Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [?1872]-[2003] (crynhowyd [1916]-2003) (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.054 metrau ciwbig (6 bocs) + 1 bocs (Medi 2005)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Francis Wynn Jones (1898-1970) yn ystadegydd a llenor.
Fe'i ganed yn Branas Lodge, Llandrillo, Sir Feirionnydd, ar 15 Ionawr 1898, yn ail fab i Thomas Francis a Catherine (née Edwards) Jones. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Y Bala ond yn un ar bymtheg oed symudodd i Lundain i weithio fel clerc gyda'r Swyddfa Bost cyn ymuno â'r fyddin yn 1916. Diflannodd ym mis Mawrth 1918 ond yn ddiweddarach cafwyd hyd iddo yn garcharor rhyfel. Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn economeg yn 1923. Bu'n gweithio i'r Mudiad Cynilo Cenedlaethol yng ngogledd Cymru nes y'i penodwyd yn ystadegydd yn y Weinyddiaeth Lafur yn Lundain.
Yr oedd yn ffigwr allweddol ym mywyd crefyddol a diwylliannol Llundain a bu'n Is-Lywydd y Cymmrodorion. Yn 1957 rhoddwyd OBE iddo. Wedi iddo ymddeol o'r gwasanaeth sifil symudodd i Aberystwyth yn 1959 i fyw yn Willow Lawn, hen gartref T. Gwynn Jones. Bu'n drysorydd ac Is-Lywydd Urdd Gobaith Cymru, aelod o Lys a Chyngor Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn flaenor yn Eglwys Seilo, Aberystwyth. Yn 1962, derbyniodd wahoddiad i ysgrifennu hanes yr eglwys a chyhoeddwyd Canmlwydd Siloh Aberystwyth.
Cyfrannodd sawl erthygl i gyfnodolion fel Y Traethodydd, Y Ford Gron a Y Genhinen yn ogystal â chyhoeddiadau swyddogol yn rhinwedd ei swydd fel ystadegydd. Yr oedd wedi bwriadu cyhoeddi llyfryddiaeth gyflawn o holl weithiau T. Gwynn Jones ar achlysur canmlwyddiant ei eni yn 1971, ond yn anffodus bu farw cyn cwblhau'r gwaith. Bu wrthi'n ymchwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor a'r Amgueddfa Brydeinig. Cyhoeddwyd Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1981 dan olygyddiaeth D. Hywel E. Roberts a chyflwynwyd y gyfrol 'i gydnabod ei gyfraniad iddi'.
Priododd Eluned, merch T. Gwynn Jones, yn 1926, a ganwyd mab a merch iddynt, Emrys a Nia. Bu farw F. Wynn Jones yn Aberystwyth ar 21 Rhagfyr 1970.
Hanes archifol
Nodwyd gan Emrys Wynn Jones ar rai o'r eitemau eu bod wedi dod trwy law Dr David Jenkins, 12 Ebrill 1997.
Ffynhonnell
Rhodd gan ei fab Mr Emrys Wynn Jones, Rhydyfelin, Aberystwyth, Awst 2003. Daeth rhodd arall gan Mr Emrys W. Jones trwy law D. Hywel E. Roberts, Bow Street, Medi 2005.; 0200309673, 0200510469
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau, 1916-1971, yn ymwneud â chyhoeddiadau F. Wynn Jones sef Godre'r Berwyn (1953) a Canmlwydd Siloh (1962), ynghyd â phapurau ymchwil yn ymwneud â'r cofiant arfaethedig i'w dad-yng-nghyfraith T. Gwynn Jones. Ceir hefyd rhai o'i bapurau personol ef ei hun sy'n cynnwys llythyrau, 1916-1918, a anfonodd tra'n filwr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac fel carcharor rhyfel yn 1918; a llythyrau'n ei longyfarch ar gael OBE yn 1957. Ychwanegwyd rhai nodiadau cefndirol gan Emrys Wynn Jones.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl bapurau a roddwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd a rhestrwyd y papurau gan y rhoddwr cyn eu cyflwyno i LlGC a mabwysiadwyd y drefn honno. Lle bo teitl i'r ffeil cadwyd hwnnw. Trefnwyd yn LlGC yn ddeg ffeil: T. Gwynn Jones: cyfansoddiadau; T. Gwynn Jones: llyfryddiaeth; T. Gwynn Jones: gweithiau; Godre'r Berwyn; Canmlwydd Siloh; llythyrau F. Wynn Jones; T. Gwynn Jones; gwaith creadigol; llyfryddiaeth F. Wynn Jones; llythyrau Rhyfel Byd Cyntaf; a nodiadau ymchwil F. Wynn Jones.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru llofnodi'r ffurflen 'Papurau modern-gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni nodir yn wahanol.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae'r dyddiad creu cyntaf yn gynharach na blwyddyn geni'r crëwr oherwydd ceir llythyr a ysgrifennwyd yn [?1872] ymhlith y papurau.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2004
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: The Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); D. Hywel E. Roberts (golygydd), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones (Caerdydd, 1981); ac eitemau yn yr archif.