Dangos 38 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau at John Meirion Morris oddi wrth Peter Abbs = Letters to John Meirion Morris from Peter Abbs

Llythyrau at John Meirion Morris oddi wrth y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Mae'r deunydd yn cynnwys barddoniaeth gan Peter Abbs (rhai mewn llawysgrif, eraill wedi'u llungopïo o ffynhonellau printiedig) a detholiad teipysgrif o What is a Welshman? gan y bardd R. S. Thomas (Christopher Davies, 1974). Un llythyr annyddiedig wedi'i arnodi yn llaw John Meirion Morris.
= Letters to John Meirion Morris from the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years. The material includes poetry by Peter Abbs (some manuscript, others photocopied from printed sources) and a typescript extract from What is a Welshman? by the poet R. S. Thomas (Christopher Davies, 1974). One undated letter annotated in John Meirion Morris' hand.

Llythyrau oddi wrth John Meirion Morris = Letters from John Meirion Morris

Llythyr, 17 Mai 2008, oddi wrth John Meirion Morris at Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Genedlaethol Cymru; a llythyr, 2 Medi 2008, oddi wrth John Meirion Morris at Ekow Eshun, cyfarwyddwr Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain. = Letter, 17 May 2008, from John Meirion Morris to Oliver Fairclough, Keeper of Art at the National Museum of Wales; and letter, 2 September 2008, from John Meirion Morris to Ekow Eshun, director of the Institute of Contemporary Arts, London.

Nodiadau bywgraffyddol a holiaduron = Biographical notes and questionnaires

Nodiadau bywgraffyddol yn ymwneud â John Meirion Morris, wedi'u harnodi ar y brig 'ROUGH NOTES TAKEN BY L.LL.' (teipysgrif) (annyddiedig); holiadur a luniwyd gan Mari Gwent, Prifysgol Swydd Stafford, sy'n cynnwys ymatebion John Meirion Morris a'i lofnod ar waelod y ddalen (teipysgrif) (annyddiedig); ac allbrint o restr o gyn-fyfyrwyr Coleg Celf Lerpwl, sy'n cynnwys enw John Meirion Morris (argraffwyd yr allbrint 22 Ionawr 2012).
= Biographical notes relating to John Meirion Morris, annotated at the top: 'ROUGH NOTES TAKEN BY L.LL.' (typescript) (undated); questionnaire devised by Mari Gwent of Staffordshire University, which includes John Meirion Morris' responses and his signature at the bottom of the page (typescript) (undated); and printout of a list of Liverpool Art College alumnae, which includes John Meirion Morris' name (printout printed 22 January 2012).

Penddelwau = Busts

Deunydd yn ymwneud â phenddelwau o enwogion Cymreig a gomisiynwyd oddi wrth ac a grewyd gan John Meirion Morris, y gwrthrychau'n cynnwys y chwaraewr rygbi Ray Gravell, y naturiaethwr, botanegydd, ieithydd, daearyddwr a'r hynafiaethydd Edward Lhuyd, yr addysgwr Ifor Owen, y mynach a'r offeiriad Sant John Roberts, y bardd, hynafiaethydd a'r casglwr Iolo Morganwg (Edward Williams), a'r beirdd Dafydd ap Gwilym, R. S. Thomas, Gwenallt (D. Gwenallt Jones) a Waldo Williams. Mae'r deunydd yn cynnwys gohebiaeth, drafft-ddarluniau, amcangyfrifon, ffotograffau a llungopïau o ddeunydd printiedig. Ymhlith y gohebwyr y mae'r gwleidydd a'r bargyfreithiwr Elfyn Llwyd, y caligraffydd, cerflunydd ac athro Ieuan Rees a'r ysgolhaig a'r gwleidydd cenedlaetholgar Edward (Tedi) Millward.
= Material relating to busts of famous Welsh people commissioned from and created by John Meirion Morris, the subjects including the rugby player Ray Gravell (1951-2007), the naturalist, botanist, linguist, geographer and antiquarian Edward Lhuyd (1660-1709), the educator Ifor Owen, the monk and priest Saint John Roberts, the poet, antiquarian and collector Iolo Morganwg (Edward Williams), and the poets Dafydd ap Gwilym, R. S. Thomas, Gwenallt (D. Gwenallt Jones) and Waldo Williams. The material includes correspondence, draft drawings, estimates, photographs and photocopies of printed matter. The correspondents include the politician and barrister Elfyn Llwyd, the calligrapher, sculptor and teacher Ieuan Rees, and the nationalist academic and politician Edward (Tedi) Millward.

The Celtic Vision

Adolygiad, 10 Chwefror 2003, o gyfrol arloesol John Meirion Morris The Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); a thaleb breindal Y Lolfa ar gyfer gwerthiant The Celtic Vision yn ystod y cyfnod 1 Hydref 2002 hyd 31 Mawrth 2003. = Review, 10 February 2003, of John Meirion Morris' groundbreaking volume The Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); and royalties receipt from Y Lolfa printing press for sales of The Celtic Vision during the period 1 October 2002 to 31 March 2003.

Y cyfryngau = The media

Deunydd yn ymwneud â chyfraniad John Meirion Morris i'r wahanol gyfryngau, gan gynnwys: sgript cyfweliad teledu, 27 Ebrill 1962; nodyn talu, 20 Gorffennaf 1992, oddi wrth S4C ar gyfer treuliau; taleb, 11 Medi 1992, ar gyfer erthygl gan John Meirion Morris a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg; sgript cyfweliad gyda Shirley Klippel, Mawrth 2009; sgript ffilm annyddiedig 'ar gyfer hybu gwerthfawrogiad a beirniadaeth ar gelfyddyd', sy'n cynnwys sylwadau John Meirion Morris am ei waith.
= Material relating to John Meirion Morris' contribution to various forms of media, comprising: television interview script, 27 April 1962; expenses payment notification from S4C, 20 July 1992; receipt, 11 September 1992, for an article by John Meirion Morris published in the periodical Golwg; script of interview with Shirley Klippel, March 2009; undated film script 'to promote the appreciation and critique of art', which includes observations on his own work by John Meirion Morris.

Gweled

Deunydd yn ymwneud â Gweled, cymdeithas Gymraeg y celfyddydau gweledol. Bu John Meirion Morris yn gadeirydd cyntaf y gymdeithas ar ei sefydliad ym 1984. Mae'r deunydd yn cynnwys llythyr, 3 Hydref 1984, yn trefnu cyfarfod er mwyn sefydlu grŵp a adwaenwyd yn ddiweddarach fel 'Gweled'; [?cylch]llythyr drafft, 4 Gorffennaf 1987, yn llaw John Meirion Morris yn annog aelodaeth o Gweled; llythyr annyddiedig at John Meirion Morris oddi wrth Marian Delyth, ysgrifennydd Gweled; llythyrau, 7 Mai 1998 a 5 Medi 1998, oddi wrth John Meirion Morris at Jaci Taylor, swyddog datblygu Gweled; llythyr drafft annyddiedig oddi wrth Aneurin Jones, cadeirydd Gweled ar y pryd, at Brifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (arnodwyd ar y diwedd yn llaw John Meirion Morris); llyfryn yn cynnwys manylion am gynhadledd Yr Academi Gymreig a Gweled, Medi 1990; taflenni gwybodaeth am Gweled sy'n cynnwys ffurflenni ymaelodi; cerdyn aelodaeth Gweled, 1989; ac erthygl o gylchgrawn Golwg, Chwefror 1994, yn dathlu dengmlwyddiant Gweled.
= Material relating to Gweled, the Welsh visual arts society, John Meirion Morris being the society's first chairman at its inception in 1984. The material includes a letter, 3 October 1984, organising a meeting to establish a group which would later be known as 'Gweled'; draft [?circular] letter, 4 July 1987, in John Meirion Morris' hand urging membership of Gweled; undated letter to John Meirion Morris from Marian Delyth, secretary of Gweled; letters, 7 May 1998 and 5 September 1998, from John Meirion Morris to Jaci Taylor, development officer of Gweled; undated draft letter from Aneurin Jones, then chairman of Gweled, to the Principal of University College of Wales Aberystwyth (annotated at the end in John Meirion Morris' hand); booklet containing details of a Welsh Academy and Gweled conference, September 1990; information leaflets about Gweled, which include a membership form; Gweled membership card, 1989; and an article from the periodical Golwg, February 1994, relating to Gweled's tenth anniversary.

Prosiect Grŵp Glynllifon

Llawlyfr a gyhoeddwyd gan gwmni ymchwil marchnata Datris mewn ymgais i ymchwilio dichonoldeb prosiect i sefydlu cwmni gwerthu cerflunwaith o natur Geltaidd. Yr oedd John Meirion Morris yn un o dri artist, ynghyd ag Ann Catrin Evans a Luned Parry, a sefydlodd 'Grŵp Glynllifon' yn y gobaith o gyd-weithio ar yr hyn a elwid yn 'Brosiect Glynllifon'. = A handbook published by the market research company Datris in a bid to research the feasibility of a project to establish a company selling Celtic-themed sculpture. John Meirion Morris was one of three artists, along with Ann Catrin Evans and Luned Parry, who founded the 'Glynllifon Group' in the hope of working together on what was termed the 'Glynllifon Project'.

Gohebiaeth = Correspondence

Llythyrau, 1960-2020, at John Meirion Morris oddi wrth sefydliadau, cyfeillion, cydnabod ac edmygwyr, gan gynnwys y bardd a'r academydd Peter Abbs (1942-2020), a fu'n gyfaill agos i John Meirion Morris dros gyfnod o hanner can mlynedd. Ynghyd â dau lythyr oddi wrth John Meirion Morris. = Letters, 1960-2020, to John Meirion Morris from institutions, friends, acquaintances and admirers, including the poet and academic Peter Abbs (1942-2020), whose friendship with John Meirion Morris spanned fifty years. Together with two letters from John Meirion Morris.

