Showing 2812 results

Archival description
Emyr Humphreys Papers
Print preview View:

'The Shilling (Insurance) Man' / 'The Stumbling Block'

Dwy sgript (y ddwy wedi’u dyddio 1963), yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan o’r enw ‘The Shilling (Insurance) Man’, cyfieithiad Saesneg gan Emyr Humphreys o ‘Y Dyn Swllt’ gan W.S. Jones; a chopi teipysgrif o sgript ar gyfer drama deledu gyda’r teitl ‘The Stumbling Block’ gan John Gwilym Jones, cyfieithiad o’r fersiwn Gymraeg wreiddiol gan Emyr Humphreys. / Two scripts (both dated 1963), consisting of a typescript of a script for a stage play titled ‘The Shilling (Insurance) Man’, an English translation by Emyr Humphreys of ‘Y Dyn Swllt’ by W.S. Jones; and a typescript copy of a script for a television play titled ‘The Stumbling Block’ by John Gwilym Jones, a translation of the original Welsh version by Emyr Humphreys.

'Reg'

Copi teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan heb ei pherfformio gan Emyr Humphreys, dan y teitl ‘Reg’ ([c.1964]). / A typescript copy of a script for an unperformed stage play by Emyr Humphreys, titled ‘Reg’ ([c.1964]).

Cynyrchiadau teledu amrywiol / Various television productions

Papurau’n ymwneud â rhaglen deledu gyda’r teitl ‘The Celts – Chronicle’, gan gynnwys rhestr o luniau a rholiau camera, a nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn llaw Humphreys. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau sy’n ymwneud â chynyrchiadau teledu eraill lle bu Emyr Humphreys yn gysylltiedig, gan gynnwys rhestr camera ar gyfer rhaglen gyda'r teitl ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, ynghyd â nodiadau; rhestrau cast, amserlen stiwdio, a threfn rhedeg ar gyfer cynhyrchiad gyda'r teitl ‘Gwrthwynebwyr’/'Pearse a Connolly' (1974); a chynlluniau llwyfan ar gyfer cynhyrchiad o’r enw ‘Blodeuwedd’ (1964). / Papers relating to a television programme titled ‘The Celts – Chronicle’, including a list of shots and camera rolls, and manuscript notes written in Humphreys’ hand. The file also includes papers relating to other TV productions where Emyr Humphreys was involved, including a shot list for a programme titled ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, with accompanying notes; cast lists, studio schedule, and running order for a production titled ‘Gwrthwynebwyr’/’Pearse a Connolly’ (1974); and stage plans for a production titled ‘Blodeuwedd’ (1964).

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones

Papurau yn ymwneud â Saunders Lewis a David Jones a gasglwyd ac a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau o'r traethodau 'A Necessary Figure' ac 'Enaid Digimar' (cyhoeddwyd yn Y Faner, 1985), drafft llawysgrif o draethawd yn ymwneud â'r gwaith' Excelsior' gan Saunders Lewis (heb ei ddyddio), a phamffledi a thoriadau pellach yn ymwneud â Saunders Lewis, yn cynnwys copi o deyrnged gan Thomas Parry (heb ddyddiad), teyrnged gan Theatr Ymylon ([1973]), toriad o'r Radio Times ( 1987), a phamffled 'Y Ddrama yn Ewrop' (gyda rhagair gan Emyr Humphreys); ynghyd â nodiadau teipysgrif a llawysgrif gyda’r teitl 'Hours by the Window: an artist in Philistia' (heb ddyddiad), nodiadau teipysgrif yn ymwneud â rhaglen ar David Jones gan Harlech Television (heb ddyddiad), pamffled ar gyfer Gŵyl David Jones (1973), a copi o adolygiad o 'In Parenthesis' David Jones o 'The Tablet' (1964), gan Saunders Lewis, ac o 'Time and Tide' (1952) gan Emyr Humphreys, a llyfryn ar gyfer arddangosfa David Jones (1972) , ymhlith papurau eraill. / Papers relating to Saunders Lewis and David Jones collected and written by Emyr Humphreys, comprising typescripts of the essays ‘A Necessary Figure’ and ‘Enaid Digymar’ (published in Y Faner, 1985), a manuscript draft of an essay related to the work ‘Excelsior’ by Saunders Lewis (undated), and further pamphlets and cuttings relating to Saunders Lewis, including a copy of a tribute by Thomas Parry (undated), a tribute by Theatr Ymylon ([1973]), a cutting from the Radio Times (1987), and a pamphlet ‘Y Ddrama yn Ewrop’ (with foreword by Emyr Humphreys); together with typescript and manuscript notes titled ‘Hours by the Window: an artist in Philistia’ (undated), typescript notes relating to a programme on David Jones by Harlech Television (undated), a pamphlet for the David Jones Festival (1973), a copy of a review of David Jones’ ‘In Parenthesis’ from ‘The Tablet’ (1964), by Saunders Lewis, and from ‘Time and Tide’ (1952) by Emyr Humphreys, and a booklet for a David Jones exhibition (1972), among other papers.

