Showing 674 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

Cwmystwyth. Darlun o'r pentref a Cwmystwyth village profile ,

  • NLW ex 2611.
  • file
  • 2008.

Copi o broffil cyfredol a wanaethpwyd o bentref Cwmystwyth yng Ngheredigion yn 2008 gan aelodau Egnïo Cambria / Cambrian Energetics yn cynnwys disgrifiad o'i gwasanaethau a'u pryderon, ynghyd â dadansiddiad ystadegol. = A copy of the present profile of Cwmystwyth viillage in Ceredigion, 2008, undertaken by members of Egnïo Cambria / Cambrian Energetics, which gives a description of its few and dwindling assets and retained services in view of the loss of vital services, difficulties for rural farmers, the threat of inappropriate developments etc.

Cantawd y Rondo,

  • NLW ex 2613.
  • file
  • 1963.

Copi o eiriau 'Cantawd y Rondo' o dan olygiaeth John Hughes, cyfieithiwyd geiriau Saesneg J. Michael Jones i'r Gymraeg gan Elizabeth Gerallt Jones, a'r gerddoriaeth gan Johannes Brahms a Richard Wagner. Fe'i perfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandudno a'r Cylch, 1963.

Papurau'n ymwneud â J. Glyn Davies,

  • NLW ex 2614.
  • file
  • [1957]- 2006.

Papurau ymchwil, [1957]- 2006, a gasglwyd gan y rhoddwr Cledwyn Jones wrth baratoi ei gyfrol Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870-1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2003), gan gynnwys llythyrau oddi wrth blant y bardd. = Research papers, [1957]- 2006, collected by the donor Cledwyn Jones whilst preparing his volume Mi wisga'i gap pig gloyw: John Glyn Davies, 1870-1953: shantis, caneuon plant a cherddi Edern (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2003), including letters from children of J. Glyn Davies.

Davies, J. Glyn (John Glyn), 1870-1953

Y Trwynau Coch,

  • NLW ex 2617.
  • file
  • [1978].

Papurau, [1978], yn ymwneud a'r grŵp pop Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan gynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito's yng Nghaerdydd a'r amodau, ac ychydig o dorion o'r Cymro yn ymwneud â'r grŵp.

Trwynau Coch (Musical group).

Papurau R. Leonard Hugh: Urdd Siarad Cymraeg,

  • NLW ex 2637.
  • file
  • 1950-1966.

Papurau, 1950-1966, gohebiaeth yn bennaf yn ymwneud ag Urdd Siarad Cymraeg, sef mudiad a sefydlwyd gan y Parch. Ddr R. Leonard Hugh ac eraill ym mis Mai 1947, ynghyd â llyfr nodiadau a chyfrifon a ddefnyddiwyd ym mhabell yr USC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth, 1952 ac yn Y Rhyl, 1953.

Hugh, R. Leonard.

Brawdoliaeth gyffredinol,

  • NLW ex 2638.
  • file
  • [?1897] /

Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].

Davies, William.

Papurau Gweithgor Deddf Newydd yr Iaith Gymraeg,

  • NLW ex 2639.
  • file
  • 1973, 1980-1990.

Papurau, 1973-1990, yn ymwneud â sefydlu gweithgor o dan gadeiryddiaeth yr Athro Dafydd Jenkins, Aberystwyth, i lunio a phwyso am Ddeddf Iaith Gymraeg newydd yn ystod y 1980au. Yr oedd y rhoddwr J. Cyril Hughes a Dr Meredydd Evans yn gweithio fel ysgrifenyddion ar y cyd. Mae'r papurau'n cynnwys cofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â'r gweithgor. = Papers, 1973-1990, relating to establishing a working party chaired by Professor Dafydd Jenkins, Aberystwyth, to press for a new Welsh Language Act in the 1980s. The donor J. Cyril Hughes and Dr Meredydd Evans were joint secretaries. The papers include minutes of meetings, correspondence and other papers relating to the working party.

Hughes, J. Cyril.

Llyfrau cerddoriaeth D. J. Griffiths,

  • NLW ex 2644.
  • file
  • [1926]-[1947] /

Tair llawysgrif gerddorol D. J. Griffiths, Crown Stores, Llandybie, yn cynnwys 'Tonau cynulleidfaol' a 'Tonau plant'. Ei enw gorseddol oedd 'Alawydd Tybie' ac roedd yn dad i'r rhoddwr T. Elwyn Griffiths. Cyfansoddwyd yr emyn-donau hyn rhwng 1926 a 1947 a nodir i rai ohonynt gael eu cyhoeddi yn Tywysydd y Plant.

Griffiths, D. J.

Results 601 to 610 of 674