fonds GB 0210 LHLEWIS - Papurau L. Haydn Lewis,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 LHLEWIS

Teitl

Papurau L. Haydn Lewis,

Dyddiad(au)

  • 1886-1985 (crynhowyd [c.1923]-[c.1985]) / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.172 metrau ciwbig (6 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd y Parch. Lewis Haydn Lewis (1903-1985), bardd, yn Aberaeron, Ceredigion, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Choleg Exeter, Rhydychen. Yr oedd yn weinidog gyda'r Presbyteriaid ym Mhontarfynach, Ceredigion, hyd 1935, ac yna yn Nhonpentre, Morgannwg, hyd ei ymddeoliad yn 1973, ond y mae'n fwy adnabyddus fel bardd. Enillodd y Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1961 a 1968, a chyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi. Yn ogystal, daeth i'w feddiant rhai o bapurau ei dad, a fu farw yn 1923 yn dilyn gyrfa fel capten agerlong.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mr Richard Lewis, mab L. Haydn Lewis; Llandaf, Caerdydd; Rhodd; Mehefin 1985

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau'r Parch. L. Haydn Lewis, 1886-1985, yn cynnwys barddoniaeth a rhyddiaith a gyfansoddwyd ganddo, gan gynnwys gwaith a gyhoeddwyd yn Cerddi cyfnod (Caernarfon, 1963), Cerddi Argyfwng (Llandybïe, 1966) a Meini ac olion (Llandysul, 1975), llyfrau nodiadau yn cynnwys rhyddiaith, erthyglau a thraethodau, cyflwyniadau dramatig a dramâu cerdd gyda geiriau a ysgrifennwyd ganddo; ynghyd â nodiadau ei ddarlithoedd, pregethau, gohebiaeth, torion o'r wasg, nodiadau ar seremonïau a berfformiwyd yng nghapel Jerusalem, Tonpentre; papurau teuluol yn cynnwys deunydd achyddol, a rhai papurau o eiddo ei dad, Thomas Lewis,1886-1923. = Papers of the Rev. L. Haydn Lewis, 1886-1985, comprising his poetry and prose compositions, including the work published as Cerddi cyfnod(Caernarfon, 1963), Cerddi argyfwng (Llandybie, 1966) and Meini ac olion (Llandysul, 1975), notebooks containing prose, articles and essays, dramatic productions and musical dramas that he wrote the words for; together with his lecture notes, sermons, correspondence, press cuttings, notes on ceremonies performed at Jerusalem chapel, Tonpentre; family papers including genealogical material, and some papers of his father, Thomas Lewis, 1886-1923.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth; rhyddiaith (llyfrau nodiadau; cyflwyniadau dramatig; dramâu cerdd); pregethau; nodiadau; gohebiaeth; torion o'r wasg; amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1985 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844726

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1985; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau L. Haydn Lewis.