Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Phillips, Edgar, 1889-1962
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
- Trefin, 1889-1962
- Phillips, Edgar, Trefin, 1889-1962
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Ganwyd Edgar Phillips (Trefin, 1889-1962) ar 8 Hydref 1889 yn Nhre-fin, sir Benfro, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd Trefin yn un ar ddeg mlwydd oed, a mynychodd Ysgol Sloper Road yn y ddinas, lle cafodd gyfle i ddysgu elfennau sylfaenol y Gymraeg. Pedair blynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Dre-fin yn brentis i deiliwr, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel teiliwr yn Nhreletert a Hendy Gwyn ar Daf. Ar yr un pryd meistrolodd gymhlethdodau astrus y gynghanedd. Yn 1912 aeth i weithio fel teiliwr yn Llundain cyn dychwelyd yn fuan i Gaerdydd i weithio fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas, ac wedyn agorodd ei siop ei hun yn Awst 1914. Ymunodd Trefin รข'r Royal Garrison Artillery yn 1915, daeth yn fagnelwr, ond cafodd ei glwyfo'n ddrwg iawn a threuliodd gyfnodau hir yn yr ysbyty. Yn 1921 aeth i Goleg Caerllion ar Wysg lle enillodd dystysgrif athro gydag anrhydedd. Bu'n athro Cymraeg yn ysgol gynradd Pengam o 1923 i 1924 pan gafodd ei benodi'n athro Cymraeg yn Ysgol Eilradd Pontllanfraith ac arhosodd yno weddill ei yrfa tan iddo ymddeol yn 1954. Yr oedd yn un o arloeswyr darlledu yn y Gymraeg. Yr oedd Trefin yn cystadlu'n rheolaidd mewn gwahanol eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yn 1933, ac yntau eisoes wedi ennill 33 cadair a choron, enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gwasanaethu fel Ceidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960 pan gafodd ei benodi'n archdderwydd. Cyhoeddodd sawl cyfrol o'i farddoniaeth a bu farw ar 30 Awst 1962. Bu'n briod dair gwaith. Ei drydedd wraig, a briododd yn Hydref 1951, oedd Maxwell Fraser (Dorothy May Phillips (1902-1980)), yr awdures llyfrau taith adnabyddus. Cyhoeddwyd Cofiant Trefin gan Brinley Richards yn 1963.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
rda
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf