Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1965. (Creation)
Lefel y disgrifiad
ffeil
Maint a chyfrwng
1 waled.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Golygydd, ysgrifwr a beirniad llenyddol oedd D. Tecwyn Lloyd. Fe'i ganwyd ar Fferm Penybryn, Glanrafon, ger Y Bala, ar 22 Hydref 1914 yn fab i John a Laura Lloyd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn y Gymraeg yn 1937 wedi iddo fynychu Ysgol y Cyngor Glanrafon (Llawrybetws) ac Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala. Dilynodd gwrs Ymarfer Dysgu a gadael Bangor yn 1938. Yn 1955 priododd Frances Killen a bu hi farw yn 1980. Yn 1984 priododd Gwyneth Owen.
Bu'n gweithio gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1938-1946, ac wedi hynny fel darlithydd a llyfrgellydd yng Ngholeg Harlech, 1946-1955. Bu'n gyfarwyddwr Cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam ac yn is-olygydd Y Cymro, 1956-1961. Yn 1961 derbyniodd radd MA Prifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i fyw i ardal Caerfyrddin. Yn 1980 dychwelodd i'w hen ardal, i Maes yr Onnen, Maerdy, Corwen, gan deithio i'r de yn wythnosol gyda'i waith nes iddo ymddeol yn 1982.
Ef oedd golygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987. Cyhoeddodd ddau gasgliad o storïau byrion gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas. Yn 1990 derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei gofiant i Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1988. Yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu farw 22 Awst 1992.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Anne Loveland; Cwmbran; Rhodd; Ebrill 2007; 006220598.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Copi llawysgrif yn llaw D. Tecwyn Lloyd (1914-1992) o 'Y Cythreuliaid' sef ei drosiad o ddrama The Devils [1961] gan John Whiting (1917-1963), a luniwyd ar gyfer Gŵyl Ddrama Llangefni, 1965, ynghyd â llythyr ganddo at y rhoddwr Anne Loveland, 11 Hydref 1965. = A manuscript copy in the hand of D. Tecwyn Lloyd (1914-1992) of 'Y Cythreuliaid', his adaptation of The Devils by John Whiting (1917-1963) [1961], for the Llangefni Drama Festival, 1965, together with a letter from him to the donor Anne Loveland, 11 October 1965.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 1998 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Preferred citation: NLW ex 2472.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg