Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1907-1995 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.118 metrau ciwbig (13 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Rhydwen Williams (1916-1997), bardd a nofelydd, yn Y Pentre, Cwm Rhondda, ond symudodd y teulu i Gaer pan oedd yn bymtheg mlwydd oed. Aeth yn fyfyriwr i brifysgolion Abertawe a Bangor cyn cymryd safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd pryd y gweithiodd fel rhan o uned ambiwlans. Dychwelodd i'r Rhondda yn ddiweddarach yn weinidog y Bedyddwyr yn Ynys-hir lle daeth yn gyfaill i J. Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan. Yn nes ymlaen bu'n weinidog yn Resolfen a Phont-lliw ac wedi hynny aeth i fyd teledu annibynnol. Yn y pen draw llwyddodd i ennill bywoliaeth fel actor ac awdur. Cyhoeddodd wyth cyfrol o'i gerddi a nifer o nofelau cymeradwy iawn. Bu'n gwasanaethu hefyd fel golygydd y cylchgrawn Barn o 1981 hyd 1986.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Meic Stephens; Caerdydd; Pryniad; Chwefror 1999. (heblaw am rif 4 a dderbyniwyd yn rhodd yn 1989)
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r casgliad yn cynnwys: llythyrau, 1940-1995, anfonwyd at Rhydwen Williams, llawer ohonynt yn dyddio o'r cyfnod pan oedd yn olygydd Barn; llythyrau teuluol,1941-1976; papurau personol a theuluol,1932-1995, gan gynnwys rhai dyddiaduron, rhaglenni, taflenni angladdau, tystysgrifau etc.; cerddi Rhydwen Williams, heb eu dyddio gan mwyaf; pregethau Rhydwen Williams, 1930-1984; sgriptiau radio,1950-1976, a sgriptiau eraill,1966-1984, Rhydwen Williams; papurau'n ymwneud â Jubilee Young (1887-1962) ac â marwolaeth Richard Burton yn 1984; llyfrau nodiadau a gadwyd gan Rhydwen Williams; papurau amrywiol; papurau'n ymwneud ag unigolion eraill,1920au-1983, barddoniaeth, rhyddiaith a sgriptiau amrywiol gan awduron eraill yn bennaf; deunydd printiedig amrywiol, 1943-1994. Ychwanegwyd at y papurau hyn casgliad o ohebiaeth a phapurau amrywiol a dderbyniwyd yn rhodd gan Rhydwen Williams yn 1989. = The collection comprises: letters, 1940-1995, addressed to Rhydwen Williams, many dating from the period when he was the editor of Barn; family letters, 1941-1976; personal and family papers, 1932-1995, including a few diaries, programmes, funeral service sheets, certificates etc.; poems by Rhydwen Williams, mainly undated; sermons, 1930-1984, by Rhydwen Williams; radio scripts, 1950-1976, and other scripts, 1966-1984, by Rhydwen Williams; papers relating to Jubilee Young (1887-1962) and to the death of Richard Burton in 1984; notebooks kept by Rhydwen Williams; miscellaneous papers; papers concerning other individuals, 1920s-1983, mainly poetry, prose writings and various scripts written by other authors; miscellaneous printed matter, 1943-1994. A group of correspondence and miscellaneous papers donated by Rhydwen Williams in 1989 has been added to these papers.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; papurau personol a theuluol; barddoniaeth; pregethau; sgriptiau radio; sgriptiau eraill; y Parch.Jubilee Young (1887-1962); Richard Burton (1925-1984); llyfrau nodiadau; papurau amrywiol; papurau'n ymwneud ag unigolion eraill; deunydd printiedig.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1999, tt. 84-89. Ceir mynedad i'r catalog arlein hefyd.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2006.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, rhestr o Bapurau Rhdwen Williams, yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1999, tt. 84-89; Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997);