Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1970-2015 (Creation)
Level of description
Ffeil / File
Extent and medium
1 ffolder
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron oddieithr Menna Elfyn ond sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: adolygiadau o'i chasgliadau barddonol megis Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), Cell Angel (1996), Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), Perffaith Nam/Perfect Blemish (2007) Merch Perygl (2011) a Murmur (Bloodaxe Books, 2012), The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a John Rowlands, Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil, ac Ar Dir Y Tirion (1993), drama'r geni tra amgen, ill dwy a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, a'i nofel i blant a phobl ifanc Madfall ar y Mur (1993)); hanes digwyddiadau a gŵyliau y bu Menna Elfyn yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Binding the Braids, digwyddiad barddonol rhyng-Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ym 1992, Gŵyl Lenyddol Ilkley, Swydd Efrog, 1992, a 'Threave Poets', digwyddiad fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Dumfries a Galloway a gynhaliwyd yn Castle Douglas ym 1994; erthygl yn ymwneud â darlleniad o farddoniaeth yng Nghymraeg, Saesneg, Lithwaneg a Malteg i ddathlu digwyddiad o fewn yr Undeb Ewropeaidd; datganiadau i'r wasg sy'n ymwneud yn bennaf â llwyddiannau barddonol a llenyddol Menna Elfyn, gan gynnwys ei phenodiad fel Bardd Plant Cymru am 2002-2003 (y bardd benywaidd cyntaf i'w hanrhydeddu â'r swyddogaeth honno); ac erthyglau yn ymwneud â Menna Elfyn, ei bywyd a'i gwaith, gan gynnwys toriad o'r Western Mail, 1 Rhagfyr 1970, sy'n dangos llun o Menna Elfyn a rhai o'i chyd-fyfyrwyr o Goleg y Brifysgol Abertawe yn gwrthdystio yn erbyn yr hyn a welsant fel y mewnlifiad gormodol o fyfyrwyr Seisnig i'r Brifysgol.
Dwy erthygl yn ymddangos fel petaent yn anghyflawn.
Sawl eitem yn ddi-ddyddiad.
Am y gweithiau gan Menna Elfyn a grybwyllir, gweler dan y penawdau perthnasol o fewn yr archif.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- English
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Y deunydd wedi'i rannu'n eithaf cytbwys rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Un eitem ym Mhortiwgaleg.
Un eitem yn Sbaeneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Am Ŵyl Lenyddol Ilkley, gweler, er enghraifft: https://www.ilkleyliteraturefestival.org.uk/.
Am Ŵyl Lyfrau Wigtown (gŵyl lenyddol Dumfries a Galloway), gweler, er enghraifft: https://www.wigtownbookfestival.com/.
Am benodiad Menna Elfyn yn Fardd Plant Cymru, gweler, er enghraifft: http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_2025000/2025219.stm.