Dangos 58 canlyniad

Disgrifiad archifol
eitem
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Marwnad Eleanor Howell,

Marwnad i Eleanor Howell gan W[illiam] W[illiams] (Gwilym Cyfeiliog) yn cychwyn 'Rhyw newydd dieithrol a draidd yr awelon...', [19 gan., canol]. = An elegy for Eleanor Howell by William Williams (Gwilym Cyfeiliog) beginning 'Rhyw newydd dieithrol a draidd yr awelon...', [mid 19 cent.].
Ceir englyn ar f. 2. = An englyn is on f. 2.

Gwilym Cyfeiliog, 1801-1876

Englynion Eisteddfod Aberaeron,

Englynion ar amryw destunau, 1873-1875, wedi eu cyfansoddi yn bennaf ar gyfer Eisteddfod Aberaeron. = Englynion on various subjects, 1873-1875, composed mostly for competition at Aberaeron Eisteddfod.

Cerdd gan Meurig Idris,

Drafft o gerdd gan Morris Jones (Meurig Idris), Harlech, dyddiedig 1 Mai 1872. = A draft poem by Morris Jones (Meurig Idris), Harlech, dated 1 May 1872.

Jones, Morris, 1819-1875.

Carol,

Copi llawysgrif, [18 gan., hwyr] (dyfrnod 'Afonwen Mill'), o bedwar pennill olaf cerdd anhysbys, gyda'r pennill cyntaf ar glawr yn cychwyn 'Mae'n ddyled i ninnau mewn goleu yn ddi gyd'. Mae'r pennill olaf yn dweud i'r gerdd gael ei chyfansoddi ym 1781. = A manuscript copy, [late 18 cent.] ('Afonwen Mill' watermark), of the final four verses of an anonymous poem, the first extant verse beginning 'Mae'n ddyled i ninnau mewn goleu yn ddi gyd'. The final verse gives the year of its composition as 1781.

Englynion,

Dau englyn gan Evan Breece (Ieuan Cadfan) ac Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, Tachwedd 1850, yn sylwi ar helynt y byd (f. 1), ynghyd â dau englyn gan Evan Jones er cof am Evan Breece, [1855] (f. 2). = Two englyns by Evan Breece (Ieuan Cadfan) and Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, November 1850, commenting on current affairs (f. 1), together with two englyns by Evan Jones in memory of Evan Breece, [1855] (f. 2).

Breece, Evan, 1798 or 1799-1855

Cerddi Idris Davies,

Copïau, 1947, yn llaw'r awdur, o ddwy gerdd, 'Aberystwyth' (Saesneg) a 'Cwm Rhymni' (Cymraeg), gan Idris Davies. = Autograph copies, 1947, of two poems, 'Aberystwyth' (English) and 'Cwm Rhymni' (Welsh), by Idris Davies.
Cyhoeddwyd 'Aberystwyth' yn y Western Mail, 13 Mawrth 1947, a 'Cwm Rhymni' yn The Collected Poems of Idris Davies, gol. Islwyn Jenkins (Llandysul, 1972), t. 8. Ceir y ddwy yn The Complete Poems of Idris Davies, gol. D. R. Johnston (Caerdydd, 1994), tt. 147-8, 213. = 'Aberystwyth' was first published in the Western Mail, 13 March 1947, and 'Cwm Rhymni' in The Collected Poems of Idris Davies, ed. by Islwyn Jenkins (Llandysul, 1972), p. 8. Both appear in The Complete Poems of Idris Davies, ed. by D. R. Johnston (Cardiff, 1994), pp. 147-8, 213.

Davies, Idris

Dyngarwch,

Copi, 1895, o bryddest o'r enw 'Dyngarwch' gan Lewis Roderick. = A copy, 1895, of a poem in free metre entitled 'Dyngarwch' (philanthropy) by Lewis Roderick.

Roderick, Lewis, 1869-1918.

Cerdd i gyfarch eisteddfod,

Cerdd anhysbys i gyfarch eisteddfod, yn cychwyn 'Ha wyr hen ddifyr ddefod...', [20 gan., ¼ cyntaf]. = An anonymous poem addressing an eisteddfod, beginning 'Ha wyr hen ddifyr ddefod...', [20 cent., first ¼].

Cyfarchiadau i John Pugh, Blaenlliw,

Cerddi a negeseuon i gyfarch John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 80 oed ar 28 Chwefror 1941. = Poems and messages sending greetings to John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, on the occasion of his eightieth birthday on 28 February 1941.
Ceir cyfarchiadau gan G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) a Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) ymysg eraill; anfonwyd hwy i'r rhoddwr yn y lle cyntaf (gw. f. 3). = There are greetings from G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) and Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) amongst others; they were sent in the first place to the donor (see f. 3).

Cerdd goffa i Pastor D. P. Williams,

Cerdd goffa, [1947x1948], i Pastor D. P. Williams (Pastor Dan, m. 1947) gan Tom H. Williams, Penygroes, Llanelli. = A poem, [1947x1948], in memory of Pastor D. P. Williams (Pastor Dan, d. 1947) by Tom H. Williams of Penygroes, Llanelli.

