Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1839-1916 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Casgliad o’r hyn a argraffwyd gan Rees & Evans, Swyddfa’r ‘Herald’, Caernarfon; Harrison & Sons, Printers in Ordinary to His Majesty, St. Martin’s Lane; Cwmni y Wasg Eglwysig Gymreig, Llanbedr Pont Steffan; J. Gibson, Cambrian News Printing Works, Aberystwyth; M. M. & W. R. Thomas, Steam Printers, Aberteifi; ‘Journal’ Caerfyrddin; M. Jones, Heol y Prior, Caerfyrddin; a H. Evans, Bala.
Ceir yr eitemau canlynol: taflen Undeb y Cymdeithasau Cymraeg Adran Dyfed yn hysbysu am gyfarfod ar fore’r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (17 Awst 1916); ‘Barddoniaeth gan hen awdwyr, or Ancient Welsh Poetry. Ex No. 2161, inter MSS. Phillips, apud Middle Hill’, tt.1-4; carden yn hysbysu arddangosfa ‘Centenary of Introduction of Printing at Aberystwyth’ (1909); pennill gyda’r llinell gyntaf: “Cawsom blant rifedi 12”; ‘Rheolau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru’ (Caernarfon, 1875); ‘On a Scheme for Rendering the Charters and MSS. in the Various repositories available for County Purposes by Professor W. A. Copinger, F.S.A. (Congress of Archaeological Societies in Union with the Society of Antiquaries, July 3rd, 1907)’; ‘Pwnc y Pasc’ gan T. Meredith Williams, Ficerdy Llanarth; erthygl “About Book Collecting” allan o The Printing Machinery Record, tt. 15-16; llyfryn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (d.d.); copi 27 Mawrth 1903 o ‘Y Cardi’; erthygl “English Book-plates” gan Russell Nadin allan o The Bazaar, the Exchange and Mart, 5 Ebrill 1907, tt. 957-960; ‘Catalogue of Welsh Literature’ Goronwy Williams, Cymric Book Stores, Ruthin (1913); ‘Sale of Antique & Modern Household Appointments’ Glandenys, Llanbedr Pont Steffan (8 Medi 1909); ‘Yr Eglwys a’r Etholiad. Dyletswydd Etholwyr’ gan Yr Esgob Owen; taflen etholiad David Davies (Etholiad Cyffredinol Sir Aberteifi, 1885); marwnad ‘Cwyn Coll am Dafydd Thomas (Dewi Hefin)’ gan Myfyr Arthen [1909]; ‘Rhaglen o Destynau Eisteddfod Gadeiriol Abercych’ (1899); rhaglen ‘A Chair Eisteddfod’ Llansteffan, 1903; llyfryn ‘Caricatures of famous men’ gan J. H. Lunn; dau gopi o ‘Prophwydoliaeth Myrddin Wyllt; yn nghyda ber hanes o’i fywyd, wedi eu tynu allan o Lyfr y Daroganau’, gydag un ag arysgrif ‘John Jenkins, Farmfach, Llandyssul 18[87]’ ar frig y dudalen deitl a’r llall yn gopi anghyflawn a gyhoeddwyd yn 1839; ‘Deuddeg o Gerddi Cymru, hen a diweddar’.