Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1862-1987 (crynhowyd [1940]-1986) / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.105 metrau ciwbig (7 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ysgrifwr ac ysgolhaig oedd Thomas John Morgan. Fe'i ganed yn Y Glais, Abertawe yn 1907. Aeth i Goleg Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Dulyn cyn cael swydd fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Caerdydd, a threulio cyfnod fel gwas sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Treuliodd ddeng mlynedd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru, o 1951 hyd 1961 pan benodwyd ef yn Athro'r Gymraeg yn Abertawe. Yn 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd Y Llenor, ac ef a olygodd y rhifyn olaf sef rhifyn coffa i W. J. Gruffydd, golygydd gwreiddiol Y Llenor, yn 1955. Cyhoeddodd a chyflwynodd nifer o weithiau ysgolheigaidd yn ogystal. Bu farw yn 1986.
Hanes archifol
Bu papurau T. J. Morgan yn nwylo ei deulu cyn cyrraedd y Llyfrgell. Derbyniodd yr Athro Henry Lewis bapurau Llewellyn Llewellyn yn rodd (ni wyddys oddi wrth bwy) cyn iddo yntau eu rhoi yn rodd i T. J. Morgan.
Ffynhonnell
Rhodd gan Mrs T. J. Morgan, Dr. Prys Morgan a Mr Rhodri Morgan, Abertawe, 1987; A1987/42.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Casgliad o lythyrau a chyfansoddiadau a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cynnwys yn Y Llenor, 1891-1988. Ceir hefyd bapurau a gasglwyd gan T. J. Morgan, sef papurau Llewellyn Llewellyn (Llywelyn Ddu o Lan Tawe), Abertawe, [c. 1880]-[c. 1924]; papurau'r Parch Ben Davies, Panteg, 1862-1964; ychydig o bapurau R. G. Berry a phapurau T. J. Morgan ar R. G. Berry, 1885-1962; a thair cyfrol o dorion papur newydd, 1850-1950.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl bapurau a roddwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn bedwar grŵp: papurau Llewellyn Llewellyn, papurau Ben Davies, casgliad R. G. Berry, a phapurau'r Llenor. Ceir hefyd un gyfres o gyfrolau amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Casglodd T. J. Morgan nifer o bapurau a grëwyd cyn ei eni, a cheir nodiadau gan Prys Morgan wedi marwolaeth T. J. Morgan.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Morgan, T. J. -- Archives. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Ionawr 2004.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Crëwyd gan Hywel Gwynn Williams. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd, 1997), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953), 'Llyfr Ffugenwau' (LlGC);