Dangos 29 canlyniad

Disgrifiad archifol
Wales. Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau'r Parch. J. Edryd Jones,

  • GB 0210 JEDRNES
  • fonds
  • 1901-1963 /

Dros 600 o bregethau,1901-1963, y Parch. John Edryd Jones, sir Ddinbych.

Jones, J. Edryd (John Edryd), 1876-1965

Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis,

  • NLW ex 2560.
  • ffeil
  • 1972.

Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis at y rhoddwr Huw Ceiriog Jones, 1972, yn ymwneud â threfnu i'w gwmni Gwasg yr Arad Goch argraffu a rhwymo nofel argraffedig y llenor yn seiliedig ar y gyfres deledu Tre-sarn a ddarlledwyd gan y BBC.

Elis, Islwyn Ffowc

Llythyrau'n ymwneud ag ysgolion meithrin,

Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud ag ysgolion meithrin, 1969-1977, gan gynnwys rhai oddi wrth Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yn trafod ymgyrch i agor a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg; cyfrif o gyfraniadau Merched y Wawr i'r achos, 1972-1973; cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i gychwyn ysgol neu gylch meithrin; ac adroddiad blynyddol a chopi o bolisi gan Mudiad Ysgolion Meithrin, 1976-1977.

Mudiad Ysgolion Meithrin.

Anerchiad gan Cranogwen

  • NLW MS 23895A.
  • Ffeil
  • [?1891]

Llyfr nodiadau, [?1891], yn cynnwys rhan o anerchiad gan Sarah Jane Rees (Cranogwen) ar yr Ysgolion Sul Cymreig a'r diffygion ymddangosiadol yn y dulliau dysgu a arferwyd ynddynt. = Notebook, [?1891], containing part of an address by Sarah Jane Rees (Cranogwen), on Welsh Sunday Schools and perceived deficiencies in the teaching methods employed in them.
Mae rhan cyntaf y testun ar gefn y dail yn unig (ff. 1-9), wedi hynny mae wedi ei ysgrifennu ar draws pob agoriad (ff. 9 verso-16 verso); mae'r diwedd, ac o bosib y dechrau, yn eisiau. = The first half of the text is on the rectos only (ff. 1-9), thereafter it is written across each opening (ff. 9 verso-16 verso); the end, and possibly the beginning, is missing.

Cranogwen, 1839-1916

Dogfennau'n ymwneud â mudiad Adfer,

  • NLW ex 2586.
  • ffeil
  • [1970]-[1971].

Tystysgrif y rhoddwr Huw Ceiriog Jones yn dangos ei fod yn berchen ar gyfranddaliadau yng nghwmni Adfer Cyf Ltd, papur ysgrifennu swyddogol yn dangos swyddogion y cwmni, ynghyd â chopi o Femorandwm ac Erthyglau'r cwmni, 9 Medi 1970. = A share certificate in Adfer Cyf Ltd which belonged to the donor Huw Ceiriog Jones, official headed notepaper with names of company officials, together with a copy of the Memorandum and Articles of Association of Adfer Limited, 9 September 1970.

Adfer.

Cerddi Caersallwg,

  • NLW MS 16306A.
  • ffeil
  • 1849-1862 /

Llyfr poced masnachol, 1849-1862, yn cynnwys cerddi gan, ac yn llaw, W. J. Roberts ('Caersallwg'), dilledydd, Caernarfon, ynghyd â nodiadau ganddo yn ymwneud â dirwest. = Commercial pocket book, 1849-1862, containing poems by, and in the hand of, W. J. Roberts ('Caersallwg'), draper, Caernarfon, together with notes by him relating to temperance.

Roberts, W. J. (William J.).

Aelwyd lân a gwraig lon,

Cerdd o'r enw 'Aelwyd lan a gwraig lon' gan 'Gwr Mwyn' [o Lanfair Caereinion?], anfonwyd i 'Mr W. P.', Pwllheli, Ionawr 1863. = A poem entitled 'Aelwyd lan a gwraig lon' by 'Gwr Mwyn' [of Llanfair Caereinion?], sent to 'Mr W. P.', Pwllheli, January 1863.

Gwr Mwyn

Cenedlaetholdeb a'r clasuron (1997),

Papurau'n ymwneud â threfniadau Cyngres Canmlwyddiant Urdd y Graddedigion a gynhaliwyd yng Ngregynog, Mawrth 1994, gan gynnwys llythyr oddi wrth Telfryn [Pritchard], 1994, a'r ddarlith mewn teipysgrif.

Pritchard, R. Telfryn (Roger Telfryn), 1940-

Llythyr o Wisconsin,

  • NLW Facs 1009.
  • ffeil
  • [2006].

Llungopïau o lythyr, 1879, oddi wrth J. a W. James at eu teulu yn Nhalybont. Ymfudodd y pâr o Bontrhydfendigaid i Wisconsin yn 1847, ynghyd â throsiad i'r Saesneg. = Photocopies of a letter from J. and W. James, 1879, to their family in Talybont. The couple emigrated from Pontrhydfendigaid to Wisconsin in 1847, together with an English translation.

Canlyniadau 21 i 29 o 29