Showing 2 results

Archival description
Print preview View:

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

  • GB 0210 MERLIS
  • Fonds
  • [1940x2015]

Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.

Evans, Meredydd

Llythyrau K-W,

Llythyrau, 1942-1992. Ymhlith y gohebwyr mae Phyllis [Kinney] (2), Tom [Parry], Derec Llwyd Morgan, James Nicholas, Bryn Roberts, Meic Stephens, Enid [Pierce Roberts], W. D. [Williams], [J.] [E.] Caerwyn [Williams] (3), a Gruffydd Aled [Williams], ynghyd â chopi teipysgrif o gyflwyniad [J.] [E.] Caerwyn [Williams] i D. Tecwyn Lloyd, John Saunders Lewis (Dinbych, 1988).

Kinney, Phyllis, 1922-