Showing 114 results

Archival description
Papurau Ambrose Bebb
Print preview View:

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

Deunydd gwreiddiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad atgyweirio capel Melinbyrhedyn, 1887, adroddiad ar Ddiwygiad [1904-1905] ym Melinbyrhedyn, 1905, a thoriad papur newydd yn cynnwys adroddiad o ymweliad Mrs [Mary] Jones, Egryn, â Melinbyrhedyn, 1905.

Yr Argyfwng

Llawysgrifau a phroflenni yn ymwneud â chyhoeddi Yr Argyfwng a gyhoeddwyd yn Llandybïe ym 1956.

Results 41 to 60 of 114