Dangos 982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd
Rhagolwg argraffu Gweld:

Tom Williams, Aberystwyth,

Gellir trefnu bod rhywun arall yn darllen Rheol Buchedd Sanctaidd [ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru]. Gwell ganddo pe bai W. J. Gruffydd neu Mr Jenkin James yn ymgymryd â'r sgwrs radio, byddai ef yn fodlon danfon unrhyw wybodaeth angenrheidiol. Mae'n amgau ei ysgrif ar oedran geiriau ['Oedran Geiriau Cymraeg', Y Llenor cyf. XV (1936), tt. 44-7]. Y mae hefyd yn amgau copïau o slipiau'r Geiriadur am y gair 'egwyd'.

T. Lloyd Williams, Llundain, S.E.25,

Ymddiheuro am ei boeni ac am y ffaith na fedr ysgrifennu yn Gymraeg. Ei dad oedd y darlithydd Hebraeg cyntaf yng Ngholeg Caerdydd. Bu'n ceisio dadlau fod yna reswm tra phwysig dros ddiogelu'r iaith Gymraeg. Ni chydnabyddir Cymru fel undod gwleidyddol. Yn wahanol iawn i'r Alban a'r ddwy Iwerddon, nid oes gan Gymru ei systemau cyfreithiol a chyllidol ar wahân. Nid yw cenedligrwydd yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ddibynnol ar yr iaith. Yr iaith yw'r unig arf sydd gan y Cymry i gadw eu hunain rhag troi'n Saeson. Mae'n rhaid bod y ddadl hon yn iawn gan fod y Western Mail yn gwrthod ei hargraffu er gwaetha'r ffaith eu bod yn cyhoeddi sothach 'Listener-in' a Huw Menai dros y Saesneg. Ni fydd ef yn dathlu dydd y Coroniad.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Anfon dwy soned i'r Llenor. Hoffai weld eu cynnwys yn y rhifyn nesaf. Cas ganddo adael i bethau fel hyn sefyll - maent yn suro mor fuan. Buasai wedi eu hanfon ynghynt ond ei bod yn adeg gwyliau. ['Dwy Soned', Y Llenor, cyf. XVIII (1939), t. 5].

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae'n cytuno eu bod yn bur ddrwg am destunau cywyddau. Maent yn teipio copïau o gywyddau yna, rhai o lyfrau a rhai o lawysgrifau a'u rhannu i'r myfyrwyr yn y dosbarth. Fe gymer y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud gryn dipyn o amser os yw i fod o unrhyw werth parhaol. Mae nifer o ymchwilwyr ar ganol llunio testun o waith nifer o'r cywyddwyr. Annoeth fyddai gwneud dim cyn i'r rheiny orffen. Mae Bangor yn defnyddio Gwyneddon 3 yn helaeth iawn at y diben hwn. Y mae casgliad Y Ford Gron a rhai T. G[wynn] J[ones] yn ei Llên Cymru ar gael wrth gwrs.

T.H. Parry-williams, Aberystwyth,

Awgrymodd W. J. Gruffydd yr hoffai gael cyfraniad arall i'r Llenor. Mae'n amgau ysgrif fer. Os yw'n ddigon buan ar gyfer rhifyn Ebrill yna caiff ei chyhoeddi, os nad yw yna hoffai ei chael yn ôl gan ei fod wedi addo cyfraniad i'r Drysorfa. Mae'n addo ysgrifennu rhywbeth arall i'r Llenor. Hoffai dderbyn proflen.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae arno gywilydd braidd ar ôl darllen y rhigymau, ond y mae yn eu hanfon er hynny. Mae arno ofn eu gweld mewn print ond os yw W. J. Gruffydd yn fodlon mentro y mae croeso iddo wrthynt, os yw'n credu bod 'rhyw lygedyn o rywbeth ym mhlaendra diaddurn y rhan fwyaf ohonynt.'.

T. H. Parry-williams, Aberystwyth,

Mae ganddo ddeg neu ddeuddeg o rigymau taith tebyg i'r rhai a gyhoeddwyd yn Y Llenor rai blynyddoedd ynghynt. Y mae yn eu cynnig ar gyfer Y Llenor. ['Rhigymau Taith' (Awst-Medi, 1935)', Y Llenor, cyf. XIV (1935), tt. 193-7].

