Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1790-[1955] / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.22 metrau ciwbig (19 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Gweinidog, bardd a golygydd oedd David Bowen, 'Myfyr Hefin', a aned ym 1874 yn Nhreorci, Rhondda. Fe'i addysgwyd yn ysgol fwrdd Treorci, ysgol golegol Pontypridd, a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Bu'n gweithio ym mhwll glo Tyn-y-Bedw a dechreuodd bregethu yn ystod diwygiad 1904, gan dderbyn ei alwad gyntaf i gapel Bedyddwyr Bethel, Capel Isel, ger Aberhonddu ym 1909. Ym 1913 symudodd i gapel Horeb, Pump-Hewl ger Llanelli.
Yn ystod ei fywyd bu'n weithgar iawn gyda nifer o gymdeithasau gan gynnwys Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru ac Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Sefydlodd Urdd y Seren Fore yn 1929 a bu'n olygydd ar gyfnodolyn yr Urdd, sef Seren yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn golygu colofn Gymraeg y Llanelli Mercury, 1936-1945, ac yno cyhoeddwyd llawer o'i weithiau llenyddol. Cyhoeddodd David Bowen hefyd nifer o gyfrolau gan gynnwys Oriau Hefin, 1902, Cerddi Brycheiniog, 1912 a Salmau'r Plant, 1920. Enillodd dair cadair ar ddeg mewn eisteddfodau lleol yn bennaf, gan gynnwys cadair eisteddfod y myfyrwyr yng Nghaerdydd, 1909. Bu hefyd yn beirniadu mewn eisteddfodau lleol a chadwodd gopïau o weithiau nifer o'r cystadleuwyr.
Yn ogystal â chyhoeddi ei waith ei hun, bu David Bowen yn ddiwyd yn golygu a chasglu ynghyd ddeunydd yn ymwneud â'i frawd, Ben Bowen, ac eraill gan gynnwys Ioan Emlyn, Mathetes a Timothy Richard. Ymddangosodd ei erthyglau mewn cylchgronau amrywiol ac mewn cyfresi megis Cyfres y Bedyddwyr Ieuanc a Chyfres Cedyrn Canrif a gyd-olygwyd ganddo. Yr oedd hefyd yn gasglwr brwd o doriadau papur newydd yn ymwneud â gwaith Ben Bowen, ei waith ei hun ac amrywiol destunau.
Bu'n briod ddwywaith a chafodd dair merch, Myfanwy, Rhiannon ac Enid. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1939 a bu farw yn 1955.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Bardd oedd Ben Bowen a aned ym 1878 yn Nhreorci, y Rhondda, ac fe addysgwyd ef yn Ysgol Fwrdd Treorci ac Academi Pontypridd, rhwng 1897 a 1899. Ym 1899 fe aeth i Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd, lle astudiodd y Clasuron ac Almaeneg hyd at 1900. Bu hefyd yn dilyn cwrs cyfathrebu y 'Cambridge University correspondence course' rhwng 1898 a 1899. Dechreuodd farddoni yn ifanc, ac fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Penrhiwceiber yn 1896 pan ond yn ddeunaw oed. Aeth ymlaen i ennill yn Eisteddfod Aberdâr ym 1897, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth Durtur y Deffro yn yr un flwyddyn. Cafodd ail yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl am ei bryddest 'Pantycelyn' ym 1901, ac ym mis Chwefror 1902 enillodd Gadair Eisteddfod Llundain. Er mai barddoniaeth oedd ei brif ddiddordeb, fe gyhoeddwyd nifer o'i erthyglau mewn cylchgronau megis Y Tyst, Tarian y Gweithiwr a Chymru'r Plant, ac fe gyhoeddwyd detholiad o'i waith gan ei frawd, David Bowen (Myfyr Hefin) yn Rhyddiaith Ben Bowen a Blagur Awen Ben Bowen. Cyhoeddodd David Bowen ddau lyfr arall oedd wedi eu selio ar waith ac ar lythyrau Ben Bowen sef Ben Bowen i'r ieuanc a Ben Bowen yn Neheudir Africa. Ym 1901 yr oedd Ben Bowen wedi teithio i Dde Affrica lle bu'n byw tan 1902 er mwyn adfer ei iechyd. Diarddelwyd ef gan ei eglwys, Moriah, Pentre, wedi iddo ddychwelyd oherwydd ei ddaliadau diwinyddol. Bu farw ym 1903.
Hanes archifol
Cadwyd papurau Ben Bowen gan ei frawd, David Bowen, ar ôl ei farwolaeth ym 1903. Wedi marwolaeth David Bowen ym 1955, daeth ei bapurau ef a'i frawd Ben i feddiant ei ferched.
Ffynhonnell
Rhodd gan ferched David Bowen, Miss Myfanwy Bowen, Llanelli, Mrs Rhiannon Hughes, Pwll, a Mrs Enid Harries, Rhyl, Hydref 1960.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau personol, crefyddol a llenyddol a grewyd ac a gasglwyd gan David Bowen, a phapurau llenyddol, crefyddol a phersonol ei frawd Ben, a olygwyd gan David Bowen wedi ei farwolaeth, 1897-1903. = Personal, religious and literary papers created by, and accumulated by, David Bowen, together with the literary, religious and personal papers of his brother Ben, edited by David Bowen after his death, 1897-1903.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn LLGC yn ôl profiant yn ddau grŵp: papurau David Bowen [1890]-[1955] a phapurau Ben Bowen, 1897-1903. Ceir rhai papurau yn ymwneud â Ben Bowen ymhlith papurau David Bowen.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl blaenorol: David Bowen ('Myfyr Hefin')
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Chwefror 2001.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i lunio'r rhestr: The Biographical Index of W. W. Price, Aberdâr (LLGC); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Caerdydd, 1953); Papurau David Bowen a Ben Bowen; Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, gol. gan David Bowen (Myfyr Hefin) (Treorci: 1904).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Manon Foster Evans, Mair James a Nia Mai Williams.