Ardal dynodi
Math o endid
Ffurf awdurdodedig enw
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Codwyd y syniad o greu bywgraffiadur Cymreig ymhlith Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn y blynyddoedd cyn yr ail ryfel byd. Gwelwyd angen am waith newydd, annibynnol, i gynnwys manylion bywgraffyddol am Gymry blaengar er defnydd ysgolorion, llenorion ac yn wir pawb a oedd â diddordeb. Credodd y Cymmrodorion yn gryf y dylai'r bywgraffiadur newydd fod ar gael i bawb, yn gyfoethog ynteu'n dlawd, yn unigolion neu'n sefydliadau, felly cyfyngwyd maint y gwaith cyhoeddedig i un gyfrol. Y bwriad gwreiddiol oedd i gyllido'r prosiect gyda tanysgrifiadau, ond cyn hir bu raid i'r Gymdeithas gyfrannu ei harian ei hun ato, ac ymhen amser gofynnwyd am gymorth gan yr aelodau, ac wedyn gan awdurdodau lleol, y Pilgrim Trust, a llawer iawn o danysgrifwyr preifat.
Dechreuwyd gweithio ar y bywgraffiadur yn y 1930au, gyda'r Athro R. T. Jenkins (1881-1969) yn olygydd a'r Athro J. E. Lloyd (1861-1947) yn olygydd ymgynghorol. Cyhoeddwyd y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 ym 1953, a dilynodd atodiad ym 1970 yn cynnwys cofnodion am y sawl a fu farw rhwng 1940 a 1951. O'r dechrau, cynhyrchwyd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Golygydd yr ail atodiad, sef y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, oedd E. D. Jones (1903-87), a oedd wedi gweithio gyda R. T. Jenkins ar yr atodiad cyntaf, ac wedi cwblhau'r golygu ar ôl i Jenkins farw. Yn yr un modd, ac yntau wedi casglu'r rhan fwyaf o'r cofnodion a golygu llawer ohonynt ar gyfer yr ail atodiad, bu farw cyn gorffen, ac fe gwblhawyd y gyfrol gan y Dr Brynley F. Roberts (1931- ), Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gafodd gyfle i fynd ati o ddifri wedi iddo ymddeol ym 1994. Cyhoeddwyd y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 ym 1997, â'r gwaith ar y gyfrol nesaf yn mynd yn ei flaen yn barod o dan olygyddiaeth y Dr Roberts.