'The Suspect'

Teipysgrif (1995) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl ‘The Suspect’, gan Lisa Garfield, cyfieithiad Saesneg o ‘Rhodd Mam’ gan Emyr a Siôn Humphreys; ynghyd â thoriad o’r wasg, ‘The Last Command’ gan David Rees (1965). / A typescript (1995) of a script for a film for television titled ‘The Suspect’, by Lisa Garfield, an English translation of ‘Rhodd Mam’ by Emyr and Siôn Humphreys; together with a press cutting, ‘The Last Command’ by David Rees (1965).

Datganiadau breindal a phapurau aelodaeth undeb / Royalty statements and union membership papers

Datganiadau breindal (1970-1995) a phapurau aelodaeth undeb (1965-1991), yn cynnwys datganiadau breindal ar gyfer gweithiau gan Emyr Humphreys a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1970-1995), gyda memorandwm cytundeb ar gyfer 'Ancestor Worship' (1978) ; tystysgrifau aelodaeth y ‘Performing Rights Society’, gyda phamffled, llythyrau, a ffurflen hysbysu (1973-1980); tri llythyr gan yr ‘Association of Cinematograph Television and Allied Technicians’ (1965-1985); cerdyn aelodaeth ACTT (1975); llythyrau (6) oddi wrth PRS yn ymwneud â materion aelodaeth (1987-1991); a thaflen ffeithiau gan yr ‘Author’s Licensing and Collecting Society’ (1995). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys amryw o bapurau eraill gan gynnwys teipysgrifau o gerddi ([?1970]); copi o araith y bwriedir ei darlledu, o’r enw ‘Naming the Welsh’ (heb ddyddiad); datganiad dosbarthu ar gyfer drama S4C ‘Brodyr a Chwiorydd’ (1995); a llythyrau (1971-1995) oddi wrth Emyr Humphreys (1), Gwasg Prifysgol Rhydychen (4); Margaret Palmer (1), a Christopher Morris (2). / Royalty statements (1970-1995) and union membership papers (1965-1991), consisting of royalty statements for works by Emyr Humphreys published by Oxford University Press (1970-1995), with a memorandum of agreement for ‘Ancestor Worship’ (1978); membership certificates for The Performing Rights Society, with pamphlet, letters, and notification form (1973-1980); three letters from the Association of Cinematograph Television and Allied Technicians (1965-1985); ACTT membership card (1975); letters (6) from PRS relating to membership matters (1987-1991); and a fact sheet from the Author’s Licensing and Collecting Society (1995). The file also contains various other papers including typescripts of poems ([?1970]); a copy of a speech intended for broadcast, titled ‘Naming the Welsh’ (undated); a distribution statement for an S4C drama ‘Brodyr a Chwiorydd’ (1995); and letters (1971-1995) from Emyr Humphreys (1), Oxford University Press (4); Margaret Palmer (1), and Christopher Morris (2).

'Rhodd Mam'

Papurau (1965; 1995), yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, yn ymwneud â chynhyrchu sgript o ffilm ar gyfer y teledu wedi'i theitlo 'Rhodd Mam' gan Emyr a Siôn Humphreys. Darlledwyd gan S4C yn 1995. / Papers (1965; 1995), consisting mainly of typescripts, relating to the production of a script of a film for television titled 'Rhodd Mam' by Emyr and Siôn Humphreys. Transmitted by S4C in 1995.

Datganiadau breindal / Royalty statements

Papurau (1965-2009), yn cynnwys datganiadau breindal, datganiadau Hawliau Benthyca Cyhoeddus yn ymwneud â gweithiau cyhoeddedig Emyr Humphreys, ynghyd â phapurau pellach yn ymwneud ag aelodaeth Undeb. / Papers (1965-2009), consisting of royalty statements and Public Lending Right (PLR) statements relating to published works by Emyr Humphreys, together with further papers relating to Union memberships.

Cydweithrediad gydag Alun Hoddinott / Collaboration with Alun Hoddinott

Papurau amrywiol yn ymwneud yn bennaf â chydweithrediad Emyr Humphreys â’r cyfansoddwr Alun Hoddinott, gan gynnwys nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; drafft o lythyr at Alun Hoddinott oddi wrth Emyr Humphreys (heb ddyddiad); nodyn gan Geraint Lewis yn ymwneud â’r erthygl ‘Hoddinott at 60’, ynghyd â chopi o’r erthygl (1989); llythyr oddi wrth E. Butler (1975), yn trafod y gwaith ‘Five Landscapes’ (cyhoeddwyd fel ‘Landscapes: Ynys Môn : a song cycle for high voice and piano’, Llundain: OUP, 1976), ynghyd â chopi; rhagymadrodd i ‘Songs of Exile: Poems by Emyr Humphreys’ gan Alun Hoddinott (a recordiwyd gan Gerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, 1989); rhaglen ar gyfer opera Hoddinott ‘The Beach of Falesá’ (perfformiwyd gan Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru, 1974); tocynnau ar gyfer Wythnos Gerdd Dewi Sant y BBC (1978); llythyr gan Emyr Humphreys yn ymwneud â Chwmni Theatr Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag adroddiad (1967); a chopi o gerdd Humphreys ‘How the Prince Found a Wife’, ynghyd â llythyrau a phapurau pellach. / Various papers mainly relating to Emyr Humphreys’ collaboration with the composer Alun Hoddinott, including manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; a draft of a letter to Alun Hoddinott from Emyr Humphreys (undated); a note from Geraint Lewis relating to the article ‘Hoddinott at 60’, together with a copy of the article (1989); a letter from E. Butler (1975), discussing the work ‘Five Landscapes’ (published as ‘Landscapes: Ynys Môn : a song cycle for high voice and piano’, London: OUP, 1976), a copy of which is included; an introduction for Alun Hoddinott’s ‘Songs of Exile: Poems by Emyr Humphreys’ (recorded by the BBC Welsh Symphony Orchestra, 1989); a programme for Hoddinott’s opera ‘The Beach of Falesá’ (performed by the Welsh National Opera Company, 1974); tickets for the BBC’s St David’s Music Week (1978); a letter from Emyr Humphreys relating to the Welsh National Theatre Company, together with a report (1967); and a copy of Humphreys’ poem ‘How the Prince Found a Wife’, together with further letters and papers.

Teipysgrifau a drafftiau amrywiol / Various typescripts and drafts

Papurau (1967-2019), yn cynnwys nodiadau a drafftiau yn ymwneud a traethodau a gweithiau eraill gan Emyr Humphreys, gan gynnwys teipysgrifau o draethodau gyda’r teitlau ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (heb ddyddiad), 'Lawen Chwedl' (heb ddyddiad), a 'Cyflwyno Cymreictod' (heb ddyddiad); ynghyd â theipysgrifau pellach gan gynnwys drafft o 'A Spark from the Sun' ([?1992]), sgript ddrafft ar gyfer 'Yr Eneth Fwyn' (heb ddyddiad), crynodeb o'r gyfres 'Land of the Living' (1990), a nodiadau o'r enw 'Plas Moloch' (heb eu dyddio), ymhlith papurau eraill. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), ac Emyr Humphreys (3); a chopi o raglen ar gyfer Cyngerdd Cerddorfa Symffoni’r BBC, Caerdydd (1989), a oedd yn cynnwys y darn ‘Songs of Exile’ gan Alun Hoddinott gyda geiriau gan Emyr Humphreys. / Papers (1967-2019), featuring notes and drafts relating to essays and other works by Emyr Humphreys, including typescripts of essays titled ‘Anglo-Welsh’ (1967/8), ‘The Size of Soap’ (1986), ‘Bwrdd Datblygu Teledu Cymraeg’ (undated), ‘Lawen Chwedl’ (undated), and ‘Cyflwyno Cymreictod’ (undated); together with further typescripts including a draft from ‘A Spark from the Sun’ ([?1992]), a draft script for ‘Yr Eneth Fwyn’ (undated), a summary of the ‘Land of the Living’ series (1990), and notes titled ‘Plas Moloch’ (undated), among other papers. The file also contains correspondence, including letters from Sioned Puw Rowlands (1), Natalie Williams (1), Margaret Body (2), and Emyr Humphreys (3); and a copy of a programme for the BBC Symphony Orchestra Concert, Cardiff (1989), which included the piece ‘Songs of Exile’ by Alun Hoddinott with words by Emyr Humphreys.

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol eraill / Various other event programmes

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynhyrchiad theatr ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Abertawe (2003); ‘25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Orielau Celf Dinas Sheffield (1978); copi o ‘Fine print: A Review for the Arts of the Book’, cyf.7.2 (1981); a chopi o glawr ‘Wales’ rhif 1 1937 (dyddiedig 1969). / Various event programmes collected by Emyr Humphreys, consisting of programmes for a theatre production ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Swansea (2003); ’25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Sheffield City Art Galleries (1978); a copy of ‘Fine Print: A Review for the Arts of the Book’, vol.7.2 (1981); and a copy of the cover of ‘Wales’ no.1 1937 (dated 1969).

Nodiadau a teipysgrifau yn ymwneud ag erthyglau / Notes and typescripts relating to articles

Nodiadau, teipysgrifau, a drafftiau amrywiol yn ymwneud ag erthyglau gan Emyr Humphreys, gan gynnwys papurau yn ymwneud â rhaglen taith theatr yn dathlu pen-blwydd y dramodydd Wil Sam Jones, 1995, yn 75 oed, yn cynnwys llythyr a datganiad i'r wasg gan Linda Brown (Theatr Bara Caws), copïau o erthyglau gyda’r teitlau ‘Cenadwri a “Rywbeth i Ddeud”’ a ‘W.S.J.’, ynghyd â gwahoddiad i ddigwyddiad W. S. Jones yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995, a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; a theipysgrifau o’r erthyglau 'O Barch i Ambrose Bebb' (1992), 'Dau Le: Filitosa a Castro' (cyhoeddwyd Y Faner, Mawrth [1986]), 'Memorandwm ar y Sianel Teledu Gymraeg' (1975), 'Y Celfyddydau yn y Chwedegau’ (cyhoeddwyd yn ‘Y Chwedegau’, Caerdydd, 1970), ‘Arnold yng Ngwlad Hud’, 1978 (cyhoeddwyd fel ‘Arnold in Wonderland’ yn ‘Miscellany Two’ (Pen-y-bont: Poetry Wales Press, 1981)), ‘Cyflwyno Cymreictod’/‘Newid Gosgedd’ (cyhoeddwyd yn Taliesin, 44 (1982), 22-7), ‘Y Gelyn Oddimewn’ (heb ddyddiad), ac erthygl ddi-deitl y bwriedir ei chynnwys mewn teyrnged i Kate Roberts, wedi’i golygu gan Bobi Jones ( [1969]). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys teipysgrif o erthygl gan John Gwilym Jones, ‘Brithgofio Taith’ (heb ddyddiad). / Various notes, typescripts, and drafts relating to articles by Emyr Humphreys, including papers relating to a programme for a theatre tour celebrating the 75th birthday of the dramatist Wil Sam Jones, 1995, consisting of a letter and press release from Linda Brown (Theatr Bara Caws), copies of articles titled ‘Cenadwri a “Rywbeth i Ddeud”’ and ‘W.S.J.’, together with an invitation to a W. S. Jones event at Eisteddfod Bro Colwyn 1995, and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; and typescripts of articles titled ‘O Barch i Ambrose Bebb’ (1992), ‘Dau Le: Filitosa a Castro’ (published Y Faner, March [1986]), ‘Memorandwm ar y Sianel Teledu Gymraeg’ (1975), 'Y Celfyddydau yn y Chwedegau' (published in ‘Y Chwedegau’, Cardiff, 1970), ‘Arnold yng Ngwlad Hud’, 1978 (published as ‘Arnold in Wonderland’ in ‘Miscellany Two’ (Bridgend: Poetry Wales Press, 1981)), 'Cyflwyno Cymreictod'/'Newid Gosgedd' (published in Taliesin, 44 (1982), 22-7), ‘Y Gelyn Oddimewn’ (undated), and an untitled article intended for inclusion in a tribute to Kate Roberts, edited by Bobi Jones ([1969]). The file also includes a typescript of an article by John Gwilym Jones, ‘Brithgofio Taith’ (undated).

