Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Y Faner

Dwy ddalen llungopi ac un ddalen wreiddiol o lythyr, 1958, oddi wrth Waldo Williams at Y Faner, yn cynnig dadansoddiad eglurhaol o'i gerdd Mewn Dau Gae, a gyhoeddwyd yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r wythnosolyn hwnnw.

Gohebiaeth at Waldo Williams

Llythyrau a chardiau post wedi'u cyfeirio at Waldo Williams, yn bennaf oddi wrth aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei wraig, Linda, a chan gyfeillion, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd, 1970-1971.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth David Williams

Llythyrau, 10 Mawrth [1960] a 5 Chwefror 1961, at Waldo Williams oddi wrth ei nai, David Williams, tra 'roedd yr olaf yn cyflawni gwasanaeth milwrol fel fferyllydd mewn gwersylloedd ym Malaysia. Yn y llythyr cyntaf cyfeirir at fywyd bob dydd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Kuala Lumpur, ynghyd â'r bwriad i'w symud i wersyll yn Taiping; cyfeirir hefyd at Jim a Winnie Kilroy, sef y Crynwyr y bu Waldo'n lletya gyda hwy ers hanner cyntaf y 1950au, yn symud o'u ffermdy i dŷ cyngor yn Johnston, Sir Benfro, digwyddiad a'i gwnaeth yn ofynnol i Waldo chwilio am lety newydd. Mae'r ail lythyr yn sôn yn bennaf am fywyd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Taiping, ynghyd â sylwadau am ŵyliau gwahanol grefyddau'r wlad; ceir hefyd gyfeiriadau at "Anti Dil" (Dilys Williams, chwaer Waldo Williams a modryb David Williams), ac at [The] Old Farm House [sic], cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Fferm gan D. J. Williams a gyhoeddwyd ym 1961.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Pádraig Ó Fiannachta

Llungopi o lythyr, dim dyddiad [1960x1971], at Waldo Williams oddi wrth yr ysgolhaig, bardd ac offeiriad y Tad Pádraig Ó Fiannachta (Patrick Fenton). Yn ystod ei arhosiad yn Iwerddon ym 1960, dysgodd Waldo'r iaith Wyddeleg yng Ngholeg Maynooth, swydd Kildare, lle 'roedd y Tad Pádraig yn Athro mewn Gwyddeleg Cynnar.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth y teulu Murphy

Llungopïau o lythyrau di-dyddiad at Waldo Williams oddi wrth y teulu Murphy ('Ó Muinntir Murcú'), sef Mr a Mrs Thomas Murphy, oedd yn byw yn Ventry, Swydd Kerry. Bu Waldo yn aros gyda hwy yn ystod mis Mai 1961 (gwelerAlan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 396).

Llythyrau a cherdyn post at Waldo Williams oddi wrth Gwilym James

Cerdyn post, marc post 22 Gorffennaf 1966, a llungopïau o lythyrau, 5 Gorffennaf 1961, 5 September 1965, 5 Awst 1966, 23 January 1967, 15 February 1967, 17 September 1967, a anfonwyd at Waldo Williams gan Gwilym James, Is-Ganghellor Prifysgol Southampton, darlithydd gwâdd a chyfaill prifysgol Waldo.

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Ioan Edmunds

Llungopi o lythyr, 17 Ebrill 1970, at Waldo Williams oddi wrth ei gefnder Ioan Edmunds, mab Wilhelmina (Minnie), chwaer Angharad Williams (née Jones), mam Waldo. Ceir hefyd gyfeiriad at Mwynlân (Mai Edmond (née Jones)), chwaer arall Angharad. Ysgrifennwyd y llythyr at Waldo yn ystod ei gystudd olaf, ac yntau'n glaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth 'Emrys'

Llungopïau o lythyrau, 9 Gorffennaf [ni nodwyd blwyddyn], 24 Awst 1970, 20 Rhagfyr 1970, at Waldo Williams oddi wrth 'Emrys', athro ysgol yn Llundain, tra 'roedd Waldo yn ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd. Ceir cyfeiriad yn un llythyr at Anna Wyn Jones, un o'i gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog a chyfaill agos i Waldo, a fu'n ymweld ag ef yn yr ysbyty yn ystod Awst 1970 (gweler Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth Anna Wyn Jones dan bennawd Gohebiaeth at Waldo Williams; hefyd, gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 408).

