fonds GB 0210 RHYNIS - Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 RHYNIS

Teitl

Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,

Dyddiad(au)

  • [1864]-[1999] / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.321 metrau ciwbig (28 bocs) a dwy waled.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd William Rhys Nicholas (1914-1996) yn fardd, emynydd a golygydd.

Fe'i ganwyd ar 23 Mehefin 1914 yn fab i William a Sarah Nicholas yn Nhegryn, Llanfyrnach, Sir Benfro. Yr oedd ei dad yn gefnder i'r bardd a'r pregethwr T. E. Nicholas. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, lle bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr, 1941-1942, gan raddio yn y Gymraeg, ac yna dilynodd gwrs BD yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Am gyfnod bu'n ysgrifennydd cynorthwyol i'r Parchedig Curig Davies yn Llyfrfa'r Annibynwyr yn Abertawe. Priododd Elizabeth Dilys Evans yn 1946. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghapel y Bryn, Llanelli, 1947-1952, Horeb a Bwlchygroes, Llandysul, 1952-1965, a Thabernacl, Porth-cawl, 1965-1983.

Bu'n gwasanaethu am dros ddeng mlynedd fel ysgrifennydd i Bwyllgor Golygyddol Y Caniedydd. Bu'n gyd-olygydd Y Genhinen, 1964-1980, yn olygydd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y De, 1978-1988, ac yn Dderwydd Gweinyddol a Chymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd nifer o gerddi i blant ac fe'u defnyddiwyd yn ddarnau gosod yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar sawl achlysur a hefyd ef a fu'n gyfrifol am eiriau emyn Ysgol y Preseli. Yn 1978 urddwyd y Parch. W. Rhys Nicholas yn Gymrodor gan Goleg y Brifysgol, Abertawe. Fe'i anrhydeddwyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr am y cyfnod 1982-1983. Bu farw yn ei gartref ym Mhorth-cawl ar 2 Hydref 1996.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Rhodd gan Mr Richard E. Huws, Aberystwyth, 1996, nai'r Parchedig W. Rhys Nicholas, ym mis Tachwedd 1996, Ionawr a Medi 2002 ac yn 2008; A1996/151, A2002/7, 0200210843.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r grŵp cyntaf (1-185) o bapurau'r Parch. W. Rhys Nicholas, [1864]-1996, a dderbyniwyd yn 1996 yn cynnwys llythyrau personol ac eraill yn ymwneud â'i waith fel golygydd; ei gyfansoddiadau megis emynau, yn arbennig ei emyn enwog 'Pantyfedwen'; ei waith ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau; anerchiadau; papurau bywgraffyddol; papurau unigolion eraill; a deunydd printiedig.-- Mae'r papurau ychwanegol (186), 1914-[1998], a dderbyniwyd yn Ionawr a Medi 2002 yn cynnwys papurau personol y Parch. W. Rhys Nicholas gan gynnwys tystysgrifau amrywiol a dderbyniodd; llythyr, 1952, yn ei wahodd i fod yn weinidog ar eglwysi Horeb a Bwlchygroes, Llandysul; ynghyd â phapurau a gasglwyd gan y rhoddwr ar ôl marwolaeth ei ewythr. --Ymhlith rhodd 2008 (187) mae teyrngedau i W. Rhys Nicholas o'r wasg gan gynnwys teyrnged Derwyn Morris Jones a gyhoeddwyd ym mhapur bro Yr Hogwr, Rhagfyr 1996 (yn seiliedig ar yr hyn a draddodwyd ganddo yn yr angladd); taflen y gwasanaeth angladd, 2 Hydref 1996, a'r gwasanaeth coffa, 23 Tachwedd [1996]; ac adroddiad am ddadorchuddio cofeb iddo yng Nghapel y Tabernacl, Porth-cawl, 1997. = The first group of Rev. W. Rhys Nicholas papers, [1864]-1996, which were donated in 1996 (1-185), and are not described here, comprise personal letters and other letters relating to his work as editor; his compositions such as his hymns, especially his famous hymn 'Pantyfedwen'; his research work for publications; addresses; biographical papers; papers of other individuals; and printed material. The additional papers, 1914-[1988], received January and September 2002 (186), comprise personal papers of the Rev. W. Rhys Nicholas including various certificates presented to him; a letter, 1952, inviting him to be minister of Horeb and Bwlchygroes, Llandysul; together with papers collected by the donor after his uncle's death. There are tributes to W. Rhys Nicholas among the papers received in 2008 (187) among the papers received in 2008 including a tribute by Derwyn Morris Jones published in Yr Hogwr (community paper), December 1996 (based on what he said in the funeral service); funeral service card, 2 October 1996 and the memorial service, 23 November [1996]; and a report of the unveiling of a memorial to him at Tabernacl Church, Porth-cawl, 1997.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn debygol.

System o drefniant

Trefnwyd yn ôl dyddiad derbyn yn LlGC.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Mae'r hawlfraint yng ngweithiau'r Parch. W. Rhys Nicholas yn eiddo i Richard E. Huws a'r gweddill yn berchen i awduron y gweithiau.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Sbaeneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r rhestr (rhodd 1996) yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1997, tt. 73-80, a cheir copi caled o rodd 2002 yn LlGC.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Mae'r dyddiad creu olaf yn hwyrach na dyddiad marwolaeth y Parch. W. Rhys Nicholas oherwydd ceir copi o Rhown foliant i'r goruchaf Dduw a gyhoeddwyd yn 1999 ymhlith y papurau a grynhowyd gan y rhoddwr.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004017709

CAIRS System Control Number

(WLABNL)P1Saan0000013264

GEAC system control number

(WlAbNL)0000017709

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ionawr 2003. Diweddarwyd ym mis Awst 2009.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Ann Francis Evans.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Rees, Ifor, 'W. Rhys Nicholas: cyfaill o fardd ac emynydd', Barddas, 236/237 (1997); Ysgrifau Coffa 1996 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1997); Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd, 1997).

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas.