Beirniadaeth ar gyfansoddi chwech o alawon gosod wedi'u trefnu i'r delyn, a chwe gosodiad addas i'w defnyddio mewn gwasanaethau crefyddol a beirniadaeth (rhifau 86-7 yn y Rhestr Testunau).
Drama hir wreiddiol; drama fer wreiddiol; cyfaddasiaf cyfoes dramatig o unrhyw gymeriad neu ddigwyddiad yn y Testament Newydd; act gyntaf o ddrama gyfres ar gyfer y teledu; dramâu un act gwreiddiol; dramâu ar gyfer plant; dramâu un act gwreiddiol ar gyfer merched; trosi drama fuddugol o waith awdur yn perthyn i Gymdeithas Drama Cymru;
Dramâu hir gwreiddiol; drama un act wreiddiol i ferched; dramâu teledu; addasiadau o stori fer mewn unrhyw iaith yn ddrama Gymraeg; trosiadau o ddramâu hir a throsiad o unrhyw ddrama fer o’r Almaeneg neu’r Ffrangeg.
Llawlyfr elfennol i osodwyr cerdd dant ar gyfer ysgolion; rhanganeuon ar gyfer S.S.A., S.A., Bariton neu S.A.T.B. ... a darn bywiog wedi'i gyfansoddi ar gyfer Corau Meibion T.T.B.B. ar unrhyw eiriau Cymraeg.
Straeon byrion ag iddynt gefndir crefyddol; chwech ysgrif bortread; rhagarweiniad i farddoniaeth gyfoes Gymraeg; detholiad o ryddiaith y pulpud oddi ar 1900; blodeugerdd o farddoniaeth Ffrainc; traethawd : 'Cyfraniad pobl Sir Benfro i fywyd Llundain' a deuddeg o ysgrifau cofiannol ar gymeriadau enwog yn hanes Cymru.
Cofiannau i gymeriad dychmygol (y fedal ryddiaith); cyfres o dair stori fer; tair ysgrif ysgafn; trafodaeth ar syniadau diwinyddol yr Athro J. R. Jones; traethawd ar ddylanwadau gwyddoniaeth ar fywyd cefn gwlad er y rhyfel diwethaf a chasgliadau o tua 30 o anerchiadau crefyddol byrion ar gyfer plant ysgolion cynradd.
Emynau : 'Fel y byddont oll yn un'; cadwyn fer o englynion : 'Y llynnoedd'; carolau Nadolig; penillion yn null y Ficer Pritchard, yn ceryddu Cymru heddiw a storïau ar gân addas ar gyfer gweithgarwch llafar i ysgolion; cyfrolau o farddoniaeth wreiddiol; casgliad o 50 o ddarnau o farddoniaeth grefyddol Gymraeg a throsiadau i'r Gymraeg o gerdd o waith unrhyw fardd Eingl-Gymreig.
Drama hir; dramâu byrion; comedïau byrion; dramâu byrion i ferched; drama fer i rai dan 25 oed; trosiad o ddrama hir a throsiadau o ddrama fer o'r Saesneg neu'r Ffrangeg.
Sgriptiau rhaglen radio (Cymro neu unrhyw fro yng Nghymru drwy lygaid ei beirdd); straeon byrion (agred); erthyglau taith : 'unrhyw dair ardal yn Ffrainc'; cylchgrawn ysgafn i ferched neu fechgyn a nofelau i ferched 10-13 oed.
Casgliad o storïau celwydd golau; llyfryddiaeth; llawlyfr hyfforddi ar gyfer unrhyw gêm; llyfryn cyfarwyddyd; casgliad o ymadroddion a dwy bennod o nofel i blant.
Traethodau gan ddysgwyr am eu hobi; comedi neu ffars; dramâu hir; dramâu byr; sgriptiau comedi teledu; cyfwyniadau dramatig addas i'w perfformio gan blant ysgolion uwchradd; trosiad o libretto; sgriptiau ffilm; drama fer i ferched a drama neu raglen.
Awdlau : 'Y frwydr'; pryddestau : 'Wynebau'; cywyddau moliant i Faldwyn; englynion : 'Y ffynnon'; englynion ysgafn : 'Deryn'; sonedau : 'Mae gen i freuddwyd'; telynegion : 'Y bwrdd'; hir a thoddeidiau : 'Dolwar Fach'; cerddi yn y wers rydd : 'Muriau'; cyfres o wyth o limrigau gwreiddiol ar bynciau cyfoes; deg o epigramau ar ffurf cwpled; carolau plygain a darn i gôr adrodd.
Drama hir; dramâu byrion; gwaith dramatig addas i'w gyflwyno gan blant 8-10 oed; cyflwyniad dramatig i ddysgywr; sgriptiau sylfaenol i ffilm chwarter awr ar gyfer plant; drama fer wedi'i throsi o'r Ffrangeg neu'r Sbaeneg; gwaith arbrofol i'w gyflwyno yn Theatr Fach y Maes; dyddiaduron byr o waith cymeriad amlwg yn hanes Cymru a deuddeg erthygl amrywiol ar gyfer dysgwyr.