Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Dyddiadur mordaith William Parry,

  • NLW MS 21706E.
  • File
  • [1847] /

Hanes ar ffurf dyddiadur o fordaith William Parry, gweinidog anghydffurfiol, i Efrog Newydd, 19 Ionawr-11 Mawrth 1847, ar fwrdd y llong Ohio. Nodir awdur yr hanes fel Owen B. Parry, Amlwch, nai William Parry (t. 7). = An account, in diary form, of the voyage of William Parry, a dissenting minister, to New York, 19 January-11 March 1847, on board the ship Ohio. Stated to be written by his nephew Owen B. Parry, Amlwch (p. 7).

Parry, Owen B., Amlwch, fl. 1847

Barddoniaeth amrywiol,

  • NLW MS 21702E.
  • File
  • 1663-1994

Barddoniaeth o'r ail ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys gweithiau gan Alan Llwyd (f. 2), W. J. Gruffydd (f. 14), Richard Davies (Mynyddog) (f. 76), Ray Howard-Jones (ff. 98-104), R. Williams Parry (ff. 106-110), Saunders Lewis (ff. 132-136), Vernon Watkins (f. 146), Harri Webb (ff. 153-154), Katherine Philips (The Matchless Orinda) (f. 158), ac Euros Bowen (ff. 161-169), ynghyd â nifer o feirdd llai enwog a rhai darnau anhysbys. Cynigiwyd rai o'r cerddi mewn cystadlaethau eisteddfodol (ff. 36-51, 53-61, 63, 113-124). Mae nifer o'r cerddi yn llaw y beirdd eu hunain, eraill yn gopïau neu mewn teipysgrif. Ceir hefyd garol plygain, a nodwyd i lawr [?19 gan., ¼ olaf] (ff. 155-157 verso), a llythyr, 1994, oddi wrth Jon Meirion Jones at Dafydd Ifans yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymwneud â Dafydd Jones (Isfoel) y Cilie (ff. 149-150). = Poetry, seventeenth to twentieth centuries, including works by Alan Llwyd (f. 2), W. J. Gruffydd (f. 14), Richard Davies (Mynyddog) (f. 76), Ray Howard-Jones (ff. 98-104), R. Williams Parry (ff. 106-110), Saunders Lewis (ff. 132-136), Vernon Watkins (f. 146), Harri Webb (ff. 153-154), Katherine Philips (The Matchless Orinda) (f. 158), and Euros Bowen (ff. 161-169), together with many lesser-known poets and some anonymous pieces. Some of the poems were submitted for competition at eisteddfodau (ff. 36-51, 53-61, 63, 113-124). Many of the poems are autograph while others are copies or in typescript. Also included is a plygain carol, noted down [?19 cent., last ¼] (ff. 155-157 verso), and a letter, 1994, from Jon Meirion Jones to Dafydd Ifans at the National Library of Wales regarding Dafydd Jones (Isfoel), Cilie (ff. 149-150).

Llwyd, Alan.

Cyfrifon crydd.

  • NLW MS 16249D.
  • File
  • 1887-1906

Llyfr cyfrifon, 1887-1906, [David Hughes], crydd, o Lanuwchllyn, sir Feirionnydd, yn cynnwys manylion atgyweiriadau a wnaethpwyd, costau'n daladwy, ayyb. = A ledger, 1887-1906, of [David Hughes], bootmaker, of Llanuwchllyn, Merioneth, containing details of repairs carried out, costs payable, etc.

Hughes, David, 1838-1923.

Pregethau y Parch. William Morris, Tyddewi

  • NLW MS 16211C.
  • File
  • 1842

Nodiadau, 1842, gan awdur anhysbys, ar ddwy bregeth gan y Parch. William Morris, Tyddewi, yn Jewin Crescent, Llundain, 21 Awst 1842 (ff. 2-4 verso), a phregeth gan y Parch. Baptist Noel yn St John's, Bedford Row, Llundain, 30 Tachwedd 1842 (f. 4 verso). = Notes, 1842, in an unknown hand, of two sermons by the Rev. William Morris, St Davids, at Jewin Crescent, London, 21 August 1842 (ff. 2-4 verso), and one by the Rev. Baptist Noel at St John's, Bedford Row, London, 30 November 1842 (f. 4 verso).
Ceir hefyd nodiadau ar bregeth (cychwyn yn eisiau), o bosib gan William Morris (ff. 1-2). = Also included are notes of a sermon (start lacking), possibly by William Morris (ff. 1-2).

