Showing 51 results

Archival description
Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr),
Print preview View:

Llythyrau o longyfarch,

Llythyrau gan unigolion amrywiol yn llongyfarch Zonia M. Bowen ar sefydlu Merched y Wawr, 1967-1969, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Pierce, oedd yn bresennol yng nghyfarfod sefydlu'r cangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn Llanfair-pwll yn 1915; Cassie Davies; a Hafina Clwyd. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.

Davies, Cassie, 1898-1988

Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â chylchgrawn Y Wawr, 1968-1975, gan gynnwys llythyrau yn trafod grantiau amrywiol ar gyfer gwella clawr Y Wawr. Ymysg y gohebwyr mae Meic Stephens, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Arts Council of Wales.

Crynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad,

Crynodebau o hanes sefydlu Merched y Wawr gan Zonia M. Bowen, 1975-2004, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a C. W. Hulin o'r Mid Wales News and Pictures, 1975, yn trafod hanes sefydlu'r Mudiad a'i hanes personol hi ei hun; copi o'r gwaith Y Dyddiau Cynnar (Bala, 1977), gan Zonia M. Bowen; a chrynodebau amrywiol eraill yn ymwneud â'i chyfnod fel aelod o Ferched y Wawr.

Ymddiswyddiad Zonia M. Bowen,

Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol, 1967-2007, yn cynnwys anerchiadau Zonia M. Bowen, 1967-1974; papurau'n ymwneud ag ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad, 1965-2007; a chrynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad, 1975-2004.

Torion o'r wasg,

Llyfrau lloffion, wedi eu creu gan Zonia M. Bowen, yn cynnwys torion o'r wasg, 1967-2007, yn ymwneud â hanes Merched y Wawr o'r flwyddyn ei sefydlwyd yn 1967 hyd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen o'r Mudiad yn 1975. Hefyd, ceir rhai erthyglau yn sôn am ddathliadau penblwydd cangen y Parc yn 2007.

Teithiau tramor,

Papurau ariannol yn ymwneud â theithiau tramor Merched y Wawr, 1972-1975, gan gynnwys llyfr banc, cyfrifon a rhai llythyrau yn ymwneud â theithiau'r Mudiad i Lydaw, 1972 ac 1973; anfonebau taith Paris, Amsterdam a Brwsel, 1974; ac ambell lythyr yn sôn am y daith i'r Undeb Sofietaidd, 1975. Zonia M. Bowen oedd yn gyfrifol am drefnu'r teithiau yma ar ran y Mudiad.

Cofnodion y Pwyllgor Gwaith,

Crynodebau o gofnodion Pwyllgor Gwaith Merched y Wawr, 1969-1975, gan gynnwys yr hyn a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd, megis ethol swyddogion, awgrymiadau ynglŷn â gweithgareddau posibl y Mudiad, a materion gweinyddol ac ariannol cyffredinol. Yn wreiddiol y swyddogion cenedlaethol oedd Pwyllgor Gwaith y Mudiad, ond fe'i ehangwyd yn ddiweddarach i gynnwys cynrychiolwyr o'r pwyllgorau sirol.

Cofnodion y Cyngor Cenedlaethol,

Crynodebau o gofnodion Cyngor Cenedlaethol Merched y Wawr, 1967-1975, gan gynnwys manylion am yr hyn a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd, megis ethol swyddogion newydd, awgrymiadau ynglŷn â gweithgareddau posibl y Mudiad, a materion gweinyddol ac ariannol cyffredinol.

Results 1 to 20 of 51