be re-arranged chronologically.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Preferred citation: G1

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004372244

GEAC system control number

(WlAbNL)0000372244

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn