Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1885]-[1895] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
5 cyfrol.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd Daniel Owen (1836-1895) yn nofelydd a theiliwr. Ganed ef yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ar 20 Hydref 1836, yn fab ieuengaf i Robert Owen (bu f. 1837) a'i wraig Sarah (1796-1881). Prentisiwyd ef yn deiliwr ac yn y pen draw cychwynnodd fusnes ei hun yn yr Wyddgrug, er iddo dreulio peth amser yng Ngholeg y Bala gyda'r bwriad o ddod yn weinidog. Cafodd ei berswadio gan y Parch. Roger Edwards i gyhoeddi rhai o'i bregethau yn Y Drysorfa. Dilynwyd y rhain gan y nofelau Y Dreflan (Treffynnon, 1881) a Hunangofiant Rhys Lewis (Yr Wyddgrug, 1885), y ddau wedi eu cyhoeddi gyntaf yn fisol yn Y Drysorfa. Cyfreswyd ei ddwy nofel arall, Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891) a Gwen Tomos (Wrecsam, 1894), yn gyntaf yn Y Cymro (Lerpwl). Heblaw'r rhain cyfrannodd golofn o'r enw 'Nodion Ned Huws' i'r Cymro, 1892-1894, a chyhoeddodd Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), casgliad o ysgrifau a barddoniaeth, a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895), casgliad o storïau. Bu farw Daniel Owen yn yr Wyddgrug ar 22 Hydref 1895.
Hanes archifol
Ffynhonnell
J. J. Morgan; Yr Wyddgrug; Pryniad; 1950.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llawysgrifau Daniel Owen, [1885]-[1895], yn cynnwys drafftiau o'r rhan fwyaf o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891), a rhannau o'r cyfrolau Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), Gwen Tomos (Wrecsam, 1894) a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895). = Manuscripts of Daniel Owen, [1885]-[1895], including drafts of most of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891), along with parts of the volumes Y Siswrn (Mold, 1886), Gwen Tomos (Wrexham, 1894) and Straeon y Pentan (Wrexham, 1895).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn ôl rhifau cyfeirnod llawysgrifau LlGC: NLW MSS 15324-15328B.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg oni noder yn wahanol ar lefel ffeil.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Nodyn cyhoeddiad
Robert Rhys, Daniel Owen (Caerdydd, 2000).
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mehefin 2014.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. gan Meic Stephens ([Caerdydd], 1986); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain, 1953); Robert Rhys, Daniel Owen (Caerdydd, 2000)
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones.