Gŵyl lenyddol a cherddorol South Poultney, Unol Daleithiau'r America
- NLW ex 2047
- File
- 1905-[1910x1930]
Copi o Rhestr Testynau Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol a gynhaliwyd o dan nawdd Ysgol Sabothol South Poultney, Unol Daleithiau'r America, 1905; ynghyd â llythyr, 1905, oddi wrth Now Pritchard, at JWJ [?John W. Jones, 'Ioan Eryri'] yn ei hysbysu iddo ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth ateb cwestiynau ysgrythurol yn yr eisteddfod honno ac y cynhelir eisteddfod arall yn Poultney ym mis Mai; ynghyd â beirniadaeth, heb ddyddiad, ar gystadleuaeth traethodau ar 'Cyssylltiad yr Eglwys ag addysg elfenol y wlad yn ystod y ganrif diwedaf' a 'Cymhwysderau athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul'