Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1838, 1925-[1999] (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.036 metrau ciwbig (4 bocs); 1 bocs mawr (Mawrth 2009)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Agorwyd capel cyntaf y Garth, Moriah, yn 1845. Cyn hyn nid oedd yna gapel Methodistaidd ym Mhorthmadog, ac felly mynychai Methodistiaid y dre yr eglwys Fethodistaidd yn Nhremadog. Tua 1840 sefydlwyd eglwys Sabothol ym Mhorthmadog. I ddechrau y man cyfarfod oedd mewn gweithdy ar y Grisiau Mawr ym Mhencei. Yna symudodd i fod mewn ystafell mewn tŷ ar y ffordd i Benclogwyn. Adnabuwyd hwn fel yr Ysgoldy Bach. Gyda thwf y dre aeth Capel Tremadog yn rhy fach a gwelwyd yr angen i adeiladu capel ym Mhorthmadog. O ganlyniad, adeiladwyd Capel Moriah yn y Garth. Tybir bod tri capel arall wedi tyfu allan o'r Garth, gan nad oedd y capel yn ddigon mawr i'r holl aelodau. Yn 1856 agorwyd capel Morfa Bychan; yn ail, yn rhannol yn sgïl diwygiad 1859, cafwyd capel y Tabernacl, a agorodd yn 1862; ac yn drydydd daeth capel y Borth (capel Borth y Gest a agorwyd yn 1874). Fodd bynnag, ymhen amser cafwyd bod capel y Garth yn parhau i fod yn rhy fach, er gwaethaf gwaith i'w helaethu, a phasiwyd i adeiladu capel newydd yn 1893. Prynwyd darn o dir yn Bank Place yn 1895 ac agorwyd y capel newydd yn 1898.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd gan Mr John Rees Jones, Porthmadog, Mai 2002, a chan Mr Gareth Edwards, Porthmadog, Mawrth 2009.; 0200207532
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau Casgliad y Weinidogaeth, 1944-1996; llyfrau cyfrifon amrywiol, 1972-1996; cofnodion gweinyddol, megis cytundebau, gohebiaeth, llungopi o gofrestr bedyddiadau ac ystadegau, [1965]-1992; llyfrau Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1925-1996; llyfrau cyfrifon yr Ysgol Sul, 1950-1996; a phapurau amrywiol megis llyfr tonau a dyddiaduron, 1838, 1978-[1999].
Daeth cofysgrifau ychwanegol i law, yn cynnwys llyfr cofnodion Pwyllgor Blaenoriaid, 1954-1995; llyfr cofnodion y Pwyllgor Adeiladau, 1962-1987; tri llyfr casgliadau, 1947-1957, 1958-1962 a 1963-1967; pedair cyfrol y Trysorydd, 1957-1963, 1958-1961, 1962-1966 a 1966-1972; a chyfrol yn nodi derbyniadau a thaliadau, 1972-1981.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Mae copïau drafft a chopïau ychwanegol o Adroddiadau Blynyddol y Capel wedi eu dinistrio..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl
System o drefniant
Trefnwyd yn bum cyfres: Llyfrau Casgliadau y Weinidogaeth, cyfrifon cyfraniadau amrywiol, cofnodion gweinyddol, llyfrau Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, a llyfrau cyfrifon yr Ysgol Sul; ac yn ddwy ffeil: llyfr tonau William Owen a dyddiaduron y Suliau.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni nodir yn wahanol
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau ACCR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Rhagfyr 2002
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Nia Wyn Griffiths.
Nodyn yr archifydd
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Y Ganrif Gyntaf, 1845-1945 Braslun o Hanes yr Eglwys, " Y Garth" Porthmadog (Lerpwl, 1945).