Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1934-1991 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.104 metrau ciwbig (11 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Dyddgu Owen (1906-1992), y llenor, yn enedigol o sir Drefaldwyn. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, bu'n dysgu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Roedd ganddi gysylltiadau, hefyd, ag ysgol anghenion arbennig ym Mhowys. Cychwynnodd ei gyrfa lenyddol yn y 1950au gyda chyhoeddi sawl llyfr antur i blant. Ymhlith ei gweithiau eraill yr oedd storiâu i blant iau, llyfrau taith i oedolion a'i nofel fwyaf adnabyddus, Y Flwyddyn Honno (1978), a enillodd iddi wobr Tir na n-Og y Cyngor Llyfrau Cymraeg am ffuglen yn Gymraeg yn 1979. Bu'n golofnydd i Baner ac Amserau Cymru a'r Cymro. Bu farw yn Harlech yn 1992. Mae'n ymddangos i'w ffrind, Sarah Ceridwen Davies, rannu'r diddordeb oedd ganddi ar hyd ei hoes mewn addysg a phynciau llenyddol.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ms Sue Owen; Cottingham, Humberside; Rhodd; 1992
Prynwyd oddi wrth Siop Lyfrau'r Hen Bost, Blaenau Ffestiniog, Mehefin 2017, 99126499702419.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Dyddgu Owen, 1934-1991, yn cynnwys drafftiau teipysgrif a llawysgrif o'i nofelau a gweithiau llenyddol eraill,1953-1986; amrywiol darlithoedd ac anerchiadau, 1950au-1980au; sgriptiau ar gyfer radio a theledu, 1957-1976; dyddiaduron, 1978-1989; llyfrau nodiadau, 1957-1970; gohebiaeth, 1946-1991; dyddiaduron, 1978-1989; llyfrau lloffion o dorion o'r wasg, 1957-1970; papurau amrywiol yn ymwneud â'i diddordebau, 1969-1977; a phapurau Sarah Ceridwen (Ceri) Davies,1944-1991, yn cynnwys cofnodion gweinyddol cymdeithas 'Cyfeillion Ellis Wynne' [Lasynys] = Papers of Dyddgu Owen, 1934-1991, including typed and manuscripts drafts of her novels and other literary works, 1953-1986; various lectures and addresses, 1950s-1980s; radio and television scripts, 1957-1976; diaries, 1978-1989; notebooks, 1957-1970; correspondence, 1946-1991; diaries, 1978-1989; scrap books of press cuttings, 1957-1970; miscellaneous papers relating to her interests, 1969-1977; and papers of Sarah Ceridwen (Ceri) Davies, 1944-1991, which include administrative records of the society 'Cyfeillion Ellis Wynne' [Lasynys].
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn dri grŵp : Papurau Dyddgu Owen, Papurau Ceri Davies a Phryniad 2017.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Mae rhai o bapurau Dyddgu Owen yn dal ym meddiant Sue Owen ac mae croeso i ymchwilwyr gysylltu â hi ynglŷn â'r rhain. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol,
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog (Rhodd 1992) ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1993, tt. 57-60, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Cyfeillion Ellis Wynne. (Pwnc)
- Wynne, Ellis, 1671-1734 -- Societies, etc. (Pwnc)
- Davies, Sarah Ceridwen -- Archives. (Pwnc)
- Owen, Dyddgu -- Archives. (Pwnc)
- Davies, Sarah Ceridwen. (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1993, Papurau Dyddgu Owen; Meic Stephens, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986); gwefan Cyngor Llyfrau Cymraeg (www.cllc.org.uk), gwelwyd Mai 2003; ysgrif goffa i Dyddgu Owen yn Y Cymro, 19 Awst 1992.
Nodyn yr archifydd
Crëwyd ar gyfer prosiect ANW.