Nodiadau cynnar / Early notes

Nodiadau llawysgrif di-deitl yn llaw Emyr Humphreys (1969), yn ymwneud yn ôl pob tebyg â’r gyfres ‘Land of the Living’ ac yn ymwneud yn bennaf â’r cymeriad ‘Peredur’, ynghyd â drafftiau o farddoniaeth a rhai nodiadau mewn llaw wahanol. / Untitled manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys (1969), apparently relating to the ‘Land of the Living’ series and mainly regarding the character ‘Peredur’, along with drafts of poetry and some notes in a different hand.

'A Necessary Figure'

Papurau (1970; [?1973]), yn ymwneud â chynhyrchiad teledu o’r enw ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, yn cynnwys tri drafft teipysgrif o sgript deledu a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys; nodiadau llawysgrif yn llaw yr un; a theipysgrif arall gyda’r teitl ‘Outline of a Necessary Figure’. / Papers (1970; [?1973]), relating to a television production titled ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, including three typescript drafts of a television script written by Emyr Humphreys; manuscript notes in the hand of the same; and a further typescript titled ‘Outline of a Necessary Figure’.

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'The Gift' (Llundain: Eyre & Spottiswoode, 1963), 'National Winner' (Llundain: Macdonald, 1971),'Flesh and Blood’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1974), a ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978), gan gynnwys toriadau o The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, Y Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement , The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, a'r South Wales Echo. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr oddi wrth Saunders Lewis (1971); a llythyr oddi wrth Derek Stanford (1974). / Press cuttings ([?1970]-1974; 1978-[?1979]) relating to Emyr Humphreys’ works ‘The Gift’ (London: Eyre & Spottiswoode, 1963), ‘National Winner’ (London: Macdonald, 1971), ‘Flesh and Blood’ (London: Hodder & Stoughton, 1974), and ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978), including cuttings from The Listener, New Statesman, The Telegraph, The Observer, The Sunday Telegraph, The Birmingham Post, The Evening News, The Western Mail, The Sunday Times, The Yorkshire Post, The Anglo-Welsh Review, The Evening Standard, Birmingham Evening Mail, Oxford Mail, Y Cymro, The Irish Times, The Spectator, The Financial Times, The Scotsman, The Times, The Tablet, The Guardian, Y Faner, Times Literary Supplement, The Northern Echo, Western Evening Herald, Morning Star, Express & Echo, Yorkshire Evening Post, Lancashire Evening Post, The Citizen, and the South Wales Echo. The file also contains a copy of a letter from Saunders Lewis (1971); and a letter from Derek Stanford (1974).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg (1970-1; 1973-4; 1978-9) yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys 'Ancestor Worship' (Dinbych: Gwasg Gee, 1970), 'National Winner' (Llundain: Macdonald, 1971), 'Flesh and Blood ’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1974), a ‘The Best of Friends’ (Llundain: Hodder & Stoughton, 1978), yn cynnwys toriadau o The Spectator, The Bookseller, The Tablet, The Sunday Times, The Scotsman, The Guardian, The Times, The Observer, Sunday Telegraph, The Evening Standard, The Financial Times, Y Faner, The Mail, Books and Bookworm, The Western Mail, a The South Wales Echo. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys amryw o bapurau cysylltiedig eraill, gan gynnwys dwy siaced lwch ar gyfer ‘National Winner’ ([1971]; 1972); ffurflen archebu ar gyfer ‘Ancestor Worship’ (1970); catalog ar gyfer Oriel Gelf Bangor (1970); copi o erthygl Meic Stephens, ‘Artists in Wales’ ([?1971]); rhaglen ar gyfer cynhadledd ‘Y Nofel yng Nghymru’ (1977); a llythyrau (1970-3; 1979) oddi wrth Judy Piatkus (1), Tony Austin (1), Nigel Lawson (1), Lowri Morgan (1), Andrew Ravensdale (1), ac Emyr ac Elinor Humphreys (1). / Press cuttings (1970-1; 1973-4; 1978-9) relating to Emyr Humphreys’ works ‘Ancestor Worship’ (Denbigh: Gwasg Gee, 1970), ‘National Winner’ (London: Macdonald, 1971), ‘Flesh and Blood’ (London: Hodder & Stoughton, 1974), and ‘The Best of Friends’ (London: Hodder & Stoughton, 1978), including cuttings from The Spectator, The Bookseller, The Tablet, The Sunday Times, The Scotsman, The Guardian, The Times, The Observer, Sunday Telegraph, The Evening Standard, The Financial Times, Y Faner, The Mail, Books and Bookworm, The Western Mail, and The South Wales Echo. The file also contains various other related papers, including two dust jackets for ‘National Winner’ ([1971]; 1972); an order form for ‘Ancestor Worship’ (1970); a catalogue for Bangor Art Gallery (1970); copy of article by Meic Stephens, ‘Artists in Wales’ ([?1971]); a programme for ‘The Novel in Wales’ conference (1977); and letters (1970-3; 1979) from Judy Piatkus (1), Tony Austin (1), Nigel Lawson (1), Lowri Morgan (1), Andrew Ravensdale (1), and Emyr & Elinor Humphreys (1).

