file 1/3. - Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis,

Identity area

Reference code

1/3.

Title

Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis,

Date(s)

  • 1953-1969. (Creation)

Level of description

file

Extent and medium

0.5 cm.

Context area

Name of creator

(1924-2004)

Biographical history

Nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofel boblogaidd, Cysgod y Cryman. Ynghyd â bod yn awdur toreithiog roedd hefyd yn weinidog, yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ac yn ddarlithydd.
Fe'i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam, yn fab i Edward Ifor a Catherine Ellis (née Kenrick). Fe'i magwyd ar fferm Aberwiel, Nantyr, yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn y tynnodd llawer o'i ysbrydoliaeth ohono fel awdur. Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Nantyr ac Ysgol Ramadeg Llangollen, cyn ennill gradd BA yn y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1946. Enillodd wobrau yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama yn 1945 a 1946, a bu'n weithgar yn cyfansoddi a chynhyrchu anterliwtiau yn y Coleg. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala lle enillodd radd BD mewn diwinyddiaeth yn 1949.
Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950 a bu'n weinidog gyda'r enwad yn Llanfair Caereinion, a Meifod, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, Môn, cyn penderfynu gadael y weinidogaeth yn 1956 er mwyn llenydda.
Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1951 am ei gyfrol o ysgrifau, Cyn Oeri'r Gwaed (1952), a dilynwyd y llwyddiant hwn gan dair nofel, sef Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua'r Gwyll (1955) ac Yn Ôl i Leifior (1956). Roedd Cysgod y Cryman yn nofel Gymraeg boblogaidd, gyfoes a gafodd dderbyniad brwd.
Symudodd i Fangor yn 1956 i fod yn awdur a chynhyrchydd gyda'r BBC a bu'n ysgrifennu, cynhyrchu a chymryd rhan mewn nifer fawr o raglenni'r BBC. Profodd yn gyfnod cynhyrchiol iddo o ran ysgrifennu nofelau, ac fe gyhoeddwyd ganddo Wythnos yng Nghymru Fydd, (1957), Blas y Cynfyd (1958) a Tabyrddau'r Babongo (1961).
Yn 1963 aeth yn Ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin, ac fe fu'r cyfnod a ddilynodd yn gymharol dawel o ran llenydda ond yn brysur yn wleidyddol. Bu'n ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Trefaldwyn yn Isetholiad 1962 ac Etholiad Cyffredinol 1964, ac roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ef oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Plaid Cymru o tua 1962 i 1969, a bu'n paratoi llawer o lenyddiaeth wleidyddol ar gyfer Gwynfor Evans.
O 1968 hyd 1971 bu'n Olygydd ac yn Gyfarwyddwr cyfieithiadau gyda'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, ac yn 1968 cyhoeddwyd Y Blaned Dirion, nofel a addaswyd o ddrama radio BBC a ddarlledwyd yn 1959.
Dychwelodd i Wrecsam i fod yn awdur llawn-amser rhwng 1971 a 1975 a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Y Gromlech yn yr Haidd, (1971) ac Eira mawr (1972). Yna yn 1974 cyhoeddodd ddrama am y Diwygiad Methodistaidd, Harris, a chasgliad o storïau byrion, Marwydos.
Yn 1975 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn 1984 fe'i penodwyd yn Ddarllenydd yno, cyn ymddeol yn 1988. Yn dilyn ei ymddeoliad cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon ysgafn Caneuon Islwyn Ffowc Elis (1988), maes yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo rhwng 1945 a 1970. Yn 1993 derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Roedd yn awdur dra chynhyrchiol, ac fe ysgrifennodd amryw raglenni radio a storïau, ac erthyglau ar grefydd a gwleidyddiaeth. Bu'n gyd-olygydd Y Ddraig Goch, cylchgrawn Plaid Cymru, a Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth, storïau byrion, ysgrifau a dramâu, a bu'n beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau.
Priododd Eirlys Rees Owen o Donfanau ger Tywyn, yn Hydref 1950, a ganwyd eu merch, Sian, yn 1960. Bu farw Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 2004.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Llythyrau'n ymwneud â'i nofelau ac adolygiadau ohonynt gan D. Tecwyn Lloyd, a thrafodaethau am Taliesin.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Generated finding aid

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Preferred citation: 1/3.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004182396

GEAC system control number

(WlAbNL)0000182396

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: 1/3 (1).