Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1937-2012 (Creation)
Level of description
Sub-series
Extent and medium
1 ffolder
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn, yn cynnwys manylion ei ordeino (1937) a'i sefydlu (1949) fel gweinidog; cofnod o'r erthyglau a gyfrannodd at gylchgrawn Y Tyst, 1973-1997; a manylion o oedfaon teyrnged a gynhaliwyd a'r teyrngedau ysgrifenedig a anfonwyd at deulu'r Parchedig T. Elfyn Jones yn sgîl ei farwolaeth yn 2008.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Disgrifiad yn ôl trefn gronolegol y deunydd, o'r eitem gynharaf i'r un diweddaraf. Dim trefn benodol ar y deunydd ei hun o fewn y ffolder.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Y rhan helaethaf o'r deunydd yng Nghymraeg, gyda pheth Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Ganed Thomas Elfyn Jones ('Elfyn Llysderi') ar fferm Llysderi ger pentref Felindre, Llandysul, yn fab i James ac Esther Jones. Fe'i hyfforddwyd fel pregethwr yng Nghapel Soar, Penboyr, sir Gaerfyrddin dan weinidogaeth y Parchedig T. E. Jones. Bu'n astudio yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin a'i ordeinio'n weinidog yr Annibynwyr ym 1937 yn nghapel Trinity, Llanboidy a Chapel Rhydyceiriaid. Symudodd i Gapel Libanus, Y Pwll, Llanelli ym 1944, i Gapel y Tabernacl, Pontardawe ym 1949 ac yna i gapel Peniel a Bwlch-y-corn, Caerfyrddin ym 1964. Ymddeolodd ym 1979. 'Roedd T. Elfyn Jones yn emynydd a bardd gydol oes. Cynhwyswyd saith o'i emynau yn y gyfrol Caneuon Ffydd (Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol, 2001). Ym 1941, cyhoeddodd Y Bibell Glai (Gwasg Gomer), sef casgliad o'i benillion. Cyfrannodd homili i Bapur y Cwm, papur bro Cwm Gwendraeth, yn ddi-dor am ugain mlynedd a bu hefyd yn cyfrannu erthyglau i'r Tyst, papur Undeb yr Annibynwyr a chapeli Annibynnol. Ennillodd Gadair Eisteddfod Fawr Aberteifi ym 1969 a 1971 a bu'n fuddugol nifer o weithiau yn adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2005, cyhoeddodd ei blant Menna Elfyn, Sian Elfyn Jones a Geraint Elfyn Jones gyfrol o emynau eu tad dan y teitl Seinio Clod (https://www.storifawrdrefachfelindre.cymru/beirdd-ac-awduron); am ei gyhoeddiadau, gweler, er enghraifft: https://www.amazon.co.uk/Books-T-Elfyn-Jones/s?rh=n%3A266239%2Cp_27%3AT+Elfyn+Jones).
Alternative identifier(s)
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Jones, T. (Thomas) Elfyn, 1914-2008 (Subject)