Dangos 60 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Gwasg Gomer
Rhagolwg argraffu Gweld:

Anfonebau

Anfonebau ar gyfer y wasg, 1929-1931, a drosglwyddwyd i LlGC mewn amlen a nodwyd "Hen filiau ac ati".

Argraffwaith cynnar Gwasg Gomer

Cyfrol gyda ‘GWASG GOMER’ wedi’i stampio ar y meingefn [mae’r clawr blaen yn eisiau] a llofnod John D. Lewis ar y tudalen rwymo, yn cynnwys casgliad o 18 o gyhoeddiadau (19 eitem gan fod yna ddau gopi o’r un gwaith) a argraffwyd gan J. D. Lewis, Gomerian Press / Gwasg Gomer, Llandysul rhwng 1896 a 1910.
1) ‘Marwnad i’r diweddar Thomas Humphreys, Penlon Esger, Llandyssul, gan Rees Rees (Isfryn), Pencader’ (1896);
2) ‘Cyfansoddiadau buddugol yn Eisteddfod Deheudir Cymru, a gynhaliwyd yn Llandyssul, Awst yr 2il, 1894’ (1896);
3) ‘“Enwogion Dyffryn Cerdin”: Tair can wobrwyedig yn Eisteddfod Tregroes Tachwedd 18fed, 1896’ (1897);
4) ‘Dwy bryddest goffadwriaethol i’r diweddar Barch. W. E. Jeffreys, Saron a Charmel, Llandyssul’ (1898);
5) ‘Ar lan y mor, a chaneuon ereill, gan T. J. Thomas, B.Sc., (Sarnicol)’ (1898);
6) ‘Dwy bryddest: ‘Crist yn cario’r groes,’ a ‘Y Gwanwyn’ gan James Clement (Alarch Ogwy), Sciwen’ (1899);
7) ‘Can newydd: Didymus Glangwilly, O Gaerfyrddin i Aberteifi, ar ben y Mail [Ail-Argraffiad]’ (1905);
8) ‘Annerch y mab i’r ferch gyfarfu ar y rhiw’ (1905);
9) ‘Serch-gerdd, a gyfansoddwyd ar daer ddymuniad y sawl y perthynai iddynt, ac yn neillduawl y claf o gariad gan Dewi Bevan Jones (Dewi Elved)’ (1905);
10) ‘Drylliad yr “Eleander” ar draeth Ceinewydd, Tachwedd 19eg, 1906’ (d.d.);
11) ‘Stori Shaci’r gwas, gan Sarnicol’ (1906);
12) ‘Myfyrdod ar einioes ac angau Davis, Castell Hywel, wedi ei olygu gan T. J. Thomas, B.Sc., (Sarnicol)’ (1908);
13) ‘Cri Carcharor dan farn marwolaeth, gan Y Parch David Davis o Gastellhywel, Ceredigion [Ail-argraffiad]’ (1906);
14) ‘Llais o’r Llwyn: sef cyfansoddiadau buddugol, ac eraill cystadleuol, yn Eisteddfod Llwynyrhwrdd, Mawrth 27, 1907, yn nghyd ag atodiad Tystebol’ (1907);
15) ‘Hen ysgoldy Penybanc (Athrofa Dr. Phillips, Neuaddlwyd): Can fuddugol yn Eisteddfod Llwyncelyn, Ceredigion, Gwyl Ddewi, 1909’ (1909);
16) ‘Ceinion Moes: gan D. Luther Johnson, Ysgol Capel Dewi, Llandyssul’ (1909);
17) ‘Can newydd Didymus Glangwilly, o Gaerfyrddin i Aberteifi, ar ben y Mail [y pedwerydd argraffiad]’ (1909) [2 gopi];
18) ‘Pryddest goffadwriaethol ar ol y diweddar Mrs. Griffiths Birdlip, Llandyssul’ (1910).