Cywyddau

  • NLW MS 16130D.
  • File
  • 1958

Copi ffotostat, 1958, o lawysgrif yng nghasgliad teulu Cotton, Combermere (ZCR 74/190), yn archifdy swydd Caer, yn cynnwys cywyddau a ysgrifennwyd mewn sawl llaw ar ddiwedd yr unfed ganrif-ar-bymtheg. = A photostat facsimile, 1958, of a manuscript held among the Cotton family of Combermere manuscripts (ZCR 74/190) at the Cheshire County Record Office, containing cywyddau written in several hands at the end of the sixteenth century.
Cyfansoddwyd y cywyddau, [1320x?1580], gan Siôn Phylip (f. 1), Simwnt Fychan (f. 21), Wiliam Cynwal (ff. 6, 28), Rhys Cain (ff. 10, 20), Siôn Tudur (ff. 12, 16, 33, 34, 42), Wiliam Llŷn (f. 25), Lewis ab Edward ('Lewis Meirchion', f. 36), Siôn Cent (ff. 32, 40), Iolo Goch (f. 46), Gruffudd Hiraethog (f. 48), a rhai beirdd anhysbys. = The cywyddau were composed, [1320x?1580], by Siôn Phylip (f. 1), Simwnt Fychan (f. 21), Wiliam Cynwal (ff. 6, 28), Rhys Cain (ff. 10, 20), Siôn Tudur (ff. 12, 16, 33, 34, 42), Wiliam Llŷn (f. 25), Lewis ab Edward ('Lewis Meirchion', f. 36), Siôn Cent (ff. 32, 40), Iolo Goch (f. 46), Gruffudd Hiraethog (f. 48), and a few unidentified poets.

Barddoniaeth Gymraeg (Casgliad William Bodwrda),

  • NLW MS 16129D.
  • File
  • 1958

Copi ffotostat o 'Harvard MS Welsh 8,' sef cyfrol yn perthyn i gasgliad llawysgrifau William Bodwrda yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg gan feirdd o'r 14 gan. hyd at 17 gan., a gopïwyd [1640x1660]. = A photostat facsimile of 'Harvard MS Welsh 8' which is a volume from the collection of manuscripts of William Bodwrda containing Welsh poetry from 14 cent to 17 cent, copied [1640x1660]
Ceir awdlau, cywyddau a darnau o hen ganu brud yn y llawysgrif, nifer ohonynt yn canu i deuluoedd sir Gaernarfon; cerddi a briodolir i Daliesin a Llywarch Hen; a nifer o eitemau sy'n unig gopïau, sef gwaith Huw Pennant (tt. 13-17), Ifan Tew Brydydd (tt. 53-5), Howel ab Reinallt (tt. 65-7), Siôn Phylip (tt. 90-4), Syr Huw Roberts Llên (tt. 94-7), a Siôn Tudur (tt. 127-31). Mae'n debyg nad llaw William Bodwrda mo'r un o'r ddwy brif law yn y gyfrol, ond credir fod y llawysgrif yn gynsail i un neu fwy o lawysgrifau ffolio William Bodwrda, megis BL Add. 14966 a Mostyn 145 (NLW MS 3048D). = The manuscript comprises 'awdlau', 'cywyddau' and old vaticinatory poetry, many relating to Caernarfonshire families; poems attributed to Taliesin and Llywarch Hen; and a number of items which are unique copies, namely the works of Huw Pennant (pp. 13-17), Ifan Tew Brydydd (pp. 53-5), Howel ab Reinallt (pp. 65-7), Siôn Phylip (pp. 90-4), Sir Huw Roberts Llên (pp. 94-7) and Siôn Tudur (pp. 127-31). It seems that neither of the two main hands in the volume belong to William Bodwrda, although it is likely that the manuscript served as the basis for one or more of William Bodwrda's folio manuscripts, particularly BL Add. 14966 and Mostyn 145 (NLW MS 3048D).

Bodwrda, William, 1593-1660

Results 41 to 60 of 45762