fonds GB 0210 LLOHES - Papurau D. G. Lloyd Hughes,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 LLOHES

Teitl

Papurau D. G. Lloyd Hughes,

Dyddiad(au)

  • 1780-2001 (crynhowyd [c. 1955]-2001) / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.798 metrau ciwbig (62 bocs, 3 waled, 8 drôr, 47 rolyn)Some items are on microfilm.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd a magwyd Dafydd Glyn Hughes (g. 1921) ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Mynychodd Ddosbarth y Babanod ac Ysgol Elfennol Troed-yr-allt ac Ysgol y Sir, Pwllheli. Treuliodd ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil, yn Llundain i gychwyn, ond hefyd mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru a Lloegr. Bu'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, 1960-1966, a symudodd i Ben-bre, sir Gaerfyrddin, yn 1966, ac yna i New Inn, Pencader, Dyfed, ym 1985. Cynhyrchodd lawer o lyfrau ac erthyglau ar hanes lleol Pwllheli, ardal Llanelli a New Inn, ysgrifennodd ar gyfer Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Y Casglwr, Llanw Llyn, Llafar Gwlad, Barn, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chyfrannu erthyglau i gyfrolau Cyfres y Cymoedd ar Gwm Aman (Llandysul, 1996) a Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001).

Hanes archifol

Ni throsglwyddwyd peth o'r deunydd a restrir yng Nghatalog LlGC i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac mae'n dal ym meddiant D.G. Lloyd Hughes.

Ffynhonnell

Mr D. G. Lloyd Hughes; New Inn, Pencader; Rhodd; 1992-2001

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau D.G. Lloyd Hughes yn ymwneud â hanes Pwllheli, Llanelli, Pen-bre a Phorth Tywyn, yn cynnwys adysgrifau, torion, erthyglau a chopïau o rannau o'i lyfrau, 1808-[1985]; papurau yn ymwneud â Llanfihangel-ar Arth, New Inn a Gwyddrug, sir Gaerfyrddin, [1985]-2001; erthyglau a gyhoeddwyd ganddo,1968-2001; cofnodion, nodiadau ac erthyglau amrywiol, 1893-2001; gweithredoedd eiddo, 1803-1813; nodiadau achyddol, [20fed ganrif]; catalogau gwerthiant, 1890-1937; mapiau a chynlluniau, 1900-1917; enwau planhigion a blodau, [1950au]; nodiadau, adysgrifau a llungopïau o ddogfennau (13eg i'r 20fed ganrif) yn yr Archifdy Cenedlaethol yn ymwneud â Thir y Goron yng Ngogledd Cymru, yn bennaf yng nghymydau Eifionydd, Afloegion, Cwmwd-y-maen a Dinllaen, sir Gaernarfon, [20fed ganrif]; golygfeydd gwreiddiol o Bwllheli,1780-1982, ac o sir Gaerfyrddin, 1870-1994. = Papers of D. G. Lloyd Hughes relating to the history of Pwllhelli, Llanelli, Pembrey and Burry Port, including newspaper transcripts, cuttings, articles and partial copies of his books, 1808-[1985]; papers relating to Llanfihangel-ar-Arth, New Inn and Gwyddrug, Carmarthenshire, [1985]-2001; published articles by him, 1968-2001; miscellaneous records, notes and articles, 1893-2001; title deeds, 1803-1813; genealogical notes, [20th century]; sale catalogues, 1890-1937; maps and plans, 1900-1917; plant and flower names, [1950s]; notes, transcripts and photocopies of documents (13th to 20th century) in The National Archives relating to Crown Lands in North Wales, mainly the commotes of Eifionydd, Afloegion, Cwmwd-y-maen and Dinllaen, in Caernarfonshire, [20th century]; original views of Pwllheli, 1780-1983, and of Carmarthenshire, 1870-1994.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd yn ôl pwnc gan D. G. Lloyd Hughes.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol. Gellir atgynhyrchu, storio neu drosglwyddo B/124 a B/126 drwy ganiatâd yr awdur yn unig.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog, yn Gymraeg a Saesneg, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Mae llawer o'r papurau yn llungopïau a microffilmiau o gofnodion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Archifdy Cenedlaethol yn Kew.

Bodolaeth a lleoliad copïau

Text

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Defnyddiodd D.G. Lloyd Hughes y rhan fwyaf o'r papurau ar gyfer ysgrifennu nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys Y Clwb Bach, Porth Tywyn : A History/The Burry Port Reading Room and Club (Porth Tywyn, 1984); Hanes Tref Pwllheli (Llandysul, 1986); Hanes yr Eglwys ym Mhwllheli (Pwllheli, 1987); Pwllheli - An old Welsh town and its history (Llandysul, 1991); Tir yr Abad : Hanes New Inn a Gwyddgrug yn Shir Gar (Llandysul, 1996); 'Hanes Ystad y Goron Yng Ngogledd Cymru, 1282-1849', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, XXXII (2001), tt. 283-334.

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r papurau yn cynnwys deunydd gwreiddiol sy'n rhagddyddio'r adneuwr.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844248

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i lunio'r restr: LlGC, Rhestr o Bapurau D. G. Lloyd Hughes (Schedule of D. G. Lloyd Hughes Papers); Hughes, D. G. Lloyd, Pwllheli - An Old Welsh Town and its History (Llandysul, 1991); Hughes, D. G. Lloyd, Hanes Tref Pwllheli (Llandysul,, 1986); e-bost D. G. Lloyd Hughes at Glyn Parry yn LlGC, 7 Tachwedd 2003;

Ardal derbyn