Biliau cyfreithwyr

Bil David Lewis, [???? gwehydd, Llandysul [gwr Mary Jones, Caebach???] am wasanaeth John Jones, Cyfreithiwr, Llandysul, 1866; bil John D. Lewis, Market Stores am wasanaeth Evans & Thomas, Cyfreithwyr, Llandysul, ynglŷn â phrynu The White Lion, Llandysul, 1892; bil Hannah Lewis, Gomerian Press am wasanaeth Messrs Evans & Thomas, Cyfreithwyr, Llandysul, ynglŷn â’r diweddar John D. Lewis, 1914.

Canmlwyddiant Gwasg Gomer

Ffeil yn cynnwys llythyrau, cardiau, ysgrifau a cherddi a dderbyniwyd ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Wasg yn 1992. Ceir ysgrifau byr o atgofion gan Hywel Teifi Edwards, Nansi Siop [un o staff Siop Gomerian], T. Llew Jones, W. Rhys Nicholas, Eigra Lewis Roberts, Islwyn Ffowc Elis a Jane Edwards.

Cardiau 100 oed

Cardiau a dderbyniodd Gwasg Gomer ar achlysur dathlu pen-blwydd y cwmni yn 100 oed wrth ddisgyblion Ysgol Gymraeg Caerffili yn bennaf.

Casgliad effemera John D. Lewis

Casgliad o’r hyn a argraffwyd gan Rees & Evans, Swyddfa’r ‘Herald’, Caernarfon; Harrison & Sons, Printers in Ordinary to His Majesty, St. Martin’s Lane; Cwmni y Wasg Eglwysig Gymreig, Llanbedr Pont Steffan; J. Gibson, Cambrian News Printing Works, Aberystwyth; M. M. & W. R. Thomas, Steam Printers, Aberteifi; ‘Journal’ Caerfyrddin; M. Jones, Heol y Prior, Caerfyrddin; a H. Evans, Bala.
Ceir yr eitemau canlynol: taflen Undeb y Cymdeithasau Cymraeg Adran Dyfed yn hysbysu am gyfarfod ar fore’r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (17 Awst 1916); ‘Barddoniaeth gan hen awdwyr, or Ancient Welsh Poetry. Ex No. 2161, inter MSS. Phillips, apud Middle Hill’, tt.1-4; carden yn hysbysu arddangosfa ‘Centenary of Introduction of Printing at Aberystwyth’ (1909); pennill gyda’r llinell gyntaf: “Cawsom blant rifedi 12”; ‘Rheolau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru’ (Caernarfon, 1875); ‘On a Scheme for Rendering the Charters and MSS. in the Various repositories available for County Purposes by Professor W. A. Copinger, F.S.A. (Congress of Archaeological Societies in Union with the Society of Antiquaries, July 3rd, 1907)’; ‘Pwnc y Pasc’ gan T. Meredith Williams, Ficerdy Llanarth; erthygl “About Book Collecting” allan o The Printing Machinery Record, tt. 15-16; llyfryn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (d.d.); copi 27 Mawrth 1903 o ‘Y Cardi’; erthygl “English Book-plates” gan Russell Nadin allan o The Bazaar, the Exchange and Mart, 5 Ebrill 1907, tt. 957-960; ‘Catalogue of Welsh Literature’ Goronwy Williams, Cymric Book Stores, Ruthin (1913); ‘Sale of Antique & Modern Household Appointments’ Glandenys, Llanbedr Pont Steffan (8 Medi 1909); ‘Yr Eglwys a’r Etholiad. Dyletswydd Etholwyr’ gan Yr Esgob Owen; taflen etholiad David Davies (Etholiad Cyffredinol Sir Aberteifi, 1885); marwnad ‘Cwyn Coll am Dafydd Thomas (Dewi Hefin)’ gan Myfyr Arthen [1909]; ‘Rhaglen o Destynau Eisteddfod Gadeiriol Abercych’ (1899); rhaglen ‘A Chair Eisteddfod’ Llansteffan, 1903; llyfryn ‘Caricatures of famous men’ gan J. H. Lunn; dau gopi o ‘Prophwydoliaeth Myrddin Wyllt; yn nghyda ber hanes o’i fywyd, wedi eu tynu allan o Lyfr y Daroganau’, gydag un ag arysgrif ‘John Jenkins, Farmfach, Llandyssul 18[87]’ ar frig y dudalen deitl a’r llall yn gopi anghyflawn a gyhoeddwyd yn 1839; ‘Deuddeg o Gerddi Cymru, hen a diweddar’.

