Fonds GB 0210 MSDANIOW - Llawysgrifau Daniel Owen

Identity area

Reference code

GB 0210 MSDANIOW

Title

Llawysgrifau Daniel Owen

Date(s)

  • [1885]-[1895] (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

5 cyfrol.

Context area

Name of creator

Biographical history

Roedd Daniel Owen (1836-1895) yn nofelydd a theiliwr. Ganed ef yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ar 20 Hydref 1836, yn fab ieuengaf i Robert Owen (bu f. 1837) a'i wraig Sarah (1796-1881). Prentisiwyd ef yn deiliwr ac yn y pen draw cychwynnodd fusnes ei hun yn yr Wyddgrug, er iddo dreulio peth amser yng Ngholeg y Bala gyda'r bwriad o ddod yn weinidog. Cafodd ei berswadio gan y Parch. Roger Edwards i gyhoeddi rhai o'i bregethau yn Y Drysorfa. Dilynwyd y rhain gan y nofelau Y Dreflan (Treffynnon, 1881) a Hunangofiant Rhys Lewis (Yr Wyddgrug, 1885), y ddau wedi eu cyhoeddi gyntaf yn fisol yn Y Drysorfa. Cyfreswyd ei ddwy nofel arall, Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891) a Gwen Tomos (Wrecsam, 1894), yn gyntaf yn Y Cymro (Lerpwl). Heblaw'r rhain cyfrannodd golofn o'r enw 'Nodion Ned Huws' i'r Cymro, 1892-1894, a chyhoeddodd Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), casgliad o ysgrifau a barddoniaeth, a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895), casgliad o storïau. Bu farw Daniel Owen yn yr Wyddgrug ar 22 Hydref 1895.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

J. J. Morgan; Yr Wyddgrug; Pryniad; 1950.

Content and structure area

Scope and content

Llawysgrifau Daniel Owen, [1885]-[1895], yn cynnwys drafftiau o'r rhan fwyaf o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891), a rhannau o'r cyfrolau Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), Gwen Tomos (Wrecsam, 1894) a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895). = Manuscripts of Daniel Owen, [1885]-[1895], including drafts of most of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891), along with parts of the volumes Y Siswrn (Mold, 1886), Gwen Tomos (Wrexham, 1894) and Straeon y Pentan (Wrexham, 1895).

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 15324-15328B.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg oni noder yn wahanol ar lefel ffeil.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Gweler hefyd NLW MSS 685B, 5520B, 10666A, 16501C, 21476B (drafft o Gwen Tomos hyd at t. 342 yn yr argraffiad gwreiddiol), 21477B (yn cynnwys drafft o rannau o Rhys Lewis), 21478B (yn cynnwys drafft o Gwen Tomos o'r cychwyn hyd at ddechrau pennod XVII, diwedd Enoc Huws a nodiadau hunangofiannol), a 21479B (drafft o Gwen Tomos o ddechrau pennod XVII hyd at ganol Pennod XXXIV).

Related descriptions

Publication note

Robert Rhys, Daniel Owen (Caerdydd, 2000).

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls006744903

Access points

Subject access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mehefin 2014.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. gan Meic Stephens ([Caerdydd], 1986); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953); Robert Rhys, Daniel Owen (Caerdydd, 2000)

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones.

Accession area

Related subjects

Related people and organizations

Related places