Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1912, 1918-1975 (accumulated [1922]-1975) (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.161 metrau ciwbig (6 bocs, 3 cyfrol fawr)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Dramodydd, nofelydd, ysgrifwr ac awdur straeon byrion a straeon plant oedd John Ellis Williams. Cafodd ei eni ym Mhenmachno, Sir Gaernarfon ar Ebrill 19, 1901. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Sir Llanrwst yn 1912 cyn mynd yn athro ym Mhenmachno a Phenmaenrhos. Mynychodd Goleg Normal Bangor rhwng 1919 ag 1921. Bu'n athro ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn gorffen ei yrfa yn brifathro Ysgol Gynradd Glanypwll, Blaenau Ffestiniog. Ymddeolodd yn 1961 gan symud i fyw yn Llanbedr, Meirionnydd ac yna i Gaerwen, Môn. Bu yn y fyddin rhwng 1940 a 1946.
Bu'n golofnydd i'r Herald Cymraeg, 1946-1975, ac i'r South Caernarvon & Merioneth Leader (Yr Arweinydd), 1947-1953. Bu hefyd yn ysgrifennu ysgrifau i'r Darian, Y Faner, Y Brython, Y Ddraig Goch, Y Gloch, Cymru a Cymru'r Plant. Bu'n olygydd Y Rhedegydd yn ystod y blynyddoedd 1950-1951. Ysgrifennodd hefyd nifer o nofelau a gweithiau eraill, yn cynnwys y gyfrol Tri Dramâydd Cyfoes.
Ysgrifennodd nifer fawr o ddramâu, a throsi nifer eraill o'r Saesneg. Ymysg ei ddramâu enwocaf y mae Taith y Pererin, Y Ffon Dafl, Ceidwad y Porth, Y Pwyllgorddyn, Y Llaw Gudd a Porth Ewyn. Bu hefyd yn ysgrifennu dramâu ar gyfer darllediadau radio, yn eu mysg y trosiad 'Dychweledigion', a'r cyfresi, 'Llwybrau Cam' a 'Drwy Ddŵr a Thân'. Yn ogystal ag ennill nifer o gystadlaethau mewn Eisteddfodau ledled Cymru roedd yn feirniad cystadlaethau drama mewn Eisteddfodau a Gwyliau Drama. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y llun llafar cyntaf yn y Gymraeg yn 1935, Y Chwarelwr. Ef hefyd oedd awdur y ddrama hir Gymraeg gyntaf i ymddangos ar deledu o stiwdio drama deledu Caerdydd, Y Gymwynas Olaf; a'i gyfaddasiad ef oedd y ddrama hir Saesneg gyntaf o'r un stiwdio, Jinny Morgan. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Inc yn fy Ngwaed, yn 1963. Ymddangosodd hefyd ar y teledu a bu'n gadeirydd y rhaglen 'Garddio'.
Priododd ei wraig Cadi yn Medi 1922. Cawsant ddwy ferch, Haf a Men. Yn ystod plentyndod Haf yr ysgrifennwyd y straeon plant Haf a'i Ffrindiau. Roedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion yng Nghyfrinfa'r Moelwyn. Yn 1962 cafodd radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ac yna MBE yn rhestr Nadolig Anrhydeddau'r Frenhines yr un flwyddyn. Bu farw ar 7 Ionawr, 1975.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Derbyniwyd y rhan fwyaf o bapurau John Ellis Williams yn gymynrodd trwy law ei weddw Mrs. J. Ellis Williams yng Ngorffennaf 1975. Adneuwyd 'Byd y Ddrama' (6/2) gan Mrs. J. Ellis Williams ym Medi 1976.; 0200311514
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys yn bennaf llyfrau lloffion o doriadau papur newydd o golofnau ac ysgrifau John Ellis Williams, 1918-1975. Mae'r llyfrau lloffion hefyd yn cynnwys toriadau papur newydd eraill ynglŷn â'i gyfansoddiadau, gohebiaeth, rhaglenni cystadlaethau a gwyliau dramâu, ffotograffau a lluniau, a rhaglenni cyfarfodydd Seiri Rhyddion lleol, 1912-1974. Ceir hefyd ddrafftiau o ddwy gyfrol anghyhoeddedig, 1936 a [1973], a llun o Ellis Humphrey Evans ('Hedd Wyn'), a chopi o Cofarwydd, R. Silyn Roberts, 1930.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd holl bapurau John Ellis Williams a roddwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd y fonds yn LLGC yn chwe chyfres a thair ffeil. Trefnwyd y cyfresi yn ôl pwnc: Toriadau amrywiol, 'Taith y Pererin', Yr Herald Cymraeg, The Leader, Y Rhedegydd, a drafftiau o weithiau gwreiddiol. Trefnwyd y tair ffeil yn gronolegol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Dyfalwyd y dyddiad crynhoi cynharaf ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Hydref 2003
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Hywel Gwynn Williams.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: M. Evans, gol., Gŵr wrth Grefft: Cyfrol Deyrnged i J. Ellis Williams (Aberystwyth, 1974); M. a G. Jones, Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru Hyd Tua 1950 (Llandysul, 1983); Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997).