Fonds GB 0210 ALEIRUG - Papurau Alun Eirug Davies

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 ALEIRUG

Teitl

Papurau Alun Eirug Davies

Dyddiad(au)

  • [1908]-[2017] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.180 metrau ciwbig (20 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd Alun Marles Eirug Davies yn 1932 yn Llanbedr Pont Steffan, y chweched o wyth o blant y Parch T. Eirug Davies a’i wraig Jennie. Mynychodd Ysgol Sir Tregaron. Graddiodd mewn hanes o Brifysgol Aberystwyth yn 1954. Enillodd ddiploma mewn llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol Llundain yn 1960. Yr oedd yn Ddirprwy Lyfrgellydd yn Llyfrgell y Brifysgol yn Aberystwyth gan ymddeol yn 1997 ar ôl 36 mlynedd o wasanaeth.

Priododd Lyn [Eluned] Jones ar 28 Mawrth 1966. Ganwyd dau fab iddynt. Golygodd nifer o lyfrau yn cynnwys gweithiau ei Dad. Cyhoeddwyd Traethodau ymchwil Cymraeg a Chymreig a dderbyniwyd gan Brifysgolion Prydeinig, Americanaidd ac Almaenaidd, 1887-1971 (Caerdydd, 1976) sef rhestr a gasglwyd ganddo. Ef hefyd oedd awdur y gyfrol Papermaking in Wales 1658 - 2000 (Aberystwyth, 2010). Bu Alun Eirug Davies farw ar 21 mis Awst 2019 wedi cystudd byr.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Aled Eirug; Caerdydd; Rhodd; Rhagfyr 2019; 991037429202419.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau llenyddol ac academaidd Alun Eirug Davies, ynghyd â phapurau ei dad T. Eirug Davies, [1908]-[2017], sy'n cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, pregethau a phapurau eraill. = Literary and academic papers of Alun Eirug Davies, together with the papers of his father T. Eirug Davies, [1908]-[2017], comprising correspondence, diaries, poetry, sermons and other papers.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: papurau ymchwil Alun Eirug Davies a phapurau T. Eirug Davies.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Cymorth chwilio a gynhyrchir

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

991037429202419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ebrill 2022

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Teyrnged y Parchedig Andrew Lenny i Alun Eirug Davies, Yr Angor, Hydref 2019 a phapurau o fewn yr archif.

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Ann Francis Evans

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig