Ardal dynodi
Math o endid
Ffurf awdurdodedig enw
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Un nod a osododd yr Academi iddi hi ei hun yn bur fuan yn ei hanes oedd sicrhau bod clasuron tramor yn cael eu cyfieithu i Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf, o waith Camus, ym 1972. Fodd bynnag fe alwodd yr Academi, dan gadeiryddiaeth Harri Pritchard Jones, ar y cyd â Chymdeithas Emrys ap Iwan, dan gadeiryddiaeth Ned Thomas, gyfarfod ym mis Mawrth 1975 i geisio sefydlu Canolfan Cyfieithu i Gymru gan geisio ennyn cefnogaeth gwahanol gymdeithasau a sefydliadau Cymraeg. Ychydig o effaith a gafodd hynny ond ymhen ychydig, ym mis Ebrill 1977, fe gyfarfu Is-bwyllgor Cyfieithiadau'r Academi am y tro cyntaf. Aelodau'r Pwyllgor gwreiddiol oedd Bruce Griffiths, Bobi Jones, Gwyn Thomas, Islwyn Ffowc Elis a D. Myrddin Lloyd. Eu nod oedd cynhyrchu cyfres o gyfieithiadau Cymraeg o ryddiaith a barddoniaeth Ewropeaidd gan benodi swyddog cyflogedig i fod yn gyfrifol am y gwaith. Ni phenodwyd swyddog ac fe gychwynwyd ar y gwaith trwy ganolbwyntio ar y gyfres farddoniaeth dan olygyddiaeth D. Myrddin Lloyd.