'Ceinciau'r Mabinogi'

Copi rhif 40 o ‘Ceinciau’r Mabinogi’ gan Brinley Rees a argraffwyd gan J. D. Lewis a’i Feibion Cyf.

Cofnodion bancio

Llyfr banc gydag enw ‘Messrs D. Lewis & Son’ wedi’i nodi ar y clawr, sef cyfrif banc Messrs David Lewis & Son, Gomerian Press gyda’r Metropolitan Bank (of England & Wales) Limited rhwng 1895 a 1901; ynghyd â bill E. L. Thomas a John D. Lewis, dyddiedig 21 Medi 1913, i dalu Metropolitan Bank (of England & Wales) Limited a siec Llandyssul Branch of the Metropolitan Bank (of England & Wales) Limited, dyddiedig 11 Medi 1914, yn talu’r Parch. E. D. Henry ac wedi’i lofnodi gan John D. Lewis.

Copi John D. Lewis o 'Hanes Plwyf Llandyssul'

Copi personol John D. Lewis o ‘Hanes Plwyf Llandyssul’ gan y Parch. W. J. Davies, Llandysul (1896), sef y llyfr cyntaf i’w argraffu a’i gyhoeddi gan John D. Lewis. Ceir llofnod John D. Lewis ar y dudalen deitl a’i stamp ar y dudalen rwymo. Mae’r gyfrol wedi’u rhyngddalennu ac yn cynnwys nodiadau a thoriadau wedi’u pastio ar y dalennau hynny sy’n cynnig gwybodaeth ychwanegol hyd at c. 1945.

Cytundebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a thystysgrifau yswiriannau

Mae'r ffeil yn cynnwys tystysgrif yswiriant Alliance Assurance Company, Limited ar gyfer J. D. Lewis, 1910; cytundeb David Lewis, Gomerian Press gyda West Cambrian Power Co. Ltd. i gyflenwi trydan, 1936; polisi yswiriant J. D. Lewis & Sons ar gyfer y Wolseley Saloon, 1952; a dwy dderbynneb oddi wrth British Engine Boiler & Electrical Insurance Co. Ltd. ar gyfer premiwm yswiriant wrth adnewyddu polisi. DYDDIAD???

Deunydd marchnata

Mae'r ffeil yn cynnwys amlen J. D. Lewis & Sons yn hysbysebu Swan Pens; amlen wag oddi wrth J. D. Lewis & Sons [marc post dyddiedig 1935]; a charden busnes J. D. Lewis & Sons.

Deunydd printiedig amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys rhaglen gwobrau Eisteddfod Gadeiriol a Choronog De Cymru (South Wales Chair & Crown Eisteddfod) i’w chynnal yn Llandysul, 2 Awst 1894; llythyr, Ionawr 1900, yn hysbysu am gyfarfod cyhoeddus gyda’r bwriad o drefnu band pres yn y dref, ynghyd â rhestr o danysgrifwyr (1901) i The Llandyssul Town and District Brass Band; poster GWR yn hysbysu tocynnau ar gyfer Eisteddfod a Chyngerdd yn Llandysul, 9 Awst 1900; copi o ‘Regulations made by The Rural District Council of Llandyssul with respect to Dairies, Cowsheds & Milkshops in the Rural District of Llandyssul’, 1908; rhaglen Cyngerdd Calan Hen i’w chynnal yn Ystafelloedd Cynnull y Porth, Llandysul, 12 Ionawr 1912; ac adroddiad blynyddol Llandysul District Nursing Association ar gyfer 1913-1914; ynghyd â thocyn Great Western Railway o Glasgow Central Station i Gaerfyrddin, 7 Medi 1901.

Canlyniadau 1 i 20 o 60