Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1904 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Eitem
Maint a chyfrwng
1 f. ; 210 x 135 mm.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Y Parch. R. R. Williams; Caer; Rhodd; Medi 1948.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cerdd, dyddiedig Medi 1904, yn llaw T. Gwynn Jones, at ei fab, Arthur ap Gwynn. Cyhoeddwyd y gerdd gyntaf yn Ymadawiad Arthur a Chaniadau Ereill (Caernarfon, 1910), tt. 37-38 (gweler hefyd Caniadau (Wrecsam, 1934), t. 186). = An autograph poem, dated September 1904, by T. Gwynn Jones, addressed to his son, Arthur ap Gwynn. The poem was first published in Ymadawiad Arthur a Chaniadau Ereill (Caernarfon, 1910), pp. 37-38 (see also Caniadau (Wrexham, 1934), p. 186).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl gwreiddiol.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 14918B, f. 2.