Fonds GB 0210 CYMAEG - Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,

Identity area

Reference code

GB 0210 CYMAEG

Title

Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,

Date(s)

  • 1967-1998 / (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

2.762 metrau ciwbig (113 bocs)

Context area

Name of creator

Administrative history

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962 i hyrwyddo defnydd o'r iaith Gymraeg, gan ymgyrchu dros ddefnydd ohoni gan gyrff cyhoeddus, busnesau, a'r cyfryngau. Mae iddi hanes maith o lobio, a chynnal gwrthdystiadau a phrotestiadau cyhoeddus. Trefnwyd y Gymdeithas yn chwe rhanbarth a chelloedd lleol, dan arolygiaeth y Senedd. Cynhaliai cyfarfod hyfforddi blynyddol (Ysgolion Pasg) ac yr oedd 'Grŵp y Dysgwyr' yn adran ar wahân i ddysgwyr. Bu'r Gymdeithas yn ymgyrchu yn helaeth dros y blynyddoedd dros arwyddion ffyrdd yn y Gymraeg, cydnabyddiaeth gyfreithiol i'r iaith Gymraeg, addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a chreu sianel deledu Cymraeg.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; Aberystwyth; Adnau; 1978-1998

Content and structure area

Scope and content

Mae'r archif yn cynnwys: pamffledi, cylchlythyron etc., amrywiol; dwy gyfrol o gofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Canolog (1967-70) a Senedd (1970-Ionawr 1975) Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a rhai y cyfarfodydd cyffredinol blynyddol; cofnodion y Senedd,1974-1981 ac adroddiadau gan wahanol grwpiau o'r Gymdeithas, 1976-1981; papurau gweinyddol,1970-1981, yn cynnwys copïau o benderfyniadau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd cyffredinol y Gymdeithas a deunydd printiedig; papurau yn ymwneud â Grŵp y Dysgwyr, 1974-1985; papurau yn ymwneud â Mudiad Rhyddid yr Iaith, 1977; papurau yn ymwneud ag ymgyrchoedd y bu'r Gymdeithas yn eu canlyn,1970-1981, gan gynnwys yr ymgyrch dros sianel deledu Cymraeg; ffeiliau gohebiaeth,1966-1986; ffeiliau swyddfa,1971-1981; datganiadau i'r wasg etc., 1970-1990; cofnodion y Senedd,1979-1991; ffeiliau amrwiol,1975-1991; papurau yn ymwneud â darlledu, 1974-1980; ffurflenni aelodaeth, 1979-1990; papurau ynghylch y grŵp addysg, 1982-1989; papurau ynghylch tanysgrifiadau i Tafod y Ddraig, 1980-1990; llyfrau lloffion, 1965-1967, yn cynnwys papurau yn adlewyrchu ymgyrchoedd a gweithgareddau y Gymdeithas; cofnodion cyfarfodydd, 1966; atgofion am sefydlu'r Gymdeithas yn 1962 a'i datblygiad cynnar; amrywiol dorion o'r wasg; a phosteri amryfal. Y mae grŵp Mai 1996 yn cynnwys papurau, 1971-1993, yn ymwneud â gwahanol ranbarthau y Gymdeithas a phapurau,1984-1993, yn ymwneud â'i chynghorau, cyfarfodydd seneddol etc. Y mae'r grŵp mawr o gofnodion a dderbyniwyd ym mis Gorffennaf 1998 a mis Ionawr 1999 yn cynnwys y canlynol: llyfrau lloffion,1971-1996,yn cynnwys torion o'r wasg yn disgrifio ymgyrchoedd a gweithgareddau y Gymdeithas a bywyd gwleidyddol Cymru; papurau yn ymwneud ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1986-1994, gohebiaeth oddi wrth y Swyddfa Ganolog,1988-1997; papurau ynglŷn â chelloedd a rhanbarthau y Gymdeithas, 1977-1996; papurau gweinyddol, 1977-1998, yn cynnwys dyddiaduron swyddfa, rhestrau aelodaeth, papurau yn perthyn i wahanol swyddogion y Gymdeithas, papurau ynglŷn â grŵp addysg y Gymdeithas, deunydd yn deillio o lawer o ymgyrchoedd y Gymdeithas, papurau ynglŷn â chyrsiau ar gyfer dysgwyr, papurau ynglŷn â'r Ddeddf Eiddo, a datganiadau i'r wasg. = The archive comprises: a series of forms bearing signatures supporting the Welsh Language Society's Petition to the new local authority bodies in Wales requesting them to strengthen the Welsh Language and Welsh Society; a series of forms bearing signatures supporting the Society's declaration of support for the workers of Shotton; miscellaneous pamphlets, circulars; etc.; two volumes of minutes of meetings of the Central Committee (1967-70) and Senate (1970-January 1975) of the Welsh Language Society and of some of the annual general meetings; minutes of the Senate, 1974-1981 and reports from various groups of the Society, 1976-1981; administrative papers, 1970-1981, including copies of resolutions presented to the general meetings of the Society and printed matter; papers concerning the Learners' Group, 1974-1985; papers concerning the Language Freedom Movement, 1977; papers concerning the campaigns pursued by the Society, 1970-1981, including the campaign for a Welsh language television channel; correspondence files, 1966-1986; office files, 1971-1981; press releases etc., 1970-1990; Senate minutes, 1979-1991; miscellaneous files, 1975-1991; papers relating to broadcasting, 1974-1980; membership forms, 1979-1990; papers concerning the education group, 1982-1989; papers concerning subscriptions to Tafod y Ddraig, 1980-1990; scrapbooks, 1965-1967, containing papers reflecting the campaigns and activities of the Society; minutes of meetings, 1966; reminiscences on the establishment of the Society in 1962 and its early development; miscellaneous press cuttings; and miscellaneous posters. The May 1996 group comprises papers, 1971-1993, relating to the various regions of the Society and papers, 1984-1993, relating to its councils, parliamentary meetings etc. The large group of records received in July 1998 and January 1999 comprise the following: scrapbooks, 1971-1996, containing press cuttings describing the campaigns and activities of the Society and Welsh political life; papers relating to the Urdd National Eisteddfod and the Welsh National Eisteddfod, 1986-1994, correspondence from the Central Office, 1988-1997; papers concerning cells and regions of the Society, 1977-1996; administrative papers, 1977-1998, including office diaries, membership lists, papers belonging to various officials of the Society, papers concerning the Society's education group, material deriving from many of the Society's campaigns, papers concerning courses for Welsh learners, papers concerning the Property Act, and press releases.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion..