T. H. Williams, Llundain, N.l,

Cydymdeimlo â W. J. Gruffydd ar golli ei dad ac am beidio â chael ei benodi yn brifathro [Caerdydd]. Collodd yntau ei dad. Nid oes gwell amgylchedd na chartref Cymraeg er iddo fod yn ddigon cyfyng a helbulus. Er mai 'gwyr y llwybrau blin' yw gweithwyr Arfon, eto disgyblir y goreuon i fywyd dwfn a thyfant yn gymeriadau gwastad. Ni fyddai unrhyw ystyr i fywyd ym meddwl T. H. Williams onibai iddo gredu fod yna rywbeth parhaol mewn dynion fel eu tadau hwy. Yn wyneb colli'r cyfle i fod yn brifathro Caerdydd ni ellir ond ategu sylw Puleston, 'W. J. Gruffydd, wedi chwyrn[u] gormod ar gorgwn'. Hen ystryw yw clwyfo'r cymwynaswyr - O. M. Edwards, J. M. J. a H[enry] Jones. Fe wyr ei hunan am y pris sydd raid ei dalu am geisio cadw ei enaid. Holi os bu iddo weld araith P[eter] H[ughes] G[riffiths] yn Y Cymro. Dywedodd T. H. Williams air yn y Cyfarfod Misol am felltith enwadaeth gan sôn am J.M.J. wedi sefyll dros ei argyhoeddiadau yn ystod y rhyfel, tra eraill yn plygu fel brwyn.

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Diolch i W. J. Gruffydd am roi mynegiant mor groyw a dewr i'r unig farn sydd yn werth ei mynegi yn y Gymru gyfoes. Gwelodd y W[estern] M[ail] y golau coch. Crybwyll cyfarfod o Gyngor Coleg Abertawe. Un oedd y mwyafrif dros ddiswyddo S[aunders] L[ewis], a hwnnw wedi ei ddychryn gan y bygythiad yr atelid cyfraniadau'r cyfalafwyr i'r coleg oni ddiswyddid Saunders Lewis. Fe rwystrwyd o leiaf ddau o gefnogwyr Saunders Lewis rhag bod yn y cyfarfod. Mae'n ddigon hawdd i gyfarfod arall ddileu'r penderfyniad a wnaed. Petai arholydd allanol y Brifysgol mewn Cymraeg yn gwrthod arholi fel protest hwyrach y byddai'n amhosibl i'r Brifysgol gael neb yn ei le. Byddai'n rhaid i Abertawe wedyn ailystyried y diswyddo. Byddai'r holl faich yn disgyn ar J. Ll[oyd] J[ones] a hwyrach y ceid y darlithydd o Lerpwl i gymryd ei le. Gallai arholwyr mewnol y Brifysgol wrthod gweithredu ond anodd fyddai cael pawb i gydsynio. Hoffai gael barn W. J. Gruffydd a G[riffith] J[ohn] W[illiams] ar y mater. Dylid anfon yr ateb i'w gartref.

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Amgau adolygiad ar Robinson Crusoe i'r Llenor ar gais yr Athro [Henry] Lewis. Hwyrach ei fod yn rhy hir, ond haws talfyrru nag ychwanegu. Buont yn rhegi colled y Brifysgol a llawenhau ennill ysgolheictod a llenyddiaeth Gymraeg [yn sgîl peidio penodi W. J. Gruffydd yn brifathro yng Nghaerdydd].

Robert Williams Talycafn,

Mae'n ysgrifennu iddo fwynhau darllen llyfr W. J. Gruffydd ar gywyddau Goronwy Owen [Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907)]. Gormod fyddai disgwyl i bawb gytuno ag ef ar bob pen. Dadleuodd W. J. Gruffydd mewn ffordd deg a boneddigaidd. Mae Cymru yn gallu magu rhai sy'n medru esbonio cyfrinion ei llenyddiaeth. Mae'n llawlyfr a all gystadlu â goreuon llawlyfrau y clasuron Lladin a Groeg a gyhoeddir gan weisg y prifysgolion Seisnig.

M. E. Williams, Llundain, W.2,

Mae'n teimlo mor ddigalon fel ei bod am ysgrifennu at un o gyfeillion ei diweddar wr, Llew. Diolch i W. J. Gruffydd am ei eiriau caredig yn ei lythyr ati. Roedd gan ei gwr feddwl uchel iawn o W. J. Gruffydd. Yr oedd yn trysori'r Llenor. Yr oedd caredigrwydd Llew tuag ati bob amser yn ei gwneud hi'n llawer anoddach iddi fod hebddo. Mae'n casâu meddwl am fynd ymlaen hebddo. Mae'n anfon copi o Herald Môn. Soniodd am W. J. Gruffydd yn yr ysbyty fel ffrind mawr. Bu farw Llew yn ogoneddus, yn llawn ffydd, gobaith a llawenydd.

Lewis Williams, Treharris,

Mae'n anfon stori fer i'r Llenor ['Ennill y Minimym', cyf. XV (1936), tt. 156-60]. Yr oedd y stori yn un o dair, a daeth yr awdur yn chweched allan o un ar hugain yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Stori pwll glo ydyw. Mae'r ffeithiau ynddi am amgylchiadau'r glöwr yn hollol wir.

