Dangos 839215 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Robert Williams.

Ychydig o gyfrifon, 1893-4, yn ymwneud â'r brig 'Palestine' (Robert Williams, Master), gyda chopi o lythyrau cydymdeimlad, 1888-9, at Miss [Catherine] Williams a'i thad a'i brawd, John, ar farwolaeth ei mam [Mrs Capt. R. Williams, Porthmadog]. Ymhlith yr ysgrifenwyr y mae'r Parch. Robert Owen, Pennal, a'r Parch. J. J. Roberts, ['Iolo Caernarfon'], Porthmadog.

Robert W. Owen.

Cyflwyno englyn gan Gwyndaf Iwan i'w fam i roi yn y 'Manion' (tudalen gyntaf ar goll).

Robert Rowlands,

St Helens. Diolch am y 'Manion' a chyflwyno llith ar ei atgofion am y gog.

Robert Roberts,

Llanberis. Deunydd i'r 'Manion' (yn eisiau). Trafod hen lyfr barddoniaeth gyda'r gerdd "Bedd y morwr" ynddo.

Robert Roberts,

Llanberis. Deunydd i'r 'Manion' (yn eisiau) - yn ymwneud â darn ar fesur cywydd o'r awdl "Heddwch" allan o lyfr o'i eiddo. Trafod pwy yw'r awdur. Cynigia Ionoron. Trafod awdur yr englyn i Faentwrog a gododd o'r Drych, 14 Ionawr 1926.

Robert Roberts,

Llanberis. Deunydd i'r 'Manion', sef hanes cynnull y defaid crwydr yn Cumberland. Trafod yr enwau Cymreig yno ac mewn mannau eraill. Hefyd amgau rhaglen Cyhoeddi Eisteddfod Caernarfon 1894 (yn eisiau). Sôn am y seremoni ac eisteddfodau eraill. Cynnwys "Anfarwoldeb Emynau" a "Fynnon Llandderfel" ar ddiwedd y llythyr.

Robert Roberts,

Llanberis. Englyn "Yn yr Hen Fro". Gofyn i Carneddog holi yn Yr Herald pwy yw'r awdur (cerdyn post).

R[obert] Roberts,

Llanberis. Amgau deunydd i'r 'Manion' (yn eisiau) a gofyn a thalu am gopi o Tannau Tegfelyn.

Robert Roberts,

Llanberis. Deunydd i'r 'Manion' (yn eisiau). Llongyfarch Carneddog ar ennill cadair Eisteddfod y Cymrodyr, Beddgelert. Sôn am arwerthiant llyfrau y diweddar Barch. J. Evans Owen.

Robert Roberts.

Bodhyfryd, Fflint. Ymholiad ynglyn â 'Crych Elen', yr hen gerddor o Ddolwyddelan.

Robert Richards ar y traethawd i fyfyrwyr dosbarthiadau'r WEA a dosbarthiadau allanol y Brifysgol: 'Llwybr llwydd diwydiannau unrhyw sir yng ...,

Robert Richards ar y traethawd i fyfyrwyr dosbarthiadau'r WEA a dosbarthiadau allanol y Brifysgol: 'Llwybr llwydd diwydiannau unrhyw sir yng Nghymru; ei diwydiannau coll a'i diwydiannau newydd posibl'. Dyfarnwyd y wobr i 'Crefftwr Gwlad' (T. Rhys Jones, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd) [rhif 27 yn y Rhestr Testunau].

Canlyniadau 9661 i 9680 o 839215