Accruals

Disgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad pob adnau ac yna yn ôl pwnc o fewn pob grŵp. Cadwyd y ffeiliau gwreiddiol wrth gatalogio.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

A number of files (see list below) are closed under the Freedom of Information Act 2000 Section 40 (Personal information) until the date noted.
File 3/13 (2063)
File 3/14 (2063)
File 3/15 (2065)
File 8/1-4 (2057)
File 16/1 (2066)
File 16/2 (2067)
File 16/3 (2067)
List of members in in-numbered file in Box 24 (2069)
Box 25 (2063)
Box 26 (2066)
Box 27 (2068)
Box 28 (2070)
Box 29 (2072)
List of members in un-numbered file in Box 32 (2071)
File 52/1 (2069)
File 55/1 (2073)
File 69/1 (2072)
File 101/5 (2073)
File 101/6 (2080)

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • English
  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Gellir gweld a chwilio'r catalog trwy ddilyn y ddolen hon: https://archifau.llyfrgell.cymru/external_documents/Cymdiaith.pdf

Ceir copi caled o'r rhestrau hefyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1982, tt. 7-8; 1984, t.17; 1985, tt.3-5; 1986,11-12; 1987, tt.20-21; 1993, 17-18; 1995, 16-21; 1997, tt.25-27, a 1999, tt.25-33. Mae'r catalog hefyd ar gael ar lein. Nodwyd y ddau grŵp cynharaf yn LlGC, Adroddiad Blynyddol, 1977-78, t. 68, ac LlGC Adroddiad Blynyddol, 1978-79, t. 76.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir papurau pellach yn LlGC, Papurau Cymdeithas yr Iaith (Rhodri Williams), Papurau Cymdeithas yr Iaith (Cell Casnewydd), a Phapurau Cymdeithas yr Iaith (Cell Ceredigion). Yn ogystal, ceir nifer o bapurau'n ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mysg Papurau Ymchwil Dylan Phillips yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Related descriptions

Publication note

Dylan Phillips, Trwy ddulliau chwyldro -? : hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962-1992 (Llandysul, 1998)

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844461

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2 and LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

May 2005 and September 2006

Language(s)

  • English

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Martin Locock, Annette Strauch a J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1982-1999; LlGC, Adroddiad Blynyddol, 1977-78, t. 68, ac LlGC Adroddiad Blynyddol, 1978-79, t. 76; gwefan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (cymdeithas.com), edrychwyd 23 Mai 2005.

Accession area