Print preview Close

Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr, 20 Rhag. 1957, yr Athro Reginald Treharne, Adran Hanes, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, at Alwyn D. Rees, parthed ei ....

Llythyr, 20 Rhag. 1957, yr Athro Reginald Treharne, Adran Hanes, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, at Alwyn D. Rees, parthed ei swydd a'i gyflog yn ddarlithydd gyda'r Adran Efrydiau Allanol, copi teipysgrif o lythyr Alwyn D. Rees, 19 Mawrth 1958, at Brifathro'r Coleg, drafft o'i lythyr dyddiedig 9 Tach. 1961 at y Prifathro ar yr un pwnc, ac ateb Dr Thomas Parry, yr Is-Ganghellor, 11 Tach. 1961.

Rhaglen Cynhadledd Ynadon, 25-27 Mawrth 1966, dan nawdd yr Adran; rhaglen o ddarlithoedd ar gyfer Wythnos y Brifysgol, Bae Colwyn ....

Rhaglen Cynhadledd Ynadon, 25-27 Mawrth 1966, dan nawdd yr Adran; rhaglen o ddarlithoedd ar gyfer Wythnos y Brifysgol, Bae Colwyn, dan nawdd Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, 16-20 Mai, (dau gopi); Cwrs i Diwtoriaid ar 'Television Techniques', 1-3 Gorff. 1966; rhaglen ar gyfer cwrs 'Constitution making and National Identity' yn Glasgow dan nawdd Adran Efrydiau Allanol y Brifysgol yno (Alwyn D. Rees yn darlithio ar 'Wales in British Politics', 11 Tach.).

Llythyr Alwyn D. Rees, 20 Meh. 1966, at Syr Ben Bowen Thomas, a chopïau o erthygl deipysgrif ar helynt swydd ....

Llythyr Alwyn D. Rees, 20 Meh. 1966, at Syr Ben Bowen Thomas, a chopïau o erthygl deipysgrif ar helynt swydd Uwch Diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Aberystwyth, ynghyd â dwy dudalen o ddrafft llawysgrif llythyr Alwyn D. Rees at Reginald [?Treharne], Seland Newydd, ynglyn ag ymgeiswyr ar gyfer y swydd, a drafft llawysgrif o cirriculum vitae Brynmor Thomas.

Results 121 to 140 of 45762