Print preview Close

Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Gohebiaeth a phapurau personol

Gohebiaeth a phapurau personol, 1868-1967, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol a theuluol, dyddiaduron a phersonalia; ynghyd â chyfansoddiadau llenyddol a beirniadaethau gan G. J. Williams ei hun; a phapurau'n ymwneud â Phlaid Cymru.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1914-1962, at G.J. Williams oddi wrth ysgolheigion, llenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion. Mae'r mwyafrif yn ymwneud â'i arbenigedd yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac ysgolheictod Cymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil, a'i aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae nifer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd, darlithydd, athro, a beirniad eisteddfodol, a rhai'n ymwneud â materion gwleidyddol, yn arbennig sefydlu Plaid Cymru a helynt yr Ysgol Fomio. Ceir cyffyrddiadau mwy personol yn rhai o'r llythryau.

Llythyrau A-C

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn M. Ashton (3), Édouard Bachellery (6), W. Ambrose Bebb (40), Syr Idris Bell (6), D. J. Bowen (12), Geraint Bowen (9), Gwilym Bowyer, a Rachel Bromwich.

Llythyrau J (Jaffrennou - Jones, J. R.)

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae A. O. H. Jarman (2), R. T. Jenkins (16), Dilwyn John (5), Bedwyr Lewis Jones (2), Bobi Jones (7), D. Gwenallt Jones (24, rhan o un llythyr yn llaw Waldo Williams), E. D. Jones (32), Gwilym R. Jones (3) a Iorwerth Hughes Jones (5).

Llythyrau M-O

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae E. G. Millward (2), Olier Mordrel, T. J. Morgan (2), John Morris-Jones (9), Séamus Ó Duilearga (2), Padrig Ó Fiannachta (2), a Bob Owen, Croesor (13).

Llythyrau R-S

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae T. Ifor Rees (7), Prosser Rhys, Keidrych Rhys, Brinley Richards, Melville Richards (2), Tom Richards (10), Gomer M. Roberts (5), Kate Roberts (6), Eurys Rowlands (6), R. J. Rowlands ('Meuryn', 3), T. Shankland (2), Alf Sommerfelt.

Llythyrau V-Y

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Lewis Valentine (cerdyn Nadolig), Morgan Watkin (4), Harri Webb (2), A. H. Williams (3), D. J. Williams, Abergwaun (16), David Williams (9), Ifor Williams (10), Iolo A. Williams (18, a'i deulu (3), ac un oddi wrth G. J. Williams, 1962, at Elinor Williams), J. E. Caerwyn Williams, J. Lloyd Williams, Morris Williams (2), Stephen J. Williams (4).

Llythyrau oddi wrth G. J. Williams

Copïau o lythyrau gan G. J. Williams, 1924-1962. Mae mwyafrif y derbynwyr heb eu henwi, ond ceir un llythyr at Iorwerth Peate (1924) ac un arall at J. E. Caerwyn Williams (1958). Ceir yma hefyd lyfr nodiadau llaw fer yn cynnwys drafftiau o lythyrau.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth deuluol amrywiol, 1868-1961, gan gynnwys llythyrau, 1868-1892 (9), a gyfeiriwyd at ei dad, mae'n debyg; llythyrau at G. J. Williams oddi wrth ei dad, [1911x1931]; cardiau post at GJW a'i wraig, [?1949]-1961 (3); cardiau post, 1922-1938, at ei rieni a'i frawd oddi wrth GJW a'i wraig (7); ac un cerdyn post at GJW oddi wrth Elizabeth, ei wraig.

Dyddiaduron

Dyddiaduron poced, 1920, 1923, 1925, 1930, 1932, 1934, 1936, 1939, 1939-1940, 1943, 1952, 1956, 1957, 1958, 1959, 1961, yn cynnwys ychydig iawn o gofnodion, ac yn ymwneud yn bennaf â chofnodi dyddiad ac amser darlithoedd a chyfarfodydd pwyllgorau, etc.; ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion manwl am y cyfnod 26 Gorffennaf hyd 2 Awst 1920.

Personalia

Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.

Rhaglenni a thocynnau

Tocynnau darllen a thocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd. Yn eu plith ceir rhaglen 'Cinio Croeso Cymru i Mr De Valera', Hydref 23, 1948, yn y Park Hotel, Caerdydd, dan nawdd Plaid Cymru, yn cynnwys llofnodion Eamon de Valera, Saunders Lewis, J. Kitchener Davies a Gwynfor Evans.

Pasport

Pasport, ffotograffau, cerdyn adnabod a thrwydded yrru G. J. Williams; ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947.

Ceisiadau am swyddi

Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.

Results 1 to 20 of 150