Showing 29 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel y Garth, Porthmadog
Print preview View:

Llyfrau Casgliad y Weinidogaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys yn bennaf llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1944-1996, ynghyd â chyfrolau a bwndeli o bapurau rhydd yn cynnwys cyfrifon ar gyfer casgliadau y weinidogaeth yn ôl pob tebyg, a gopïwyd yn ddiweddarach i'r cofrestri ffurfiol, 1977-1996.

Llyfr cyfrifon

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr cyfrifon sy'n nodi cyfraniadau tuag at bethau megis yr organ a diolchgarwch. Hefyd, ceir crynodeb o'r 'casgliadau rhydd' a dderbyniwyd dros y flwyddyn a nodir yn y gyfrol yn 2/2.

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud yn bennaf â'r adeilad a thir y capel, ynghyd â rhai llythyrau yn ymwneud â dewis blaenoriaid i'r capel, llythyr o ddiolch am anrheg ymddeoliad gan y capel a llythyr ynglŷn â thenantiaeth un o dai y capel.

Llyfrau Ysgrifennydd yr Ysgol Sul

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1925-1933, 1954-1970, 1996. Ceir ystadegau am ddosbarthiadau'r Ysgol Sul, megis enwau'r athrawon a'r aelodau, nifer o adnodau a phenillion a ddarllenwyd ynghyd â phresenoldeb a chyfraniadau'r aelodau.

Results 1 to 20 of 29