Curricula vitae, tystysgrifau a thystlythyrau = Curricula vitae, certificates and testimonials

Tystysgrifau hyfforddiant dysgu, curricula vitae a thystlythyron - yr olaf oddi wrth Goleg Celf Lerpwl, Prifysgol Lerpwl ac Ysgol Uwchradd Llanidloes - yn deillio yn bennaf o'r cyfnodau hynny pan oedd John Meirion Morris yn ceisio am swyddi darlithio; ynghyd ag un curriculum vitae o gyfnod llawer mwy diweddar. Arnodir y curricula vitae yn llaw John Meirion Morris. = Teacher training certificates, curricula vitae and testimonials - the latter from Liverpool Art College, Liverpool University and Llanidloes Secondary School - dating mainly from the period when John Meirion Morris was applying for lecturing positions; together with a curriculum vitae of a much more recent date. The curricula vitae are annotated in John Meirion Morris' hand.

Cynhyrchiadau llwyfan = Stage productions

Deunydd yn ymwneud â dyletswyddau achlysurol John Meirion Morris fel cynhyrchydd llwyfan tra 'roedd yn athro Celf yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, 1961-1964, a thra 'roedd yn ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1968-1978.
= Material relating to John Meirion Morris' occasional work as stage producer during his time as Art teacher at Llanidloes Secondary School, 1961-1964, and while he was a lecturer in the Education Department of University College of Wales Aberystwyth, 1968-1978.

Deunydd amrywiol = Miscellaneous material

Ysgrif yn llaw'r arlunydd Cymreig Aneurin Jones (arnodwyd ar frig yr ysgrif yn llaw John Meirion Morris: 'Ysgrif Aneurin Jones'); ac allbrint o gyfweliad gyda'r archaeolegydd a'r anthropolegydd Lithwanaidd Marija Gimbutas. = Article in the hand of the Welsh artist Aneurin Jones (annotated at the top of the article in John Meirion Morris' hand [translated]: 'Aneurin Jones' article'); and printout of an interview with the Lithuanian archaeologist and anthropologist Marija Gimbutas.

Deunydd amrywiol = Miscellaneous material

Ysgrif yn llaw'r arlunydd Cymreig Aneurin Jones (arnodwyd ar frig yr ysgrif yn llaw John Meirion Morris: 'Ysgrif Aneurin Jones'); ac allbrint o gyfweliad gyda'r archaeolegydd a'r anthropolegydd Lithwanaidd Marija Gimbutas, awdur y gyfrol The Language of the Goddess: Unearthing the Hidden Symbols of Western Civilization (HarperCollins, 1989), gyda thanlinelliadau o bosib yn llaw John Meirion Morris.
= Article in the hand of the Welsh artist Aneurin Jones (annotated at top of article in John Meirion Morris' hand [translated]: 'Aneurin Jones' article'); and printout of an interview with the Lithuanian archaeologist and anthropologist Marija Gimbutas, author of The Language of the Goddess: Unearthing the Hidden Symbols of Western Civilization (HarperCollins, 1989), with underlinings possibly in John Meirion Morris' hand.

Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers

  • GB 0210 JMEIRMOR
  • Fonds
  • 1960[x2020]

Papurau'r cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris (1936-2020), sy'n ymwneud â gwahanol agweddau o'i fywyd proffesiynol, o gychwyn ei yrfa fel athro newydd-gymwysedig hyd flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r eitemau yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'i gomisiynau cerflunwaith; ei gyhoeddiadau, megis A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); erthyglau a ysgrifenwyd a darlithoedd a draddodwyd ganddo; ei waith gyda'r cyfryngau, yr Eisteddfod Genedlaethol, cymdeithas Gweled ac â phrosiect Grŵp Glynllifon; a'r ohebiaeth a anfonwyd ato gan sefydliadau Cymreig a chan gyfeillion, cydnabod ac edmygwyr. Ceir nodiadau ar gynnwys rhai o'r eitemau yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. = Papers of the sculptor, draughtsman and teacher John Meirion Morris (1936-2020), which relate to various aspects of his professional life from his early career as a newly-qualified teacher to his final years. The items include material relating to John Meirion Morris' sculpture commissions; his publications, such as A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); articles written and lectures given by him; his collaboration with the media, the National Eisteddfod, Gweled and the Glynllifon Group project; and correspondence sent to John Meirion Morris from Welsh institutions and from friends, acquaintances and admirers. There are notes on the contents of some of the items in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Morris, John Meirion, 1936-2020

Canlyniadau 21 i 38 o 38