Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth,

Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: 'Llanw'; dilyniant o gerddi digynghanedd: 'Ynys'; englyn: 'Ras'; englyn ysgafn: 'Prawf gyrru'; cywydd: 'Iolo Morgwnwg'; telyneg: 'Y wawr'; soned: 'Gwynfor Evans'; tribannau Morgannwg: 'Y tymhorau'; cerdd ddychan: 'Clymblaid'; baled: 'Ffair'; salm: 'Y Tangnefeddwyr'; a hir a thoddaid: 'Sain Tathan'.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Sonata i delyn a ffliwt (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Siân Rhiannon; ffantasi i organ; carol Nadolig addas i blant oedran ysgol gynradd; cân Gymraeg yn seiliedig ar gerdd/rhan o gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg; cyfansoddiad o tua 3 munud o hyd yn seiliedig ar ddetholiad penodedig o ddrama/ffilm.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Adfywiad' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Joio' (y tlws rhyddiaith); darn o ryddiaith: 'Fy ardal i'; darn o ryddiaith: 'Diwrnod perffaith'; gwaith grŵp: casgliad o eitemau ... ar gyfer papur bro; blog gan unigolyn yn cynnwys o leiaf tri mewnbwn; a cherdyn post tua 50 o eiriau.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Yfory'; casgliad o ddeg darn ar ffurf llên micro: 'Gafael'; ysgrrif yn ymwneud â byd natur; pennod gyntaf llyfr ar hanes unrhyw glwb neu gymdeithas; erthygl ar gyfer papur bro ar y thema: 'Dilyn afon' neu 'Taith trên'; portread (agored); stori ffantasi i bobol ifainc; erthygl: paratoi cinio i dri chymeriad hanesyddol neu lenyddol ...; erthygl am un o gewri chwaraeon Cymru a fyddai'n addas i'w chyhoeddi mewn cylchgrawn fel Barn neu Taliesin; cyfrol bwrdd coffi: 'Bro'; a a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Fy mhlentyndod - hyd at 15 oed'.

Barddoniaeth,

Awdl: 'Ennill tir'; casgliad o gerddi: 'Newid' (y goron); englyn: 'Dysgwr'; pum englyn milwr: englyn yr un i bum rebel; pum englyn penfyr: 'Teulu'; cywydd i gyfarch pencampwr Cymreig; telyneg: 'Machlud'; soned: 'Llwybrau'; cerdd gaeth hyd at 50 llinell: 'Arwr'; cerdd rydd yn ymateb i lun; cerdd ddychan; 'Golff'; a chasgliad o 100 o englynion, penillion, cwpledi neu gerddi coffa oddi ar gerrig beddau.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau Rita Milton Jenkins; deuawd wreiddiol a fyddai'n addas i rai 12-16 oed gan fardd cyfoes; cyfansoddiad i achlysur arbennig ar gyfer band pres neu ensemble pres; trefniant o gân werin ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer cyfuniad o un llais a dau offeryn mewn unrhyw ardd (Tlws y cerddor); a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Cariad' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Perthyn (Tlws rhyddiaith); darn o ryddiaith: 'Disgrifio'ch tiwtor'; darn i'r papur bro yn disgrifio digwyddiad; llythyr at Gymro neu Gymraes enwog; cyfres o negeseuon electroneg; a pharatoi deunydd ar gyfer dysgwyr (creu deialog).

Drama,

Drama hir agored neu gyfres o ddramâu; drama fer agored hyd at awr o hyd; trosi drama benodol i'r Gymraeg; cyfansoddi; cyfansoddi drama gomedi; cyfansoddi monolog ... ar y testun 'Celwydd'; a sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd (Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle).

Rhyddiaith,

Darn neu ddarnau o ryddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi ei lleoli dramor; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro ar y thema 'Perthynas'; stori ffantasi i bobl ifanc; ysgrif bortread; un bennod o hunangofiant; a darn o ryddiaith yn dychanu unrhyw sefydliad Cymreig.

Barddoniaeth,

Awdl: 'Ffin'; pryddest neu ddilyniant o gerddi; 'Copaon'; englyn unodl union: 'Alllwedd'; englyn digri unodl union: 'Esgus'; telyneg: 'Hedfan'; Chwe cerdd ar gyfer canwr cyfoes; carol plygain; cywydd byr neu hir a thoddaid: 'Clawdd'; vers libre: 'Y farchnad'; cyfres o hyd at 8 o dribannau neu benillion telyn: 'Chwaraeon'; a soned: 'Ffynnon'.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau John Lewis Jones; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; darn ar gyfer côr SATB fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano/organ ac un offeryn arall; ffantasia i'r organ ar y dôn 'Groeswen'; darn gwreiddiol hyd at 4 munud o hyd ar gyfer grŵp offerynnol ysgol gynradd; deuawd wreiddiol gyda'r geiriau o ddewis y cyfansoddwr a fyddai'n addas i rai 12-16 oed; ymdeithgan ar gyfer band pres neu chwyth; unawd offerynnol ddigyfeiliant ddisgrifiadol neu destunol ... (Tlws y cerddor); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwyn na 8 munud (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Canlyniadau 61 i 80 o 691