Teipysgrifau o erthyglau / Typescripts of articles

Erthyglau amrywiol gan Emyr Humphreys a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys teipysgrifau o erthyglau gyda’r teitlau 'A Writer and Television' (cyhoeddwyd yn Llais Llyfrau, Hydref 1988, tt. 4-5), 'Traduttore- Traditore - Pity the Translator, Bilingual Murmurs' (heb ei ddyddio), ‘A Protestant View of the Modern Novel’ (heb ddyddiad), ‘Creative Structures’, gyda nodiadau wedi’i theitlo ‘Creating a Novel’ (a baratowyd ar gyfer Cynhadledd Allanol Bangor, [1981]); copi a thoriad o erthygl gyda’r teitl ‘In Love with an Island’ (o The Spectator, Awst 1970); a chopi o nodiadau wedi’i theitlo ‘Cystrawen Creu [>Opera Sebon]’ (heb eu dyddio). / Various articles by Emyr Humphreys and related notes, including typescripts of articles titled ‘A Writer and Television’ (published in Llais Llyfrau, Autumn 1988, pp. 4-5), ‘Traduttore -Traditore- Pity the Translator, Bilingual Murmurs’ (undated), ‘A Protestant View of the Modern Novel’ (undated), 'Creative Structures', with notes titled ‘Creating a Novel’ (prepared for the Bangor Extra Mural Conference, [1981]); a copy and cutting of an article titled ‘In Love with an Island’ (from The Spectator, August 1970); and a copy of notes titled ‘Cystrawen Creu [>Opera Sebon]’ (undated).

T

Llythyrau a chardiau at Emyr ac Elinor Humphreys (1970-2009), oddi wrth Wyn Thomas (2), John Thompson (1), Etain Todds (3), a 'Nêst' (1), 'Gwen' (1), a 'Matthew' (1). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nodiadau mewn llaw Emyr Humphreys yn talu teyrnged i Tudur [Jones]. / Letters and cards to Emyr and Elinor Humphreys (1970-2009), from Wyn Thomas (2), John Thompson (1), Etain Todds (3), and 'Nêst' (1), 'Gwen' (1), and 'Matthew' (1). The file also includes notes in the hand of Emyr Humphreys paying tribute to Tudur [Jones].

Results 101 to 120 of 2812