Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1931-2010 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-fonds
Maint a chyfrwng
1189 o flychau
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Sgriptiau, 1931-2010, rhaglenni radio a theledu'r BBC a ddarlledwyd - neu yr oedd bwriad i'w darlledu - yng Nghymru. Mae'r sgriptiau yn ymwneud ag ystod eang o bynciau yn cynnwys newyddion, drama, adloniant ysgafn, cerddoriaeth, chwaraeon, crefydd, addysg a rhaglenni ar gyfer plant.
Mae rhai o'r sgriptiau yn cynnwys iaith a syniadau a allai beri tramgwydd i ddarllenwyr modern.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl dosbarthiad y sgriptiau gan y BBC yn 'genres' o fewn fformatiau radio a theledu. Mae rhif pob blwch a'r drefn y mae'r ffeiliau wedi cael eu catalogio ynddi yn deillio o restrau taenlen ('manifests') a luniwyd gan y BBC.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Rheolau hawlfraint arferol
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Saesneg a Chymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Gellir chwilio'r sgriptiau yn y Rhodd hon trwy ddefnyddio fersiwn gryno o’r rhestr lawn a luniwyd gan y BBC, sydd ar gael yn y dolenni isod gyda'r teitlau Saesneg gwreiddiol.
ARCHEBU
Dylid archebu sgriptiau o’r rhestr hon dim ond os nad yw’n bosibl archebu trwy gatalog arlein y Llyfrgell, sy’n cynnwys cyfeirnodau ar gyfer deunydd wedi ei gatalogio.
Os yn archebu o’r rhestr hon, dylid gwneud Cais Di-Gatalog; cysylltwch â staff y Llyfrgell am gymorth.
Dylai pob cais:
• Ddyfynnu Sgriptiau BBC (Rhodd 2019)
• Nodi rhif y blwch a theitl y sgript
• Gynnwys eitemau o ddim mwy nag UN blwch
• Gynnwys dim mwy na THRI eitem
Radio
https://archives.library.wales/external_documents/R1_Radio_Appeals.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R2_Radio_Arts_and_Music.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R3_Radio_Drama_and_Plays.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R4_Radio_General_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R5_Radio_News_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R6_Radio_Talk_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R7_Radio_Religion.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R8_Radio_Schools.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R9_Radio_Sport.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R10_Radio_Stories.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R11_Radio_Variety.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R12_Radio_Children's.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/R13_Radio_Microfilms.pdf
Teledu
https://archives.library.wales/external_documents/T1_TV_Children's.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T2_TV_Arts_and_Music.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T2_TV_Music.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T3_TV_Drama.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T3_TV_Plays.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T4_TV_Stories.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T5_TV_Schools.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T6_TV_Religion.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T7_TV_Variety.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T8_TV_Sport.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T9_TV_Talk_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T10_TV_General_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T11_TV_News_Features.pdf
https://archives.library.wales/external_documents/T12_TV_Microfilms.pdf
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Mae'r rhan fwyaf o'r disgrifiadau ffeiliau yn cynnwys manylion darllediadau unigol.
Ardal nodiadau
Nodiadau
Cyfeirier at: Sgriptiau BBC Scripts (Rhodd 2019 Donation)
Nodiadau
Dim ond detholiad o'r rhan yma o'r archif sydd wedi cael ei gatalogio hyd yn hyn. Dewiswyd y deunydd a gatalogwyd gyda sylw arbennig i'r angen am drawsdoriad cyrychiadol (radio/teledu, Cymraeg/Saesneg, genres a chyfnodau amser) yn ogystal â gofynion ehangach Archif Ddarlledu Cymru.
Nodiadau
Rhifwyd y blychau 1-1183, ond nid yw Blychau 723 na 826 yn bresennol (nodwyd fel 'No Box' yn y Manifests).
Mae nifer o flychau wedi cael eu hollti yn flychau llai yn ystod y gwaith catalogio.
Nid yw'r Manifests yn darparu disgrifiad ar gyfer Blwch 837, sydd yn bresennol yn yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Golygir yn rheolaidd 2022-2024
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Emma Towner a David Moore