Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, 1924-1972, oddi wrth nifer o ohebwyr gwahanol at Dr Iorwerth Hughes Jones yn bennaf (ceir rhai llythyrau at ei wraig a'i dad). Mae'r llythyrau hyn yn trafod amrywiol bynciau megis materion celfyddydol a llenyddol; pynciau hanesyddol ac archaeolegol; enwau lleoedd; materion meddygol; gwleidyddiaeth, ac yn arbennig, gwleidyddiaeth Gymreig, gan gynnwys yr ymgyrch dros Senedd i Gymru, materion Plaid Cymru a llwyddiant etholaethol Dr Iorwerth Hughes Jones; materion cyhoeddus yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwy, megis ymgyrchoedd lleol, a'i aelodaeth ag amrywiol cymdeithasau a mudiadau; ceir cyfeiriadau at yr Ail Ryfel Byd mewn rhai llythyrau; ac yn ogystal â hyn oll fe geir llythyrau sydd yn fwy personol eu naws.

Llythyrau yn ôl pwnc

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau o anogaeth i olygyddion Y Faner, 1988-1989, yn ogystal â llythyrau yn ymwneud â chyfrannu erthyglau golygyddol i'r Faner, 1991.

Llythyrau: cronolegol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at olygydd Y Faner oddi wrth gyfranwyr yn bennaf, 1987-1992.

Datganiadau i'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan wahanol sefydliadau a chwmnïau, 1986-1992.

Results 161 to 180 of 567