Waldo - Y Crynwr: cyfarfod o ddiolch

Cylchlythyr i hysbysu am gyfarfod o'r Crynwyr er mwyn diolch am fywyd Waldo Williams. Ni nodir y lleoliad, ond yn nhŷ cwrdd Aberdaugleddau y bu Waldo'n cyfarfod fel aelod o'r Crynwyr.

Gŵyl Waldo

Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, sy'n cynnwys darlith gan yr ysgolhaig Cymraeg Dr R. Geraint Gruffydd, taith lenyddol yng nghwmni'r bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, a chyfraniadau gan amryw feirdd a llenorion megis T. Llew Jones, Gruffudd Parry, T. James Jones ac eraill.

Cystudd olaf Waldo Williams

Atgofion ar ffurf drafft am gystudd olaf Waldo Williams yn llaw 'Dai', sef David Williams, nai Waldo Williams (mab ei frawd, Roger Williams (am Roger Williams, gweler dan Aelodau eraill teulu Waldo Williams)). Ymysg eraill a grybwyllir y mae Dilys Williams, chwaer Waldo, a'i gyfeillion Benni ac Elsie Lewis. Mae'n bosib fod y llawysgrif hon yn perthyn i, neu'n barhad o, Atgofion am Gwladys Llewellyn (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Teulu Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud ag aelodau teulu Waldo Williams, yn bennaf ei rieni John Edwal Williams ac Angharad Williams (née Jones) a'i chwaer Dilys Williams, yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu, gan gynnwys ei frawd a'i chwaer Roger a Mary (yn ddiweddarach Francis), ei nai David Williams (mab Roger Williams) ac aelodau o gangen Llewellyn i'r teulu, gan gynnwys Gwladys Llewellyn a Mary Llewellyn.

Rhestr ymgeiswyr ar gyfer colegau hyfforddi

Toriad papur newydd dyddiedig 9 Hydref 1886 yn rhestru'r myfyrwyr rheini oedd wedi cymhwyso i gael mynediad i golegau hyfforddi athrawon, yn eu plith John Edwal Williams a George William Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal yn ystod eu cyfnod yn y Coleg Normal, Bangor (1887-1888), ac a fu'n gyfaill iddo am lawer blwyddyn wedi hynny. Ceir arysgrif ar frig y ddalen, yn ôl pob tebyg yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal, sy'n darllen 'Dad' a 'Mr Roome'.

William Williams (Gwilamus)

Dyddiadur a llawlyfr y Bedyddwyr am 1920, sef dyddiadur olaf William Williams (Gwilamus), brawd John Edwal Williams. Ceir nodyn ar y clawr, o bosib yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal a nith Gwilamus, yn datgan 'DYDDIADUR OLAF W. G. WILLIAMS RHOSAERON "Uncle William" Brawd Dad [h.y. John Edwal Williams] dy dadcu di David William[s]' (h.y. David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams). Mae'r nodiadau yn y dyddiadur yn dirwyn i ben ym mis Ebrill 1920, a bu farw Gwilamus yn y mis Gorffennaf canlynol (gw. Llythyr oddi wrth Nan a Waldo Roberts at Gwladys [Llewellyn] dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Arysgrif carreg fedd John a Mary William

Llungopi o arysgrif carreg fedd John a Mary William, rhieni David (Dafydd neu Dafi) Williams, tad John Edwal Williams, ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Llanddewi Felffre, yr arysgrif gwreiddiol yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal.

Mesuriadau tir

Llungopi o ddalen wedi'i chymryd o lyfr nodiadau o eiddo John Edwal Williams, yn dangos manylion mesuriadau tir ym mhlwyf Llandysilio, Sir Benfro. O dan y ddalen llungopiedig, ceir arysgrif eglurhaol, ?o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal (am David Williams, gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Llyfr lloffion Angharad Williams

Llyfr lloffion o eiddo Angharad Williams (née Jones) yn adlewyrchu ei diddordeb mewn gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a hanes cyfoes trwy gyfrwng barddoniaeth, portreadau o unigolion nodedig (gan gynnwys Syr Henry Jones, ewythr Angharad), a thorion papur newydd, yn eu plith eitemau'n olrhain hanes digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf; ynghyd â ryseitiau coginiol a meddyginiaethol a manylion cyfrif Angharad gyda John Morris, siopwr yn Llandysilio.

The Hound of Heaven

Cyfrol yn cynnwys cerdd Francis Thompson (1859-1907) 'The Hound of Heaven', gyda llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams') ar yr wyneb-ddalen. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf ym 1893 yng nghyfrol farddoniaeth gyntaf Thompson.

Results 41 to 60 of 210