Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Jones, J. W. (John William), 1883-1954.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd John William Jones (1883-1945) yn awdur, bardd gwerin, cyhoeddwr a chasglwr. Ganwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sir Feirionnydd, ar 5 Mawrth 1883, yn fab i David Jones (?1848-1922), saer a oedd yn barddoni dan yr enw 'Glan Barlwyd'. Mynychodd Ysgol Gynradd Glan-y-pwll ac Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog. Aeth i weithio yn chwarel Oakley, Blaenau Ffestiniog, yn bedair ar ddeg oed, a bu yno am 53 mlynedd. Fel bardd, cyfrannai'n gyson i amryw o bapurau wythnosol Gymraeg a chyfnodolion. O 1940 ymlaen cyfrannodd golofn wythnosol boblogaidd o'r enw 'Y Fainc Sglodion' i'r Cymro. Golygodd a chyhoeddodd waith beirdd eraill oedd yn gysylltiedig รข Blaenau Ffestiniog gan gynnwys: Ap Alun Mabon, Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941), Ioan Brothen, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942), Gwilym Deudraeth, Yr Awen Barod (Llandysul, 1943), Rolant Wyn, Dwr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), a Caneuon R. R. Morris (Lerpwl, 1951).