Fonds GB 0210 NANTGWRTH - Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 NANTGWRTH

Teitl

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

Dyddiad(au)

  • 1891; 1972-2015 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

41 bocs

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes archifol

Cadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth, dan ofal Dr Carl Iwan Clowes, hyd at eu trosglwyddo i'r Llyfrgell.

Ffynhonnell

Dr Carl Iwan Clowes, Pentraeth, Môn; Rhodd; Gorffennaf 2018

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cedwir pob cofnod a drosglwyddwyd i LlGC.

Croniadau

Disgwylir croniadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn ôl y drefn wreiddiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Mae'r cyfreithiau hawlfraint arferol yn perthyn.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Daneg
  • Ffrangeg
  • Gaeleg yr Alban
  • Llydaweg
  • Rwmaneg
  • Saesneg
  • Slofeneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg a Saesneg yn bennaf; hefyd rhywfaint o Ffrangeg, Gaeleg yr Alban, Daneg, Llydaweg, Slofeneg, a Rwmaneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

NLW, Papurau D. G. Lloyd Hughes, P/274, D/7, P/A/15; NLW, Archif Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, PDAG 121; NLW, Papurau Dafydd Elis Thomas, L5.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Seilir teitl y catalog ar gynnwys yr archif.

Nodiadau

Mae rhai papurau yn y casgliad sy'n cynnwys data sensitif wedi cael eu golygu, a gynrychiolir gan dudalennau porffor.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

GB 0210 NANTGWRTH

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Mae'r disgrifiad hwn yn dilyn canllawiau LlGC yn seiliedig ar ISAD(G) 2il arg.; RDA NACO; a LCSH

Statws

Draft

Lefel manylder disgrifiad

Minimal

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Tachwedd 2018

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth baratoi'r disgrifiad hwn: gwefan Nant Gwrtheyrn (gwelwyd Tachwedd 2018); dogfennau o fewn yr archif.

Nodyn yr archifydd

Catalogwyd gan Lucie Hobson a David Moore.

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig