Showing 7 results

Archival description
Ffeil / File Welsh periodicals -- 20th century
Print preview View:

Llythyrau rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen = Letters between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen

Llythyrau, 1933, rhwng Mary Silyn Roberts a Mair Ogwen, golygydd cylchgrawn Y Gymraes, ynghylch ysgrif gan Mary Silyn Roberts i'w chynnwys yn y cylchgrawn ar yr ymgyrchwraig dros heddwch a hawliau merched Charlotte Price White; ynghyd â chopi o'r ysgrif. = Letters, 1933, between Mary Silyn Roberts and Mair Ogwen, editor of Y Gymraes magazine, regarding an article written by Mary Silyn Roberts for publication in the magazine on the suffragist and peace campaigner Charlotte Price White; together with a copy of the article.

Dathlu'r deg mlynedd ar hugain = Thirtieth anniversary celebrations

Rhifyn Tachwedd 1993 o Bapur y Cwm, sef papur bro ardal Pontyberem, sy'n cynnwys erthyglau'n nodi deg mlynedd ar hugain ers llwyddiant brwydr Llangyndeyrn. = November 1993 edition of the Pontyberem and district community paper Papur y Cwm, which contains articles noting the thirtieth anniversary of Llangyndeyrn's 'fight for victory'.

Dathlu'r ugain mlynedd = Twentieth anniversary celebrations

Llungopi o doriad o Bapur y Cwm, sef papur bro ardal Pontyberem, Hydref 1983, yn adrodd hanes digwyddiadau'r dathlu ar 22 Hydref y flwyddyn honno i nodi ugain mlynedd ers llwyddiant ymgyrch trigolion Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach yn erbyn Corfforaeth Abertawe (gweler ffotograffau a drosglwyddwyd i Adran Raffig LlGC (gweler nodyn ym mhrif weithlen yr archif); gweler hefyd Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, tt. 155-6). Ynghyd â llungopi o daflen yn nodi dyddiadau pwysig yn hanes y frwydr fel rhan o raglen y dathliadau a gymerodd le ar 22 Hydref 1983; a llungopi o glawr blaen y gyfrol Cloi'r Clwydi, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Les Llangyndeyrn ym 1983, eto i ddathlu ugain mlynedd ers llwyddiant brwydr Llangyndeyrn.
= Photocopy of a cutting from Pontyberem and district community paper Papur y Cwm, October 1983, containing a report of the twentieth anniversary events held on 22 October that year to celebrate the success of Llangyndeyrn and Gwendraeth Valley's residents against Swansea Corporation (see photographs transferred to NLW's Graphic Department (see note in main section of archive); see also Sefyll yn y Bwlch: Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965, pp. 155-6). Together with photocopy of leaflet noting important dates in the history of the 'fight for victory' as part of the programme of celebratory events which took place on 22 October 1983; and photopied front cover of the book Cloi'r Clwydi, published by Llangyndeyrn Welfare Society in 1983, also in celebration of Llangyndeyrn's campaign success.

Erthyglau gan John Meirion Morris ar gelfyddyd ac addysg yn gyffredinol = Articles by John Meirion Morris on art and educaton in general

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau mwy cyffredinol gan John Meirion Morris ar themâu celfyddyd ac addysg, nifer o'r allbrintiau wedi'u arnodi/cywiro yn llaw John Meirion Morris. Mae un eitem yn cynnwys llythyr atodedig o ganmoliaeth i erthygl John Meirion Morris yn rhifyn Chwefror 1973 o'r cylchgrawn Bulletin oddi wrth Archesgob Cymru ar y pryd, Gwilym Williams. Ynghyd ag eitem yn cynnwys datganiad ynghylch cynnwys a strwythur Cwrs Sail Adran Gelf y brifysgol lle'r oedd John Meirion Morris yn ddarlithydd ar y pryd (eitem yn annyddiedig, felly nid oes modd cyfeirio'n bendant at unrhyw sefydliad arbennig) (oherwydd ei chyflwr eitha bregus, cedwir yr eitem hon mewn amlen wedi'i nodi).
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for more general articles by John Meirion Morris on art and education, many of the printouts including annotations/corrections in the hand of John Meirion Morris. One item includes an attached letter of praise for John Meirion Morris' article in the February 1973 edition of the periodical Bulletin from the then Archbishop of Wales, Gwilym Williams. Together with an item containing a statement relating to the content and structure of the Art Department Foundation Course of the university at which John Meirion Morris was then lecturing (item undated so no means of definite identification of the establishment) (due to its somewhat fragile condition, this item is kept in a marked envelope).

Erthyglau gan John Meirion Morris am ei waith ei hun = Articles by John Meirion Morris about his own work

Llungopïau ac allbrintiau o erthyglau printiedig a drafft-nodiadau llawysgrif ar gyfer erthyglau gan John Meirion Morris yn ymwneud â'i waith celf ei hunan. Yn yr erthygl sy'n dwyn y teitl 'Imagination and The Magic of Tradition', ceir cyfeiriad at y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd.
= Photocopies and printouts of printed articles and draft manuscript notes for articles by John Meirion Morris relating to his own art work. In the article entitled 'Imagination and The Magic of Tradition', there is a reference to the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years.

Erthyglau am John Meirion Morris = Articles about John Meirion Morris

Llungopïau, allbrintiau ac erthyglau gwreiddiol o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau am John Meirion Morris a'i waith, ynghyd ag adolygiadau o'r cyfrolau The Celtic Vision gan John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) a John Meirion Morris: artist gan Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) a nodiadau ar John Meirion Morris fel rhan o gynnwys rhaglen arddangosfa gelf. Ceir rhestr o'r erthyglau, ynghyd â manylion am gylchgronau a llyfrau lle'u cyhoeddwyd, yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, y Western Mail, Y Cymro a'r Faner Newydd. Mae dwy eitem yn cynnwys sylwadau gan y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd.
= Photocopies, printouts and original articles taken from newspapers, periodicals and books about John Meirion Morris and his work, together with reviews of the publications The Celtic Vision by John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) and John Meirion Morris: artist by Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011) and notes on John Meirion Morris as part of an art exhibition programme. Together with an accompanying list of the articles, along with details relating to the periodicals and books in which they were published, in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris. The publications include Planet, Resurgence, Barn, Y Casglwr, Golwg, the Western Mail, Y Cymro and Y Faner Newydd. Two items include observations by the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years.