Williams, Tom H.

Englynion i W. E. Gladstone,

Chwe ymgais i gyfansoddi tri englyn ar y testun 'Y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone, A.S.' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam, 1888. = Six entries for a competition at the National Eisteddfod, Wrexham, 1888, to compose three englyns in praise of W. E. Gladstone.
Enillwyd y gystadleuaeth gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl (gw. Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion Buddugol Eisteddfod Gwrecsam, 1888, gol. gan E. Vincent Evans (Lerpwl, 1889), t. 500); nid yw ei ymgais yn rhan o'r llawysgrif bresennol. = The competition was won by the Rev. J. O. Williams (Pedrog), Liverpool (see Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Transactions of the National Eisteddfod of Wales, Wrexham, 1888, ed. by E. Vincent Evans (Liverpool, 1889), p. 500); his entry is not part of the present manuscript.

Siop Jack Edwards,

Englyn, 1951, i Siop Jack Edwards, Aberystwyth, yn llaw T. H. Parry-Williams. = A holograph englyn, 1951, to Siop Jack Edwards, Aberystwyth, by T. H. Parry-Williams.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Caneuon o'r Rhyfel Mawr,

Casgliad o ganeuon amserol, [1914]-[1918], mewn teipysgrif a llawysgrif, gan y Parch. T. Lloyd Jones, ar gyfer cyngherddau i filwyr ar ymweliadau cartref yn ardal Pencader, sir Gaerfyrddin. = A collection of typescript and manuscript topical songs, [1914]-[1918], by the Rev. T. Lloyd Jones, for concerts held for soldiers on leave in the Pencader district, Carmarthenshire.
Mae rhai dalennau yn cynnwys cerddoriaeth mewn nodiant sol-ffa. Cynhwysir hefyd gyflythyr, yn Saesneg, oddi wrth y rhoddwr, 11 Mai 1956 (f. i). = Some folios contain music in sol-fa notation. A covering letter, in English, from the donor, 11 May 1956, is also included (f. i).

Jones, T. Lloyd, 1866-1938

Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg,

'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', cerdd ynghylch ffoaduriaid Ail Ryfel Byd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, [1950au]. = 'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', a poem concerning Second World War evacuees, possibly in the hand of John Davies, Goginan, [1950s].
Ysgrifenwyd y gerdd ar gefn cylchlythyr ymgyrch Senedd i Gymru, dyddiedig 3 Hydref 1949. = The poem was written on the reverse of a Parliament for Wales campaign circular, dated 3 September 1949.

Davies, John, of Goginan.

Coffadwriaeth am y Parch. John Evans,

'Llinellau coffadwriaeth am y diweddar Barch. John Evans (I. D. Ffraid)' gan Lewis Jones, Llanddulas, 1875. = Verses in memory of the Rev. John Evans (I. D. Ffraid) by Lewis Jones, Llanddulas, 1875.

Jones, Lewis, of Llanddulas.

Penillion gan Gwallter Myrnach,

Dwy gerdd gan Walter Hugh James (Gwallter Myrnach), yn cynnwys 'Canu i Hen Gapel Glandwr', 12 Ionawr 1866 (ff. 1-2), a 'Penillion gan Gwallter Myrnach', Mai 1868 (f. 2 verso). = Two poems by Walter Hugh James (Gwallter Myrnach), comprising 'Canu i Hen Gapel Glandwr', 12 January 1866 (ff. 1-2), and verses composed in May 1868 (f. 2 verso).
Roedd yr awdur, yn wreiddiol o Lanfyrnach, sir Benfro, erbyn y cyfnod yma wedi ymfudo i Seland Newydd. Ceir copi printiedig o fersiwn o'r gerdd gyntaf, gyda'r teitl 'Hen Gapel Glandwr, Swydd Benfro', yn NLW MS 11614E. = The author, originally from Llanfyrnach, Pembrokeshire, was by this time living in New Zealand. A printed copy of a version of the first poem, entitled 'Hen Gapel Glandwr, Swydd Benfro', may be found in NLW MS 11614E.

Gwallter Myrnach.

Gwaith John Davies, Goginan,

Dwy gerdd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, yn cynnwys 'Er cof anwylaf am Catherine Mary Davies, fu farw 30 : XII : 51 yn 78 mlwydd oed', [?1952], a pennill yn cychwyn 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950au]. = Two poems, possibly in the hand of John Davies, Goginan, comprising a poem in memory of Catherine Mary Davies, [?1952], and a verse beginning 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950s].

Davies, John, of Goginan.

Carol,

Copi o garol gan Gwen Pugh, Dolgellau, yn llaw Hugh Lewis. Anfonwyd at Charles Davies, Dolgellau, ym 1755. = A carol in Welsh by Gwen Pugh, Dolgellau. The carol was noted down by Hugh Lewis and sent to Charles Davies, Dolgellau, in 1755.

Lewis, Hugh.

Canlyniadau 41 i 58 o 58