Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839431 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau

Llythyrau, 1913, at J. T. Rees, wedi'u pastio i lyfr ysgrifennu. Mae'r llythyrau o bosibl yn ymwneud â'r 'Perorydd yr Ysgol Sul' a gyhoeddwyd yn Llyfrfa'r Cyfundeb, Caernarfon yn 1915, o dan olygiaeth J. T. Rees.

Llawysgrif

Llawysgrifau cerddoriaeth o emynau a thonau yn llaw J. T. Rees, yn ddalennau rhydd a llyfrau nodiadau, gan gynnwys traethawd ar Yr Athro David Jenkins, Aberystwyth yn un o'r llyfrau nodiadau.

Beibl teuluol

Beibl teuluol J. T. ac Elizabeth Rees, Bronceiro, yn cynnwys cofnodion achyddol. Y cofnod olaf a nodwyd yw marwolaeth Ceredig Phillips Rhys yn 2015.

Capel y Garn

Papurau a chofnodion Capel Y Garn (MC), Bow Street, Ceredigion, yn cynnwys cyfrifon casgliad at gronfa adnewyddu Capel Y Garn, 1900; papurau parthed Sasiwn Haf a gynhaliwyd yn Y Garn, 1905, yn cynnwys cofnodion y pwyllgor lleol; rhaglenni cymanfaoedd canu Undeb Cerddorol Dosbarth Y Garn, 1910-1926 (gyda bylchau) a chymanfa'r canmlwyddiant, 1972; rhaglenni cyfarfodydd y Nadolig, 1940au-1960au; cyfrifon yr Ysgol Sul, 1963-1969; llyfr nodiadau ar gymanfaoedd canu'r plant, yn llaw J. T. Rees; a chopïau o 'Trem yn Ôl' o waith T. Ifor Rees. Bu J. T. Rees a T. Ifor Rees yn aelodau a swyddogion yng Nghapel Y Garn, gyda J. T. Rees yn flaenor, arweinydd y gân, trysorydd, trefnwr cyhoeddiadau ac yn ymddiriedolwr; a T. Ifor Rees yn drysorydd, ac athro a thrysorydd Ysgol Sul Y Garn.

Morfudd Rhys Clark

Casgliad bychan o bapurau Morfudd Rhys (Morfudd Rhys Clark ar ôl iddi briodi). Fe'i ganed yn 1920, yr hynaf o blant T. Ifor ac Elizabeth Rees, a threuliodd rywfaint o amser yn Bolifia yn cynorthwyo ei thad yn ei waith, yn dilyn ei benodiad cyntaf yno yn 1943. Mae'r casgliad yn cynnwys adroddiadau ysgol Morfudd, 1932-1938, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams yn Nolgellau; dyddlyfr ar gyfer taith Ysgol Dr Williams i'r Eidal, 1938; wyth dyddiadur poced ar gyfer 1941-1948; llyfryn yr ysgrifennodd, yn dwyn y teitl "Evocaciones Bolivianas" a chyflwynodd i'w thad yn 1946; dyddlyfr ar gyfer 1947 (wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio dyddiadur ar gyfer y flwyddyn 1945); tystysgrifau; a llythyrau wedi'u cyfeirio ati, 1935-2004. Bu farw Morfudd Rhys Clark yn 2015, a thrwy ei merch, Gwenan, y cyflwynwyd yr archif hon o bapurau T. Ifor Rees a'i dad, J. T. Rees i'r Llyfrgell yn 2016, ac ychwanegiad yn 2018 [gweler disgrifiad lefel Fonds am fanylion pellach].

Bronceiro

Gweithredoedd eiddo a phapurau ystâd Bronceiro, Bow Street, Ceredigion. Gellir olrhain cysylltiadau'r teulu Rees gyda Bronceiro pan briododd J. T. Rees gydag Elizabeth Davies, merch Bronceiro. Daeth y cysylltiadau teuluol i ben pan werthwyd y cartref yn 2017.

Canlyniadau 1 i 20 o 839431