'Canwy' [Parch. John Henry Williams], Bangor,

Diolch am Y Llenor ac am nodiadau'r golygydd yn fwy na dim a'r erthygl 'Yr Anianol a'r Ysbrydol' yn arbennig. [Y Llenor, cyf. VIII (1929), tt. 90-9]. Yr oedd yn credu pob gair a ddywedodd er ei fod yn weinidog Methodist. Ei annog i ddal ati i ddweud y gwir. Agorodd gyfarfod misol yn ddiweddar ond nid oedd ei gydweinidogion yn cytuno ag ef o gwbl. Nid oedd wedi darllen araith Peter Hughes Griffiths. Pobl a'u dyddiau gorau wedi mynd heibio sydd yn y gadair fel arfer. Mae rheolwyr crefydd y Methodistiaid Calfinaidd wedi gweld eu dyddiau gorau. Nid oes ganddynt weledigaeth heddiw. Os na ddaw ymwared buan i grefydd y capeli, bydd yn rhwystr i wir wleidyddiaeth a chrefydd. Mae'n drist ganddo weld bechgyn a ddechreuodd fel proffwydi yn troi'n geidwadwyr ac yn ddiwinyddion cul enwadol. Creadur unig yw ef ers blynyddoedd, yn dewis bod felly. Fe'i siomwyd na phenodwyd W. J. Gruffydd yn brifathro.

John Williams, Llandwrog,

Darllenodd Y Llenor diweddaraf yn ei wely mewn teirawr tra'n ceisio gwella o ryw aflwydd dibwys. Mae'n rhifyn cyfoethog drwyddo. Mae'n derbyn dau gopi - un i'w gadw a'r llall i'w fenthyca i ambell gyfaill. Nid oes cwmwd mwy diddiwylliant yn y sir na'r rhan isaf o blwyf Llandwrog. Ef yw'r unig un sy'n derbyn Y Llenor yn y fro. Tebyg yw cyflwr meddwl pob ardal sy'n byw tan gysgod plas uchelwr fel y mae Llandwrog tan gysgod Glynllifon. Nid yw R. G. Berry yn taro deuddeg y tro hwn ['Y Pirym Parym', Y Llenor, cyf. XX (1941), tt. 117-21]. Gresyn na fedrodd ddal ei 'Nodiadau' yn ôl cyn cael y ddedfryd gan Gyngor yr Amgueddfa yngl?n â swydd Dr Peate. Gofyn iddo 'groeshoelio'r' criw yn y rhifyn nesaf. 'Llawen pe bawn alluog. Y rhown y criw ar bren crog'. Gofyn iddo ymatal rhag cyhoeddi ysgrif o'i eiddo.

John Williams, Llandwrog,

Mae'n debyg y caiff ddigon o sylwadau wedi ei erthygl yn Y Llenor diweddaraf ar 'Y Gwylliaid'. Yr oedd ei sylwadau yn hollol deg a chywir. Gellir anwybyddu'r beirniaid. Bydd enw W. J. Gruffydd yn anfarwol pe na bai'n cyflawni dim ond golygu'r Llenor. Mae wedi bod yn cofnodi ei hanes. Mae ganddo bymtheg tudalen wedi eu teipio ar hanes y chwarel. Mae'n cynnig y gwaith i'r Llenor. Os na ddefnyddir ef hoffai ei gael yn ôl a'r hawl i'w ddefnyddio eto yn ei hunangofiant. Hwyrach y cânt weld ei gilydd yng Nghaernarfon dros y Pasg. Awgrymodd D. R. H[ughes] iddo anfon ychydig o hanes y Ddolen iddo. Ef yw'r cymhwysaf ar gyfer y gwaith hwnnw.

John Williams, Llundain, N.W.10,

Cynnig cadwyn o englynion ymson i'r Llenor. Bu Mr G. Rees ac yntau yn englynna â'i gilydd. Rhaid fyddai cael ei ganiatâd yntau cyn cyhoeddi. Gwaith dau hen wr dros 65 yn cael ychydig ddifyrrwch gyda'r gynghanedd ydynt. Saesnes a deipiodd y cwbl ond ei bod yn gyfarwydd â ffurf englynion.

John Williams, Llundain, N.W.10,

Mae rhan olaf llythyr Syr William Jenkins yn y Western Mail y diwrnod cynt yn gamdystiolaeth ac yn gwbl annheilwng. Hydera na fydd i W. J. Gruffydd geisio ei ateb. Mae'r holl Gymry meddylgar yn coleddu'r syniadau uchaf am ddoniau W. J. Gruffydd a'i ran yn cyfoethogi llên Cymru. Na fydded iddo daflu gemau o flaen y moch.

John Williams, Llandudno,

Mae'n cytuno â llythyr W. J. Gruffydd yn Y Genedl. Nid yw'n bwriadu gwneud dim yngl?n â'r Coroniad a bydd mwyafrif ei eglwys yn ei gefnogi y tro hwn hefyd. Hydera y bydd llu o'i gydweinidogion yn cytuno â'i awgrym. Cerdyn post.

Canlyniadau 81 i 100 o 982