Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1865-1981 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.229 metrau ciwbig (8 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Ffowc Williams, o Landudno, sir Gaernarfon, yn brifathro Ysgol Ganol Llandudno, 1933-1954. Derbyniodd radd MA gan Brifysgol Cymru am ei draethawd ymchwil, 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' yn 1929. Bu'n cynnal dosbarthiadau ar y pwnc hwn yn 1942 ac ar Seicoleg yn 1931 a 1938. Yn y 1960au a'r 1970au bu'n gwasanaethu ar Gyd bwyllgor Addysg Cymru a Phwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion. Yr oedd yn ddarlledwr cyson ar y radio ar sioe banel 'Byd Natur' rhwng 1952 a 1972. Yr oedd yn aelod gweithgar o adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy o Undeb Cymru Fydd yn y 1940au, ac yn aelod o bwyllgor Aelwyd Llandudno o Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd hefyd yn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, yn aelod o sawl bwyllgor ar gerddoriaeth eglwysig, a chasglodd deunydd yn ymwneud â gŵyl gerddorol 'Y Gymanfa Fawr', sef Cymanfa Gerddorol Annibynwyr Sir Gaernarfon.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ffowc Williams; Rhodd; 1982
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Ffowc Williams, Llandudno,1865-1981, yn cynnwys gohebiaeth, 1929-1981; nodiadau coleg, cwrs a darlithoedd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), 1920-1942; llyfrau nodiadau, sgriptiau a phapurau eraill yn ymwneud â'r gyfres radio 'Byd Natur', 1951-1972; papurau Undeb Cymru Fydd,1941-1965, yn bennaf papurau Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-1949; Urdd Gobaith Cymru, Llandudno, 1941-1950; cofnodion Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno,1910-1958, a chofnodion eraill a deunydd printiedig, 1865-1964; nodiadau, 1925-1928, ar gyfer ei draethawd ymchwil M.A., (Prifysgol Cymru), 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870'; papurau'r pwyllgor addysg, Cyngor Ysgolion a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru, 1931-1978; cofnodion 'Y Gymanfa Fawr', 1885-1978; sgorau cerddorol a phapurau pwyllgor cyd-enwadol cerddoriaeth eglwysig, 1955-1977; papurau personol a chofnodion cymdeithasau lleol,1914-1979; deunydd printiedig,1897-1976; a lluniau, [20fed ganrif]. = Papers of Ffowc Williams of Llandudno, 1865-1981, including correspondence, 1929-1981; college, WEA course and lectures notes, 1920-1942; notebooks, scripts and other papers relating to the radio series 'Byd Natur', 1951-1972; Undeb Cymru Fydd papers, 1941-1965, mainly Adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy, 1941-1949; Urdd Gobaith Cymru, Llandudno, papers, 1941-1950; records of Eglwys yr Annibynnwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, 1910-1958, and other records and printed materials, 1865-1964; research notes for his M. A. thesis 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' (University of Wales), 1925-1928; education committee, Schools Council and Welsh Joint Education Committee papers, 1931-1978; records of 'Y Gymanfa Fawr', 1885-1978; musical scores and inter-denominational church music committee papers, 1955-1977; personal papers and records of local societies, 1914-1979; printed materials, 1897-1976; and photographs, [20th century].
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i'r Llyfrgell.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth; nodiadau; deunydd yn ymwneud â 'Byd Natur'; sgriptiau; pwyllgorau; Undeb Cymru Fydd; Urdd Gobaith Cymru; deunydd perthynol i Eglwys yr Annibynwyr; nodiadau ymchwil; addysg; Y Gymanfa Ganu; cerddoriaeth; barddoniaeth; deunydd printiedig; a lluniau.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1982, tt. 67-70, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae rhai o bapurau'r Gymanfa Ganu a'r Annibynwyr a gasglwyd gan Williams yn rhagddyddio ei eni.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Welsh Joint Education Committee. (Pwnc)
- Undeb Cymru Fydd. (Pwnc)
- Urdd Gobaith Cymru. (Pwnc)
- Eglwys yr Annibynwyr (Llandudno, Wales) (Pwnc)
- Williams, Ffowc, of Llandudno -- Archives. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Tachwedd 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Martin Locock i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1982; gwefan Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (www.wjec.co.uk), edrychwyd 14 Tachwedd 2003. Nid yr un Ffowc Williams â'r Parch. Ffowc Williams (1897-1995), athro, gweinidog a chynghorydd o Dal-y-sarn, sir Gaernarfon;